Neidio i'r prif gynnwy

Mae deg o athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol ysbrydoledig wedi’u henwi fel enillwyr yn nhrydydd Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyrhaeddodd 29 y rownd derfynol, a chafodd pawb, o bob rhan o Gymru, eu gwahodd i ddathlu rhagoriaeth yn y byd addysg mewn seremoni arbennig yn Neuadd Sychdyn, yr Wyddgrug. Datgelwyd enillwyr y deg categori gan y comedïwr Tudur Owen a’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Enillwyd y categori Athro Newydd Rhagorol gan Gruff Arfon o Ysgol Tryfan, Bangor. Fe'i henwebwyd am ei arloesedd a'i ddull cynhwysol o addysgu, mae'n ysbrydoli pob disgybl ar draws yr ysgol. Cafodd y beirniaid argraff dda ar gymeriad pwyllog Gruff, a'r ffordd y mae'n rhoi disgyblion yn flaenllaw ym mhopeth y mae'n ei wneud.

Dywedodd Gruff:

“Doeddwn i ddim yn disgwyl y wobr i fod yn onast. Mae’n braf cael cydnabyddiaeth am y gwaith caled hefo cymaint o athrawon eraill dros Gymru. Mae pawb yn gweithio tuag at yr un nod; i wella addysg i blant.”

Rhian Morgan Ellis o Ysgol Gyfun Cwm Rhondda aeth â'r wobr Pennaeth y Flwyddyn. Fe'i henwebwyd am ei heffaith hirhoedlog ac eang ar gymuned yr ysgol gyfan, gwnaeth argraff ar y beirniaid gyda'i hymroddiad a'i ymrwymiad i wella cyfleoedd addysgol ei disgyblion.

Dywedodd Rhian:

“Mae’n anrhydedd fawr ac mae’n mor braf cael cydnabyddiaeth gan y Llywodraeth sydd mor gefnogol. Mae’n bleser i dderbyn y wobr ar ran y tîm yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.”

Enillwyr

  • Athro Newydd Rhagorol – Gruff Arfon, Ysgol Tryfan, Bangor
  • Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion – Amy Bolderson, Ysgol Uwchradd Pontypridd, Pontypridd
  • Cefnogi Athrawon a Dysgwyr – Emma Gray, Ysgol Basaleg, Casnewydd  
  • Defnydd Gorau o Ddysgu Digidol - Phil Meredith, Ysgol Gyfun Caerllion, Caerllion
  • Rheolwr Busnes/Bwrsar Ysgol – Gwyn Jones, Ysgol Eirias, Conwy
  • Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg – Mark Morgan, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful 
  • Athro’r Flwyddyn – Allison Pope, Ysgol Gynradd Cwm, Glynebwy
  • Hyrwyddo Cydweithio i Wella Canlyniadau Dysgu – Gemma Carr Evans, Coleg Penybont, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Hyrwyddo Lles, Cynhwysiant a Pherthnasau gyda’r Gymuned –  Ysgol Gynradd Tregatwg, Y Barri
  • Pennaeth y Flwyddyn - Rhian Morgan Ellis, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Y Porth

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Llongyfarchiadau mawr i bob un o’r deg enillydd yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni. Roedd safon yr enwebiadau mor uchel - mae pawb a gyrhaeddodd y seremoni heddiw yn haeddu cymeradwyaeth enfawr am eu holl waith caled ac ymrwymiad.

 “Mae’r gwobrau’n dyst i ymrwymiad rhagorol yr enillwyr i’n system addysg yng Nghymru. Pan lansiwyd y gwobrau dair blynedd yn ôl, roeddem eisiau dathlu’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymrwymedig i addysgu ein plant o ddydd i ddydd a gwneud ein hysgolion yn lleoedd gwych i ddysgu.

 “Bob blwyddyn rydym yn cael y cyfle i ddathlu agweddau gwahanol ar addysgu. Eleni gwnaethom gyflwyno’r wobr Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion am y tro cyntaf, sy’n cydnabod y rheini sy’n gwneud gwaith ieuenctid rhagorol ac sy’n cael effaith fawr ar fywydau pobl ifanc yn eu hysgol.

 “Mae ein gweithwyr cymorth, athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol wrth wraidd ein system addysg ac yn parhau i roi pobl ifanc yn gyntaf ym mhopeth a wnânt.”   

Bydd y seremoni wobrwyo ar gael i’w gwylio ar Facebook @EducationWales o 6pm ddydd Sul 19 Mai.

Cyflwynwyd tlysau Griffiths Jones unigryw, oll wedi’u cerfio â llaw, i bob un o’r deg enillydd.

I weld y rhestr lawn o unigolion a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillwyr, ewch i: https://llyw.cymru/gwobrau-addysgu-proffesiynol-cymru

Ymunwch â’r sgwrs gyda #GwobrauAddysguCymru a chadwch lygad ar sianeli cymdeithasol Addysg Cymru @WG_Education/@EducationWales.