Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2024
Rydym eisiau eich barn ar sut rydym yn bwriadu cryfhau anghenion cofrestru'r rhai sy'n gweithio yn y sector ôl-16.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Beth yw'r prif faterion?
Mae'r rhai sy'n gweithio ym maes addysg ôl-16, boed hynny mewn sefydliadau dynodedig neu yn y gymuned, yn ganolog yn y gwaith o helpu pobl i fod yn ddiogel, ac i ddysgu a ffynnu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio atgyfnerthu proffesiynoldeb y gweithlu hollbwysig hwn mewn ffordd glir. Aethom ati i ymgynghori gyntaf ym mis Mawrth 2022 ar gynigion i fynd i'r afael â rhai anghysondebau yn y gofynion cofrestru presennol ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn addysg bellach, fel rhan o'n cynigion i ymestyn y categorïau cofrestru ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol a'r sector ieuenctid. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, penderfynwyd dileu'r categorïau ôl-16 o'r ddeddfwriaeth a oedd yn cael ei gwneud bryd hynny a datblygu deddfwriaeth ar wahân a fyddai'n canolbwyntio ar y sector ôl-16.
Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i roi adborth ar y cynigion cychwynnol hynny. Mae'r ymatebion wedi cyfrannu at y broses o ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau penodol ar yr offeryn statudol drafft, gan gynnwys y strwythur ffioedd a chymorthdaliadau arfaethedig newydd. Ein bwriad yw cyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd hon yn ystod gwanwyn 2024.
Rydym wedi bod yn ofalus i ddadansoddi effeithiau posibl yr offeryn statudol drafft ar y gweithlu addysg yng Nghymru, gan ystyried ar yr un pryd yr angen i sicrhau cydraddoldeb lle bynnag y mae person yn gweithio. Fe'ch gwahoddir i wneud sylwadau ar ein dadansoddiad drwy'r ymgynghoriad hwn.
Mae'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad yn eich galluogi i roi eich barn a'ch safbwyntiau. Mae croeso ichi wneud sylwadau ar bob un o'n cynigion neu rai ohonynt, ac i wneud sylwadau ychwanegol perthnasol.
Sut mae'r trefniadau cofrestru yn gweithio ar hyn o bryd?
Mae cofrestru yn rhoi hawl i berson weithio mewn proffesiwn penodol. Mae'r amrywiaeth o broffesiynau a reoleiddir yn y DU yn eang ac yn tyfu. Yn eu plith mae'r proffesiwn cyfreithiol, y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, cyfrifyddiaeth, peirianneg a phensaernïaeth.
Mae'r trefniadau cofrestru yn golygu y gall y cyhoedd fod yn hyderus bod y bobl sy'n gweithio mewn proffesiwn penodol yn meddu ar gymwysterau addas, eu bod yn diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau yn gyson, a bod eu hymddygiad a'u cymhwysedd o safon briodol.
Fel rheoleiddiwr statudol annibynnol, rôl Cyngor y Gweithlu Addysg yw diogelu'r cyhoedd. Mae'n gwneud hyn drwy gynnal cofrestr o ymarferwyr addysg (y Gofrestr). Yn dilyn diwygiadau diweddar i'r categorïau cofrestru, fel y maent wedi’u nodi yng Ngorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 a ddaeth i rym ym mis Mai 2023, mae 11 categori cofrestru gwahanol erbyn hyn:
- athro ysgol a gynhelir
- athro addysg bellach
- athro ysgol annibynnol
- athro sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
- ymarferydd dysgu seiliedig ar waith
- gweithiwr ieuenctid
- gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a gynhelir
- gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach
- gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol
- gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
- gweithiwr cymorth ieuenctid
Mae'r gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg. Ar hyn o bryd, mae tua 85,000 o bobl wedi cofrestru gyda’r Cyngor.
Mae cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn ffordd i unigolion ddangos eu bod yn rhan o broffesiwn sy'n uchel ei statws a'i barch, sydd â gofynion mynediad penodol a disgwyliadau o ran ymddygiad a chymhwysedd.
Bydd yn rhoi hyder i’r cyhoedd bod gan y rhai sydd ar y Gofrestr y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymeriad i gyflawni'r dyletswyddau sy'n rhan o'u proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg yn nodi'r egwyddorion allweddol y gall y cyhoedd eu disgwyl.
Yn ogystal â manteision proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd, gall y rhai sydd wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd datblygu proffesiynol a chymorth. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys mynediad at hyfforddiant a swyddi drwy Addysgwyr Cymru, mynediad at ddigwyddiadau, canllawiau arfer da, a llyfrau a chyfnodolion ymchwil ar-lein, yn ogystal â'r Pasbort Dysgu Proffesiynol sy'n helpu unigolion sydd wedi cofrestru i gofnodi, rhannu a chynllunio eu llwybr dysgu a rhoi ystyriaeth iddo. Drwy'r cylchlythyrau a'r diweddariadau rheolaidd, gallant hefyd ddylanwadu ar bolisi drwy ymateb i ymgyngoriadau ac arolygon ac ymuno â gweithgorau.
Mae'n rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg gynnal ymchwiliad os honnir bod person cofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu drosedd berthnasol. Gall ymchwiliad arwain at orchymyn disgyblu a all, yn yr achosion mwyaf difrifol, arwain at dynnu enw'r person oddi ar y gofrestr.
Y cyflogwr neu'r asiantaeth, yn ogystal â'r ymarferwyr eu hunain, sy'n gyfrifol am sicrhau mai dim ond ymarferwyr cofrestredig a gyflogir i wneud y gwaith sy'n benodol i bob categori cofrestru.
Beth rydym am ei newid?
Roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym yn gynharach yn 2022 yn nodi'r bylchau yn y gofynion cofrestru presennol. Mae'r bylchau hyn yn golygu bod lefel y trefniadau rheoleiddio proffesiynol yn amrywio ar draws y gweithlu addysg, hyd yn oed pan fo unigolion yn cyflawni rolau tebyg iawn. Er enghraifft, rhaid i athro sy'n addysgu oedolion am Sgiliau Hanfodol ar ran sefydliad addysg bellach gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, ond nid yw ymarferydd sydd efallai yn gwneud yn union yr un fath yn y gymuned yn cofrestru.
Ein nodau, wrth wneud y newidiadau hyn, yw:
- cryfhau'r mesurau diogelu sydd ar waith i amddiffyn dysgwyr a staff
- rhoi cydraddoldeb i'r rhai sy'n gweithio mewn rolau tebyg
- sicrhau lefel o broffesiynoldeb ym mhob rhan o'r sector addysg
- pennu ymddygiadau disgwyliedig yn gyson ar draws y sector
- sicrhau y gall staff ym mhob rhan o'r sector addysg fanteisio ar amrywiaeth o adnoddau datblygu a hyfforddi a ddarperir drwy Gyngor y Gweithlu Addysg
- rhoi llwybr i unigolion neu sefydliadau i godi pryderon am bobl sy’n gweithio yn y sector a sicrhau yr ymchwilir i'r pryderon hynny yn annibynnol
Mae angen inni sicrhau bod mesurau priodol ar waith. Felly, mae'r Gorchymyn drafft yn cynnwys:
- gofyniad i athrawon addysg bellach feddu ar gymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf i weithio yn y sector
- gofyniad i ymarferwyr addysg oedolion sy’n gweithio yn y gymuned gofrestru
- gofyniad i ymarferwyr addysg oedolion feddu ar gymhwyster addysgu Lefel 3 o leiaf
- gofyniad i uwch reolwyr a phenaethiaid sy'n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach gofrestru
Athrawon Addysg Bellach
Mae'n ofynnol i athrawon sy'n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach gofrestru ers 2017. O 2024 ymlaen, bydd gofyn iddynt hefyd feddu ar gymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf, neu weithio tuag ato.
Bydd gan y rhai sy'n gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5 rhwng 3 a 5 mlynedd i ennill y cymhwyster, yn dibynnu a ydynt yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan amser.
Ymarferwyr Addysg Oedolion
Mae hwn yn gategori newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr addysg oedolion sy’n gweithio yn y gymuned gofrestru cyn dechrau gweithio yn y sector.
Bydd y gofyniad hwn yn berthnasol i unigolion sy'n darparu addysg bellach a hyfforddiant i oedolion yn y gymuned sy'n cael eu hariannu neu eu darparu fel arall gan yr awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru neu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Rydym hefyd yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i staff sy'n darparu addysg oedolion yn y gymuned feddu ar gymhwyster addysgu Lefel 3 o leiaf, neu weithio tuag ato. Bydd gan y rhai sy'n gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 3 rhwng 3 a 5 mlynedd i ennill y cymhwyster, yn dibynnu a ydynt yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan amser. Bydd hyn yn gam tuag at sicrhau rhywfaint o gydraddoldeb i staff ar draws y sector, ac yn rhoi hyder i gyflogwyr a dysgwyr bod gan y bobl a gyflogir i'w haddysgu y cymwysterau a'r sgiliau cywir ar gyfer y swydd.
Uwch Arweinwyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach
Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i uwch arweinwyr a phenaethiaid mewn sefydliadau addysg bellach gofrestru dim ond os ydynt yn perthyn i'r categori 'Athro AB', h.y., maent yn athrawon cymwysedig ac yn cynnig darpariaeth addysgol. Fodd bynnag, os nad yw uwch arweinwyr yn ymgymryd â gwaith penodol athrawon AB, nid yw'n ofynnol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Rydym yn cynnig cyflwyno categori newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob pennaeth ac uwch arweinydd gael eu cofrestru, hyd yn oed os nad ydynt yn addysgu. Bydd hyn yn cynnwys pawb sydd â rôl arweiniol o ran rheoli addysgu a dysgu mewn sefydliad addysg bellach neu ar ei ran. Bydd hyn hefyd yn cynnwys Prif Weithredwyr a allai fod yn gyfrifol am fwy nag un sefydliad neu grŵp.
Bydd y cynnig hwn yn sicrhau cydraddoldeb i'r gweithlu addysg bellach ac yn gwneud yn siŵr bod uwch arweinwyr yn atebol i’r un safon â gweddill eu staff.
Ffioedd a chymorthdaliadau
Mae'n rhaid i bawb sy'n cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg dalu ffi flynyddol. Y ffi a bennir yn Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yw £46 y person. Gall Llywodraeth Cymru ddewis rhoi cymhorthdal at y ffioedd os yw'n dymuno gwneud hynny.
Pan fo unigolyn wedi'i gofrestru mewn mwy nag un categori, dim ond un ffi y mae'n ofynnol iddo ei thalu. Y ffi uchaf fydd hon ar ôl cyfrifo unrhyw gymorthdaliadau.
Rhannwch eich barn â ni
Diolch am roi o'ch amser i ddarllen y ddogfen hon a’r Gorchymyn drafft cysylltiedig. Mae croeso ichi wneud unrhyw sylw. Fodd bynnag, byddem yn croesawu'n benodol sylwadau ar un neu fwy o'r cwestiynau yn y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad. Os hoffech ddweud mwy, defnyddiwch y lle pwrpasol yn y ffurflen.
Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno â'r cynnig y bydd yn rhaid i Athrawon Addysg Bellach feddu ar gymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf i allu gweithio yn y sector?
Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â'r rhestr arfaethedig o gymwysterau addysgu Lefel 5 (ac uwch) sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn drafft (gan gynnwys cymwysterau cyfatebol ar draws y DU a chymwysterau hanesyddol perthnasol)? Os ydych o’r farn y dylid hepgor unrhyw gymwysterau neu fod angen ychwanegu unrhyw gymwysterau, rhestrwch y rhain yn y blwch sylwadau ategol ac eglurwch pam.
Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i ychwanegu categori cofrestru ar gyfer ymarferwyr addysg oedolion sy’n gweithio yn y gymuned?
Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno â'r diffiniad o ymarferwyr addysg oedolion sy’n gweithio yn y gymuned sydd wedi’i gynnwys yn y deddfwriaethau?
Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â'r cynnig i'w gwneud yn ofynnol i ymarferwyr addysg oedolion sy’n gweithio yn y gymuned feddu ar gymhwyster addysgu Lefel 3 o leiaf?
Cwestiwn 6: Ydych chi’n cytuno â'r rhestr arfaethedig o gymwysterau addysgu Lefel 3 (ac uwch) sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn drafft (gan gynnwys cymwysterau cyfatebol ar draws y DU a chymwysterau hanesyddol perthnasol)? Os ydych o’r farn y dylid hepgor unrhyw gymwysterau neu fod angen ychwanegu unrhyw gymwysterau, rhestrwch y rhain yn y blwch sylwadau ategol ac eglurwch pam.
Cwestiwn 7: Ydych chi’n cytuno â'r gofyniad arfaethedig i bob uwch arweinydd a phennaeth mewn Sefydliadau Addysg Bellach gael eu cofrestru?
Cwestiwn 8: Ydych chi’n cytuno â'r cynnig na ddylai fod yn ofynnol i wirfoddolwyr neu'r rhai sy'n darparu hyfforddiant mewn perthynas â phroffesiwn ar sail dros dro neu achlysurol ar gyfer Sefydliad Addysg Bellach gofrestru gyda'r Cyngor?
Cwestiwn 9: Ydych chi’n cytuno â'r strwythur ffioedd ar gyfer y categorïau cofrestru newydd arfaethedig?
Cwestiwn 10: Ydych chi’n credu bod yna newidiadau eraill i'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â’r newidiadau arfaethedig i’r categorïau a’r gofynion cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg y dylid eu hystyried?
Cwestiwn 11: Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol categorïau cofrestru newydd Cyngor y Gweithlu Addysg ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol?
Cwestiwn 12: Yn eich barn chi, a allai'r ddeddfwriaeth ar y categorïau cofrestru newydd gael ei llunio neu ei newid er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Cwestiwn 13: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech chi godi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi’u hystyried yn benodol, defnyddiwch y gofod hwn i wneud hynny:
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaeth graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113