Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Opsiynol wrth iddynt arfer unrhyw rai o’u swyddogaethau. 

1. Amcanion y polisi  

Bydd Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2024 yn cael ei roi ar waith yng nghyd-destun agenda ehangach Llywodraeth Cymru i Drechu Tlodi a helpu economïau gwledig i dyfu a ffynnu, gan gyfrannu rhagor at economi ehangach Cymru.

Dyma brif amcanion Gorchymyn 2024:

  • sicrhau bod cyflogau'n adlewyrchu'r amodau economaidd presennol;
  • annog datblygu a chadw sgiliau angenrheidiol yn y sector a helpu pobl i ddatblygu gyrfa yn y diwydiant;
  • cefnogi llwyddiant hirdymor y diwydiant drwy annog gweithwyr ifanc i ymuno; a
  • talu cyflogau teg i weithwyr a chefnogi twf cymunedau gwledig ym mhob rhan o Gymru yng nghyd-destun agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru.

Y rheini y bwriedir iddynt elwa ar hyn yw pawb sy'n gweithio yn y sector amaethyddiaeth neu sy'n ymuno â'r sector.

Dylid nodi bod y Gorchymyn yn berthnasol i bob gweithiwr 16 oed a hŷn ac yn pennu isafswm cyflog i bob gweithiwr, gan sicrhau na chymerir mantais ar bobl ifanc sy'n cael eu cyflogi. 

Mae'r holl blant ysgol sy'n gweithio yn y DU yn cael eu diogelu gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae'r Ddeddf yn gosod cyfyngiadau ar y math o waith y caniateir iddynt ei wneud, a hefyd ar faint yr oriau y caiff person ifanc o oedran ysgol gorfodol eu gweithio. 

Prif amcanion y ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr ifanc (16 oed a hŷn) o fewn y fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol ("AMW") yw sicrhau eu bod yn ennill tâl digonol ac yn cael cyfle i gael profiad gwaith gwerthfawr.

Dyma raddau a chyfraddau'r fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol a gynigir yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 (dangosir hefyd gyfraddau cymharol Gorchymyn 2023):

Raddau a chyfraddau'r fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol
Categori GweithiwrCyfraddau 2024Cyfraddau cymharol 2023
A1 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (16-17 oed)£6.56£5.28
A2 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (18-20 oed)£8.82£7.49
A3 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (21+ oed)*£11.73£10.23
A4 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (23+ oed)* £10.47
B1 – Gweithiwr Amaethyddol (16-17 oed)£6.56£5.28
B2 – Gweithiwr Amaethyddol (18-20 oed)£8.82£7.49
B3 – Gweithiwr Amaethyddol (21+ oed)*£11.79£10.23
B4 – Gweithiwr Amaethyddol (23+ oed)* £10.74
C – Gweithiwr Amaethyddol Uwch£12.27£11.07
D – Uwch-weithiwr Amaethyddol£13.46£12.14
E – Rheolwr Amaethyddol£14.77£13.32
Categori GweithiwrCyfraddau 2024Cyfraddau cymharol 2023
Prentis Blwyddyn 1£6.40£5.28
Prentis Blwyddyn 2 (16 - 17 oed)£6.40£5.28
Prentis Blwyddyn 2 (18 - 20 oed)£8.60£7.49
Prentis Blwyddyn 2 (21+ oed)*£11.44£10.23
Prentis Blwyddyn 2 (23+ oed)* £10.42

*O fis Ebrill 2024 bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cwmpasu pobl ifanc 21 a 22 oed hefyd. Mae bandiau oedran 2024 wedi'u newid yn unol â hynny ac mae'r bandiau 23+ oed wedi'u dileu.

Cynigiodd y Panel hefyd fod y lwfansau canlynol yn cynyddu 8.5%:

LwfansCyfraddau 2024Cyfraddau cymharol 2023
Lwfans Ci - fesul ci bob wythnos£10.16£9.36
Lwfans ar gyfer Gwaith Nos – fesul awr o waith nos£1.93£1.78
Lwfans Geni a Mabwysiadu – fesul plentyn£79.86£73.60

Mae fframwaith AMW yn cynnwys set eang o daliadau a lwfansau amaethyddol sydd ar gael i bob gweithiwr yn y sector, gan gynnwys taliadau goramser, lwfans ar alwad, tâl atodol ar gyfer gwaith nos, lwfans gwrthbwyso llety a lwfans cŵn. Mae Gorchymyn 2024 yn parhau i sicrhau bod gweithwyr ifanc mewn amaethyddiaeth yn cael cyflog teg gyda phecyn cynhwysfawr o fuddion gwaith ychwanegol.

Mae'r Panel yn cadw bandiau oedran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ("NMW") / Cyflog Byw Cenedlaethol ("NLC") ar gyfer y gweithwyr ar y graddau is. Un o amcanion yr AMW yw annog hyfforddiant ffurfiol gan gynnwys prentisiaethau. Gallai dileu'r bandiau oedran annog cyflogwyr i beidio â chyflogi pobl ifanc pe bai'n rhaid iddynt dalu'r cyfraddau uwch iddyn nhw. Byddai llai o gymhelliant hefyd i weithwyr gwblhau prentisiaethau. 

Mae rhanddeiliaid allweddol fel yr undebau ffermio wedi dweud eu bod o blaid cadw'r ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr ifanc sydd yn fframwaith AMW Cymru - y consensws yw ei bod yn annog pobl ifanc i gael profiad gwaith gwerthfawr a gall helpu'r diwydiant i ddenu gweithwyr newydd yn y dyfodol. Roedd y Panel yn credu hefyd bod pennu cyfraddau cyflog fesul awr yn helpu i ddiogelu gweithwyr ifanc ac yn sicrhau bod eu gwaith yn cael ei gydnabod a'u bod yn cael eu talu yn unol â'u dyletswyddau.

Ystyrir bod Gradd A y fframwaith AMW yn radd bontio. Mae'r darpariaethau statudol yn darparu bod gweithwyr Gradd A yn cael mynd am hyfforddiant er mwyn cael symud i radd uwch, ar ôl 30 wythnos o gyflogaeth ddi-dor, ar gost y cyflogwr. Gall hyn fod yn llwybr dilyniant i weithwyr newydd sy'n ymuno ag amaethyddiaeth. 

Bwriad polisi'r Panel yw denu gweithwyr newydd i'r diwydiant a chynnig amodau ffafriol i'r rheini sydd am ymuno â rhaglenni prentisiaeth amaethyddol. Mae'r darpariaethau ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant o fewn y Gorchymyn yn cefnogi olyniaeth ac yn datblygu a chadw sgiliau o fewn y diwydiant. Mae pob un o'r rhain yn hanfodol i lwyddiant amaethyddiaeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n hanfodol bod darpariaethau yn y Gorchymyn i helpu pobl i ddatblygu'u gyrfa a gweithwyr newydd sy'n ymuno â'r diwydiant trwy eu helpu i ennill sgiliau a chymwysterau, a all wella eu rhagolygon am waith yn y dyfodol. 

Efallai y bydd yr AMW yng Nghymru yn creu gwahaniaeth yng nghyflogau rhai graddau rhwng Cymru a Lloegr. Gallai hynny roi ffermwyr o dan anfantais os ydyn nhw'n cystadlu'n bennaf â chynhyrchwyr yn Lloegr, am y gallai gynyddu costau. Ond mae'n debygol y bydd effeithiau o'r fath yn gymharol fach ar y cyfan ac ni fyddant yn effeithio ar weithwyr iau yn y graddau is gan fod y cyfraddau'n cael eu gosod ar lefelau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae effaith economaidd y Gorchymyn newydd wedi cael ei ystyried yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gyhoeddir gyda Gorchymyn 2024.

2. Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Mae'r holl blant ysgol sy'n gweithio yn y DU yn cael eu diogelu gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae'r Ddeddf yn gosod cyfyngiadau ar y math o waith y caniateir iddynt ei wneud, a hefyd ar faint yr oriau y caiff person ifanc o oedran ysgol gorfodol eu gweithio. Mae gweithwyr ifanc dros 16 oed yn ddarostyngedig i'r Fframwaith Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ond nid yw hyn yn pennu isafswm cyfraddau statudol ar gyfer gweithwyr ifanc o dan 16 oed.

Wrth gynnal fframwaith yr Isafswm Cyflog Amaethyddol a chynyddu cyfraddau cyflog gweithwyr amaethyddol, gan gynnwys gweithwyr ifanc a phrentisiaid, barn Llywodraeth Cymru yw bod y gwaith yn helpu i wireddu hawliau canlynol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ["CCUHP"], neu'n effeithio arnyn nhw:

Erthyglau neu Brotocol Opsiynol y ConfensiwnYn gwella (X)Herio (X)Esboniad 

Erthygl 1 - Mae gan bawb dan 18 oed yr holl hawliau sydd yn y Confensiwn hwn.

Erthygl 2 - Mae'r Confensiwn yn gymwys i bawb beth bynnag fo'i hil, crefydd, galluoedd, beth bynnag y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono.

Erthygl 3 - Dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio at wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn.

Erthygl 4 - Dylai llywodraethau sicrhau bod yr hawliau hyn ar gael i blant.

Erthygl 12 - Mae gan blant yr hawl i ddweud beth yn eu barn nhw ddylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried.

 

 

X 

Mae'r erthyglau hyn yn ymwneud â lles cyffredinol plant a'r ystyriaeth a roddir iddyn nhw. Gwneir hyn o dan y darpariaethau statudol gan eu bod yn gymwys i bob gweithiwr 16 oed a throsodd. Mae'r Gorchymyn yn pennu isafswm cyflog i bob gweithiwr,  gan sicrhau na chymerir mantais ar bobl ifanc sy'n cael eu cyflogi. Mae hefyd yn bwysig nodi bod y cyfraddau hyn wedi'u pennu yng nghyd-destun cyfreithiau cyflogaeth eraill y DU sy'n nodi cyfyngiadau ar yr oriau y caniateir i blant weithio yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae darpariaethau'r Gorchymyn yn berthnasol i bob gweithiwr 16 oed a hŷn gan gynnwys gweithwyr mudol a mewnfudwyr. Mae darpariaeth a gyflwynwyd yn 2022 yn sicrhau bod cymwysterau cyfatebol perthnasol (a ddyfarnwyd y tu allan i'r DU) sy'n gallu pennu gradd a chyflog y gweithiwr yn cael eu cydnabod o fewn fframwaith AMW. Mae hyn yn sicrhau bod gan weithwyr mudol a mewnfudwyr yr un hawliau â'r rheini a aned yn y DU.

Prif amcanion y ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr ifanc (16 oed a hŷn) o fewn y fframwaith AMW yw sicrhau eu bod yn ennill tâl digonol ac yn cael cyfle i gael profiad gwaith gwerthfawr. Mae'r amcanion hyn yn cefnogi Erthyglau 3 a 4 yn benodol. 

Ni wnaeth yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad ym mis Hydref / Tachwedd 2023 roi unrhyw sylwadau penodol ar hawliau plant. Cafodd grwpiau plant a grwpiau ffermwyr ifanc eu targedu yn ystod y cyfnod ymgynghori, ond ni chafwyd ymateb gan yr un ohonynt. Ceir rhestr yn Adran 6 o gyrff / sefydliadau plant a phobl ifanc yr anfonwyd copi o'r ddogfen ymgynghori atyn nhw.

Oherwydd y diffyg ymatebion hyd yma, mae'r Panel yn bwriadu ystyried ffyrdd o wella'r cysylltiad â grwpiau Plant a grwpiau Ffermwyr Ifanc yn y dyfodol. Mae cynrychiolwyr CFfI Cymru a Cholegau Cymru ar yr is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant. Gwnaeth yr is-bwyllgor gais a oedd ar agor tan 2 Ebrill 2024 am dystiolaeth ar addysg gyrfaoedd, sgiliau, hyfforddiant a datblygiad i weithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth . Bydd hyn yn cyfrannu at greu gweledigaeth strategol fydd yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y sectorau amaethyddol, garddwriaeth a choedwigaeth yng Nghymru.

Bydd yr amcanion hyn yn cefnogi ac yn hyrwyddo Erthygl 12.

Erthygl 6 - Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw. Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach.

Erthygl 27 - Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl pob plentyn i gael safon byw sy'n ddigonol ar gyfer datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol y plentyn.

X 

Mae'r Gorchymyn yn parhau i ddiogelu cyflogau gweithwyr fferm ac felly bydd yn parhau i gynnig y lefel gyfredol o amddiffyniad i blant gweithwyr fferm rhag byw mewn tlodi, yn ogystal â chefnogi gweithwyr ifanc a'u cyfleoedd i ddatblygu gyrfa. 

O dan fframwaith AMW byddai'r pecyn buddion a chyflogau i weithwyr amaethyddol, i bawb, yn uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

 

Erthygl 29 – Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalent pob plentyn yn gyflawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a'u diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill.

 

X 

Mae darpariaethau o dan fframwaith AMW, megis strwythur gyrfa sy'n cysylltu lefelau cyflog â chymwysterau a phrofiad a'r matrics cyflog ar gyfer prentisiaid, yn cefnogi pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd ystyrlon mewn amaethyddiaeth ac yn rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddilyn addysg ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw yn eu dewis faes.

Mae'r system AMW yn cynnal pobl ifanc sy'n dilyn cynlluniau addysgol mewn amaeth yng Nghymru. Mae'r darpariaethau ar gyfer prentisiaid yn cynorthwyo olyniaeth, datblygu sgiliau a chadw sgiliau yn y diwydiant. Mae hefyd yn sicrhau tâl i weithwyr ifanc sydd nid yn unig yn eu helpu i gael profiad gwaith pwysig a gwerthfawr yn y byd ffermio ond all hefyd gynyddu eu gwerthfawrogiad o waith fferm a threftadaeth eu diwylliant gwledig.

Erthygl 32 (1) -  Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i gael ei amddiffyn rhag unrhyw gamfanteisio economaidd a rhag gorfod gwneud unrhyw waith sy'n debyg o fod yn beryglus neu o amharu ar addysg y plentyn, neu o niweidio iechyd y plentyn neu ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol neu gymdeithasol. 

Erthygl 32 (2) - Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau deddfwriaethol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol i sicrhau bod yr erthygl bresennol yn cael ei rhoi ar waith. I'r perwyl hwn, a chan roi sylw i ddarpariaethau perthnasol offerynnau rhyngwladol eraill, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn benodol:

(a) Bennu'r oedran neu oedrannau isaf ar gyfer cael gwaith cyflog;

(b) Rheoleiddio oriau ac amodau cyflogaeth mewn ffordd briodol;

Darparu cosbau priodol neu sancsiynau eraill i sicrhau y caiff yr erthygl bresennol ei gorfodi'n effeithiol.

X 

Mae pennu tâl fesul awr i bobl ifanc o dan fframwaith AMW yn sicrhau bod eu gwaith yn cael ei gydnabod a'u bod yn cael eu talu yn unol â'u dyletswyddau. Bydd yn helpu hefyd i amddiffyn gweithwyr ifanc bregus rhag i neb allu camfanteisio arnynt yn unol ag Erthygl 32 o'r CCUHP. Hefyd, mae pennu isafswm cyflog yn cydnabod cyfraniad gweithwyr ifanc i'r economi a chynhyrchu amaethyddol gan gynnig yr un pryd brofiad gwaith gwerth chweil a gwerthfawr a all eu helpu i gael gwaith yn y dyfodol.

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i orfodi'r cyfraddau AMW cymwys ac ymchwilir i unrhyw gŵyn a ddaw i law am dramgwyddo'r drefn statudol. Os gwelir y bu tramgwydd, mae gan Lywodraeth Cymru fodd i orfodi'r cyflogwr i dalu unrhyw dandaliad a gadarnheir i'r gweithiwr dan sylw. Mae'r drefn orfodi'n berthnasol i'r categorïau o weithwyr a ddaw o dan Orchymyn 2024 gan gynnwys gweithwyr ifanc a phrentisiaid.

 

Erthygl 36 - Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau amddiffyn y plentyn rhag unrhyw ffurf arall ar gamfanteisio sy'n niweidiol i unrhyw agwedd ar les y plentyn.

 

X 

Mae lles gweithwyr ifanc yn cael ei ddiogelu o dan fframwaith AMW trwy gynnig tâl priodol bob awr i weithwyr ifanc a phrentisiaid a thrwy gefnogi pawb a gyflogir mewn amaethyddiaeth yng Nghymru i ddatblygu sgiliau a gyrfa. Mae darpariaethau'r Gorchymyn yn gymwys yng nghyd-destun cyfraith ehangach y DU sy'n gosod terfynau ar nifer yr oriau y gellir eu gweithio a'r math o waith y gellir ei wneud i sicrhau nad yw eu hiechyd, lles na'u haddysg yn cael ei niweidio. 

Mae cael trefn ar wahân i bobl ifanc yn gwireddu nifer o amcanion - mae'n sicrhau eu bod yn cael cyflog derbyniol sy'n cydnabod ac yn parchu eu cyfraniad mewn amgylchedd ffermio ac mae'n eu helpu i ddatblygu sgiliau amrywiol a throsglwyddadwy sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a all arwain at well cyfleoedd gwaith ac addysg yn y dyfodol.

Ni fydd Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2024 yn effeithio ar bobl ifanc o'r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd na'r Swistir. Diogelir eu hawliau nhw gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion gan fod cyfraddau'r isafswm cyflog a thelerau ac amodau eraill yn berthnasol i bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth sy'n cael ei gyflogi yng Nghymru.

3. Cyngor i Weinidogion a Phenderfyniad y Gweinidog

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cael gwybod am ganlyniad yr ymarferion ymgynghori ar y cyfraddau newydd. Nid oedd yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn rhoi sylw penodol i hawliau plant. Cafodd grwpiau plant a grwpiau ffermwyr ifanc eu targedu yn ystod y cyfnod ymgynghori, ond ni chafwyd ymateb gan yr un ohonynt. Ceir rhestr yn Adran 6 o gyrff / sefydliadau plant a phobl ifanc yr anfonwyd copi o'r ddogfen ymgynghori atyn nhw.

Disgwylir i'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol newydd ddod i rym ar 1 Ebrill 2024.

4. Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Nid oes data ar gael ar faint o bobl ifanc sy'n cael eu cyflogi fel gweithwyr amaethyddol yng Nghymru, er bod disgwyl i'r nifer fod yn isel a byddent yn fwyaf tebygol o fod yn aelodau o'r teulu [The Implications for the National Minimum Wage of the Abolition of the Agricultural Wages Board in England and Wales (Income Data Services, 2011)]. 

Canfu arolwg yn 2009 gan y BBC lle cymerodd 101 o'r 175 awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr ran fod tua 30,000 o weithwyr ifanc rhwng 13 ac 16 oed mewn rhyw fath o gyflogaeth. Dim ond cyfran fach o'r rhain fyddai wedi cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod y sefyllfa hon wedi newid ers hynny. 

Mae cynrychiolwyr CFfI Cymru a Colegau Cymru yn aelodau o'r is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant, yn benodol i roi barn arbenigol ar anghenion pobl ifanc yn y sector amaethyddol. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad wedi'i dargedu rhwng 23 Hydref a 19 Tachwedd 2023 am y newidiadau arfaethedig. Gosodwyd y cynigion ar dudalen we Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'u e-bostio at restr hir o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant ac sy'n gofalu am eu buddiannau. 

Er bod gan bobl ifanc gyfleoedd agored a theg i gymryd rhan yn y broses ymgynghori, ni chafwyd unrhyw ymatebion gan y sefydliadau hyn.

 Er mwyn asesu effaith y polisïau hyn, mae'r Panel, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y byddai angen ystadegau sylfaenol manylach am bobl â nodweddion gwarchodedig, sectorau perthnasol, yr oriau a weithir, h.y. yn rhan-amser, achlysurol etc, a chategorïau gweithwyr. 

Cynhaliwyd ymarfer casglu data sylfaen yn 2021 ond dim ond nifer fechan o ganlyniadau a gafwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Panel i geisio gweld pa mor ymarferol fyddai hi i gael gafael ar ddata cadarn a fyddai'n gwella sail Gorchmynion yn y dyfodol. Mae nifer o heriau arwyddocaol y byddai angen cryn dipyn o amser, arian ac adnoddau i fynd i'r afael â nhw, ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddai data digon cadarn ar gael yn y diwedd. Bernir bod yr ymdrech sydd ei hangen er mwyn cael gafael ar ddata yn anghymesur o gofio cwmps ac effaith y maes polisi,  yn enwedig o ystyried y pwysau ariannol mawr sydd ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Oherwydd y diffyg tystiolaeth, ni ellir mesur effaith y Gorchymyn gyda sicrwydd ond bydd y newidiadau a wneir yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc.

5. Monitro ac Adolygu

Drwy barhau i drafod â rhanddeiliaid, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effaith Gorchymyn 2024, ac unrhyw Orchmynion dilynol a gynigir gan y Panel Cynghori Amaethyddol, ar y sector amaethyddol, gan gynnwys gweithwyr ifanc. Bydd rhif llinell gymorth a chyfeiriad e-bost ar gael o hyd ar gyfer ymholiadau am Orchymyn 2024. Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn helpu i asesu effeithiolrwydd y Gorchymyn ac yn llywio Gorchmynion yn y dyfodol.

Mae Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 wedi cael ei hadolygu fel rhan o ofynion statudol Deddf 2014. Mae adran 13 yn pennu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf o fewn tair blynedd ar ôl i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol (30 Gorffennaf 2017). Bydd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am effaith y Ddeddf ar weithwyr amaethyddol, cyflogwyr a'r sector yn gyffredinol. Gosodwyd yr adroddiad ger bron Senedd Cymru:

Adroddiad o’r Deddf Sector Amaethyddol 2014

6. Rhestr Dosbarthu Ymgynghoriadau (Plant a Phobl Ifanc)   

Gweithredu dros Blant
Barnardo’s Cymru
Cyngor Ieuenctid Prydain
Plant yng Nghymru / Children in Wales
Comisiynydd Plant Cymru
Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
MEIC
Y Mudiad Meithrin
NSPCC Cymru
The Prince’s Trust Cymru
Achub y Plant - Cymru
TGP Cymru
UK Youth
Young Wales
Sefydliad Ieuenctid Unedig