Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024: Asesiad Effaith Integredig
Asesiad o effaith y newidiadau a gyflwynwyd yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu'r 10 amcan llesiant y bydd y Llywodraeth yn eu defnyddio i sicrhau ei bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at y saith nod llesiant hirdymor a bennwyd ar gyfer Cymru. Bydd y cynnig presennol yn helpu i adeiladu economi sy'n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd ac ar ddiwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol, a bydd hefyd yn gwneud dinasoedd, trefi a phentrefi yn lleoedd hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddynt. Ymhlith y nodau penodol yn Neddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n berthnasol yn yr achos hwn y mae gwneud Cymru'n ffyniannus – datblygu economi wledig sy'n creu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyfartal a gwlad sy'n gryf yn ecolegol, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Bydd y gwaith yn helpu hefyd i sicrhau cymunedau cydlynus â diwylliant bywiog lle mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu.
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) (Rhif 2) 2023 (“Gorchymyn 2023”) yw’r Gorchymyn cyfredol. Nod y polisi hwn yw cyflwyno Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 (“Gorchymyn 2024”) sy'n rhagnodi'r cyfraddau tâl isaf fesul awr i weithwyr amaethyddol, ynghyd â thelerau, amodau a buddion eraill. Mae’r Gorchymyn yn cael ei wneud yn unol â’r pwerau yn Neddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Corff cynghori annibynnol a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2016 gan Orchymyn Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (Sefydlu) 2016 (“”Gorchymyn y Panel”) o dan Adran 2(1) o Ddeddf 2014 yw Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (“y Panel”). Mae Gorchymyn y Panel yn pennu bod gan y Panel saith aelod:
- dau gynrychiolydd ar ran Undeb Unite
- un cynrychiolydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru
- un cynrychiolydd ar ran Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr – Cymru
- tri aelod annibynnol – gan gynnwys Cadeirydd annibynnol
Penodir yr aelodau annibynnol a’r Cadeirydd drwy’r Broses Penodiadau Cyhoeddus.
Mae Erthygl 3(2) o Orchymyn y Panel yn nodi swyddogaethau'r Panel, sef
- hyrwyddo gyrfaoedd ym maes amaethyddiaeth;
- paratoi fersiynau drafft o orchmynion cyflogau amaethyddol, ymgynghori am y gorchmynion hynny, a’u cyflwyno i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru;
- cynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol yng Nghymru yn unol â gofynion Gweinidogion Cymru.
Prif rôl aelodau annibynnol y Panel yw mynegi eu barn arbenigol mewn trafodaethau am faterion allweddol, a chynnig cyngor am y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant.
Mae cyfrifoldeb allweddol ar holl aelodau'r Panel i helpu i sicrhau bod Gorchmynion drafft teg a rhesymol yn cael eu cyflwyno am faterion sy'n gysylltiedig â lefelau tâl isaf a thelerau ac amodau perthnasol ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru fel y'u diffinnir yn Neddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.
Cyfarfu'r Panel ar 4 a 5 Medi 2023 i benderfynu a ddylid cynnig newidiadau i Orchymyn Cyflogau 2023 ai peidio. Cynhaliwyd ymgynghoriad wedi'i dargedu rhwng 23 Medi a 19 Tachwedd 2023 am y newidiadau arfaethedig. Anfonwyd y cynigion drwy’r e-bost at restr hir o randdeiliaid ac fe’u cyhoeddwyd ar dudalen Ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ar y we. Roedd copïau caled hefyd ar gael o ofyn amdanynt.
Dim ond un ymateb a gafwyd i'r ddogfen ymgynghori. Cododd nifer o bwyntiau penodol iawn am y bandiau oedran yn y Gorchymyn a hefyd sut y cyfrifir yr hawl i wyliau ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio rhan o flwyddyn ac oriau afreolaidd.
Gwnaeth y Panel gydnabod ac ystyried yr ymateb. Mae esemptiad penodol yn Neddf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n caniatáu i gyflogwyr dalu llai na'r Cyflog Byw Cenedlaethol i weithwyr iau cyn belled â'u bod yn cael eu talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoedran. Roedd sut y cyfrifir yr hawl i wyliau yn bwynt dilys, ac arweiniodd at ddiwygio’r darpariaethau hynny yng Ngorchymyn 2024 yr effeithir arnynt gan Reoliadau Hawliau Cyflogaeth (Diwygio, Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) 2023.
Cyflwynodd y Panel ei gynigion i Lywodraeth Cymru ar 11 Rhagfyr 2023.
Bydd y cyfraddau tâl isaf a gynigir gan y Panel yng Ngorchymyn 2024 yn disodli'r cyfraddau yng Ngorchymyn 2023. Bydd cyflwyno Gorchymyn 2024 yn helpu i sicrhau bod pob gweithiwr amaethyddol yn parhau i gael ei ddiogelu yn y ffordd angenrheidiol ac yn cael cyflog teg sy'n adlewyrchu natur ei waith a lefel ei gyfrifoldebau. Bydd darpariaethau yng Ngorchymyn 2024 yn parhau i wobrwyo cymwysterau a/neu brofiad ym maes amaethyddiaeth drwy gynnig cyfraddau cyflog gwahanol sy’n seiliedig ar lefel y sgìl y mae ei hangen ar bob gradd. Mae hynny'n ffordd o annog gweithwyr i feithrin sgiliau yn y sector.
Bydd Gorchymyn 2024 yn cael ei baratoi yng nghyd-destun agenda ehangach Llywodraeth Cymru i Drechu Tlodi, ac i helpu economïau gwledig i dyfu a ffynnu, gan gyfrannu at economi ehangach Cymru.
Gan fod y rheoliadau’n is-ddeddfwriaeth, aed ati i gwblhau Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Casgliad
Wrth ddatblygu’r cynnig, sut yr aed ati i gynnwys y bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt?
Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol a thelerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru.
Mae 7 aelod ar y Panel: cynrychiolwyr ar ran Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ‒ Cymru, Undeb Unite, a thri aelod annibynnol (gan gynnwys y Cadeirydd).
Cynhaliwyd ymgynghoriad dros gyfnod o 4 wythnos a gofynnwyd i nifer o bobl â nodweddion gwarchodedig am eu hymateb. Cafodd y prif randdeiliaid eu cynnwys hefyd, gan gynnwys undebau’r ffermwyr, UNITE a'r colegau amaethyddol. Anogwyd aelodau’r Panel i rannu’r cynigion drwy eu rhwydweithiau nhw.
Roedd yr ymgynghoriad ar gael ar dudalen Ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ar y we ac roedd copïau caled ar gael o ofyn amdanynt.
Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Dylai rhai o'r bobl hynny sy'n gweithio yn y sector amaethyddiaeth neu sy'n ymuno â'r sector hwnnw, yn ogystal â’u teuluoedd, elwa ar y darpariaethau sy’n ymwneud ag isafswm cyflog a hyfforddiant a meithrin sgiliau er mwyn hyrwyddo’u gyrfaoedd. Mae manteision ehangach i economi Cymru ac i'n cymunedau hefyd o gael cyflogau a lwfansau teg a gweithlu mwy medrus.
Mae darpariaethau'r Gorchymyn, gan gynnwys y cyfraddau isaf, yn gymwys i bob gweithiwr 16 oed a throsodd. Mae hynny'n sicrhau bod gweithwyr yn cael cyfraddau isaf sy'n deg, hyd yn oed pan fyddant yn cael eu cyflogi'n ifanc, a bod y cyfraddau hynny'n rhai y gall busnesau fferm eu fforddio, gan sicrhau bod y sector yn ariannol hyfyw.
Mae'r holl blant ysgol sy'n gweithio yn y DU yn cael eu diogelu gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae'r Deddf yn gosod cyfyngiadau ar y math o waith y caniateir iddynt ei wneud, a hefyd ar faint o oriau y caiff pobl ifanc o oedran ysgol gorfodol eu gweithio.
Bydd cyflogau a lwfansau teg a gweithlu medrus iawn esgor ar fanteision ehangach i economi Cymru. Mae'r Panel a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r undebau amaethyddol a chynrychiolwyr y gweithwyr i ddangos bod amaethyddiaeth yn llwybr cyflogaeth hyfyw i bawb, gan gynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.
Nid oes gennym unrhyw reswm dros gredu y bydd y Gorchymyn yn cael unrhyw effaith anghymesur neu’n arwain at unrhyw wahaniaethu, a hynny oherwydd bod y darpariaethau sydd ynddo yn gymwys i bob gweithiwr amaethyddol cyflogedig. Fodd bynnag, mae'r Panel, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y byddai ystadegau sylfaenol manylach am bobl â nodweddion gwarchodedig, am sectorau perthnasol, yr oriau a weithir, h.y. rhan-amser, achlysurol etc., ac am raddau, yn ddefnyddiol.
Cynhaliwyd ymarfer i gasglu data sylfaenol yn 2021 ond ychydig yn unig o ganlyniadau a gafwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Panel i geisio gweld a fyddai’n ymarferol cael gafael ar ddata cadarn a fyddai'n gwell sail i Orchmynion yn y dyfodol. Mae nifer o heriau arwyddocaol yn hynny o beth y byddai angen cryn dipyn o amser, arian ac adnoddau i fynd i'r afael â nhw, ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddai data digon cadarn ar gael yn y diwedd. Bernir bod yr ymdrech sydd ei hangen er mwyn cael gafael ar ddata yn anghymesur o gofio cyrhaeddiad ac effaith y maes polisi, o gofio hefyd nad oes unrhyw sicrwydd am ansawdd y data hynny yn y pen draw, ac yn enwedig o ystyried y pwysau ariannol mawr sydd ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Bydd y Gorchymyn hefyd yn cefnogi cymunedau gwledig lle mae'r iaith Gymraeg yn gyffredin, drwy helpu i gynnal cymunedau Cymraeg cydlynol a ffyniannus mewn ardaloedd lle mae cyflogaeth ym maes amaethyddiaeth yn un o'r prif opsiynau gyrfa. Bydd yr effaith economaidd a gaiff cyfraddau isaf teg, a'r gydnabyddiaeth a roddir yn y strwythur graddau i'r sgiliau sydd eu hangen, yn helpu cymunedau gwledig i fod yn gynaliadwy
Mae Gorchymyn 2024 o gymorth uniongyrchol i gynnal y Gymraeg yn ei ‘chadarnleoedd’ (e.e, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn) sydd, yn bennaf, yn wledig ac amaethyddol eu natur. Mae cynnal cymunedau gwledig yn golygu bod bwrlwm y Gymraeg yn cael ei gynnal a'i gefnogi yn yr ardaloedd hynny. Mae effaith bositif amlwg ar yr iaith felly, gan fod cysylltiadau annatod rhwng yr economi, y gymuned a'r iaith. Mae dros 70% o'r gweithwyr amaethyddol yn y siroedd uchod yn siaradwyr Cymraeg a byddent, felly, yn elwa ar y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol. Mae arolwg cymdeithasol-ieithyddol cynhwysfawr o'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd o dan y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymraeg 2050.
Dim ond effeithiau cadarnhaol sydd wedi'u nodi o ran y Gymraeg.
Mae gwaith y Panel, camau i orfodi Deddf 2014, pob Gorchymyn cysylltiedig, yr ymgyngoriadau a'r canllawiau cysylltiedig, oll yn cael eu cynnal / eu cyhoeddi'n ddwyieithog. Mae'r Gymraeg yn cael ei chynnig yn rhagweithiol yn gyfrwng cyfathrebu mewn cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae cyhoeddiadau a negeseuon cyhoeddus bob amser yn ddwyieithog.
Bydd cryfhau'r gwaith amaethyddol sy'n cael ei gynnig yng Nghymru hefyd yn helpu i gadw gweithwyr yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg, lle mae amaethyddiaeth yn un o'r prif ffynonellau gwaith.
Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Mae Gorchymyn 2024 yn helpu i greu Cymru ffyniannus, ddiogel, unedig a chysylltiedig. Ymhlith y nodau penodol yn Neddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n berthnasol yn yr achos hwn y mae gwneud Cymru'n ffyniannus – datblygu economi wledig sy'n creu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyfartal a gwlad sy'n gryf yn ecolegol, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Bydd y gwaith hefyd yn helpu i sicrhau cymunedau cydlynus â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
Mae sicrhau cyflogau teg i weithwyr amaethyddol a chefnogi cymunedau gwledig, gan gynnwys cynyddu incwm aelwydydd, gwella sylfaen sgiliau pobl ifanc, a helpu teuluoedd mewn cymunedau tlotach drwy gynyddu incwm eu haelwyd, yn hollbwysig. Bydd y darpariaethau ar gyfer prentisiaid a hyfforddiant yng Ngorchymyn 2024 yn cynorthwyo pobl ifanc i feithrin sgiliau ac i ennill cymwysterau, a gall hynny wella'u rhagolygon am waith yn y dyfodol.
Os cafodd cyfradd tâl isaf unrhyw weithiwr amaethyddol ei ostwng oherwydd iddo gael ei roi ar radd is neu ar gyfradd tâl is o dan y strwythur graddio a gyflwynwyd yng Ngorchymyn 2022, bydd Gorchymyn 2024 yn parhau i ddarparu bod cyflog y gweithiwr hwnnw naill ai’n cael ei gadw ar y gyfradd tâl fel yr oedd ar y diwrnod cyn i Orchymyn 2022 ddod i rym tan i’r gyfradd tâl isaf sy'n berthnasol i'w radd o dan y strwythur graddio newydd gyrraedd neu fynd yn uwch na’i gyfradd tâl bresennol, neu tan i’w gyfradd tâl gynyddu drwy gytundeb â’i gyflogwr.
Mae gweithdrefnau gorfodi ar waith hefyd er mwyn sicrhau y bydd modd cymryd camau yn erbyn unrhyw gyflogwr nad yw'n cadw at y cyfraddau tâl isaf neu at y telerau a'r amodau sydd yn y Gorchymyn.
Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo gael ei roi ar waith ac ar ôl i’r gwaith arno gael ei gwblhau?
Drwy barhau i drafod â rhanddeiliaid, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effaith Gorchymyn 2024, ac unrhyw Orchmynion dilynol a gynigir gan y Panel Cynghori Amaethyddol, ar y sector amaethyddol, gan gynnwys gweithwyr ifanc.
Bydd rhif llinell gymorth a chyfeiriad e-bost ar gael o hyd ar gyfer yr rheini fydd â chwestiynau am Orchymyn 2024.
Bydd yr holl wybodaeth hon yn helpu i asesu pa mor effeithiol fydd y Gorchymyn, a bydd hefyd yn llywio unrhyw Orchmynion yn y dyfodol.
Mae'r Panel, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y byddai angen ystadegau sylfaenol manylach am bobl â nodweddion gwarchodedig, am sectorau perthnasol, yr oriau a weithir, h.y. yn rhan-amser, achlysurol etc, ac am raddau.
Cynhaliwyd ymarfer i gasglu data sylfaenol yn 2021 ond ychydig yn unig o ganlyniadau a gafwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Panel i geisio gweld a fyddai’n ymarferol cael gafael ar ddata cadarn a fyddai'n gwell sail i Orchmynion yn y dyfodol. Mae nifer o heriau arwyddocaol yn hynny o beth y byddai angen cryn dipyn o amser, arian ac adnoddau i fynd i'r afael â nhw, ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddai data digon cadarn ar gael yn y diwedd. Bernir bod yr ymdrech sydd ei hangen er mwyn cael gafael ar ddata yn anghymesur o gofio cyrhaeddiad ac effaith y maes polisi, o gofio hefyd nad oes unrhyw sicrwydd am ansawdd y data hynny yn y pen draw, ac yn enwedig o ystyried y pwysau ariannol mawr sydd ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.