Neidio i'r prif gynnwy

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2025

Mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru annibynnol yn ceisio barn ar Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2025, sy'n cynnwys newidiadau i gyfraddau isafswm cyflog a lwfansau ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer gweithwyr amaethyddol (“Gweithiwr amaethyddol" yn unol â'r diffiniad o amaethyddiaeth a nodir yn Neddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014). 

Agor: 18 Hydref 2024

Cau: 15 Tachwedd 2024

Cefndir

Mae'r ddogfen hon yn gofyn am eich barn ar newidiadau arfaethedig y Panel i'r rheolau presennol, a fyddai'n dechrau ar 1 Ebrill 2025. Gwnaed y cynigion yng nghyfarfod y Panel ar 9-10 Medi 2024.

Mae'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ("y Panel") yn gorff annibynnol sy'n cynnig y cyfraddau tâl isaf ar gyfer gweithwyr amaethyddol, a'u hamodau gwaith. Hefyd, mae'n annog pobl i weithio yn y sector amaeth ac yn ceisio nodi unrhyw anghenion sgiliau sydd gan y diwydiant. Hefyd, mae gan y Panel ddyletswydd i roi cyngor i Lywodraeth Cymru pan ofynnir amdano.

Mae'r Panel yn cynnwys aelodau o grwpiau gwahanol: Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Unite a thri aelod annibynnol.

Bob blwyddyn, mae'r Panel yn adolygu'r cyfraddau tâl isaf a’r amodau gwaith ar gyfer gweithwyr amaethyddol, gan gynnwys tâl salwch a lwfans goramser.

Wrth wneud penderfyniadau, mae'r Panel yn adolygu'r sefyllfa economaidd yn y sector amaethyddol yng Nghymru. Yn ogystal, mae effeithiau digwyddiadau ehangach yn cael eu hystyried, fel ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Brexit), pandemig Covid-19, a'r rhyfel yn Wcráin.

Mae Brexit wedi achosi ansicrwydd yn y byd ffermio oherwydd newidiadau i gytundebau masnach, rheolau a pholisïau mewnfudo. Oherwydd y newidiadau hyn, mae'n gallu bod yn anoddach dod o hyd i weithwyr tymhorol a medrus. Hefyd, mae’n bosibl bod busnesau amaethyddol yn pryderu am gymorth ariannol a chyfraddau taliadau yn y dyfodol, sy’n gallu gwneud cynllunio’n anodd.

Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi cynyddu cost cyflenwadau ffermio ac wedi effeithio ar gyflenwad a phrisiau bwyd a bwyd anifeiliaid ledled y byd. Ar yr un pryd, mae costau byw wedi cynyddu'n sylweddol, sy'n anodd i weithwyr, yn enwedig y rhai ar incwm isel sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae pethau fel tai, trafnidiaeth, bwyd, gwres a gwasanaethau yn ddrutach.

Mae'r Panel yn ymgynghori ar ei gynigion cyn eu cyflwyno i gael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl eu cymeradwyo, mae'r cynigion yn dod yn gyfraith yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2023, dangosodd arolwg (Arolwg o'r cyfrifiad amaethyddol a garddwrol: Mehefin 2023) fod 12,000 o bobl yn gweithio yn y sector amaeth yng Nghymru, cynnydd o 5% ers 2022. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr rheolaidd (llawn amser a rhan-amser) a gweithwyr achlysurol. Mae rhai swyddi, fel cneifio a chynaeafu, yn cael eu gwneud gan gontractwyr nad ydynt yn cael eu cyfrif yn yr arolwg hwn oherwydd eu bod yn hunangyflogedig.

Adran 1: Cyfraddau tâl isaf

Wrth baratoi’r cynigion hyn ar gyfer 2025, adolygodd y Panel y cyfraddau tâl isaf presennol ar gyfer gweithwyr amaethyddol ar bob gradd, a nodir yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 (Gorchymyn Cyflogau), gyda'r Undebau Ffermio ac Undeb Unite yn cyflwyno tystiolaeth fanwl i'r broses. Roedd cynigion dilynol y Panel ar gyfer 2025, a gyflwynir yma at ddibenion ymgynghori, yn destun pleidlais fwyafrif y Panel. 

Dangosir y cyfraddau tâl isaf presennol ar gyfer graddau gwahanol o weithwyr amaethyddol yn Nhabl 1.

Tabl 1
Categori gweithiwrCyfradd Isafswm Cyflog / Cyflog Byw Cenedlaethol presennolCyfradd Isafswm Cyflog Amaethyddol presennol
A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16-17 oed)£6.40£6.56
A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18-20 oed)£8.60£8.82
A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21 oed a hŷn)£11.44£11.73
B1 – Gweithiwr amaethyddol (16-17 oed)£6.40£6.56
B2 – Gweithiwr amaethyddol (18-20 oed)£8.60£8.82
B3 – Gweithiwr amaethyddol (21 oed a hŷn)£11.44£11.79
C – Gweithiwr amaethyddol uwch-£12.27
D – Uwch-weithiwr amaethyddol-£13.46
E – Rheolwr amaethyddol-£14.77
   
Prentis Blwyddyn 1£6.40£6.40
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (16-17 oed)£6.40£6.40
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (18-20 oed)£8.60£8.60
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (21 oed a hŷn)£11.44£11.44
   
Lwfans Ci (fesul ci yr wythnos)£10.16
Lwfans Gwaith Nos£1.93
Grant Geni a Mabwysiadu£79.86
Lwfans Gwrthbwyso Llety (Tŷ) (yr wythnos)£1.79
Lwfans Gwrthbwyso Llety (Llety Arall) (y dydd)£5.74

Mae Tabl 2 yn dangos y cynnydd a awgrymir gan y Panel ar gyfer y gwahanol raddau o weithwyr amaethyddol a’r lwfansau, gan ddechrau ym mis Ebrill 2025.

Tabl 2
Categori gweithiwrCyfraddau arfaethedig o fis Ebrill 2025
A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16-17 oed)Isafswm Cyflog Cenedlaethol
A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18-20 oed)Isafswm Cyflog Cenedlaethol
A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21 oed a hŷn)Cyflog Byw Cenedlaethol
B1 – Gweithiwr amaethyddol (16-17 oed)Isafswm Cyflog Cenedlaethol
B2 – Gweithiwr amaethyddol (18-20 oed)Isafswm Cyflog Cenedlaethol
B3 – Gweithiwr amaethyddol (21 oed a hŷn)Cyflog Byw Cenedlaethol +3.1%
C – Gweithiwr amaethyddol uwch£12.69 + 6.193%
D – Uwch-weithiwr amaethyddol£12.69 + 16.515%
E – Rheolwr amaethyddol£12.69 + 27.864%
  
Prentis Blwyddyn 1Cyfradd Prentis Isafswm Cyflog Cenedlaethol 
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (16-17 oed)Cyfradd Prentis Isafswm Cyflog Cenedlaethol 
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (18-20 oed)Cyfradd Prentis Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (21 oed a hŷn)Cyflog Byw Cenedlaethol
  
Lwfans Ci (fesul ci yr wythnos)Cynyddu 10%
Lwfans Gwaith NosCynyddu 10%
Grant Geni a MabwysiaduCynyddu 10%
Lwfans Gwrthbwyso Llety (Tŷ) (yr wythnos)Cynyddu 10%
Lwfans Gwrthbwyso Llety (Llety Arall) (y dydd)Cynyddu 10%

Yn ôl amcangyfrif y Comisiwn Cyflogau Isel, bydd lefel y Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW) rhwng £11.82 a £12.39 yr awr o fis Ebrill 2025, gyda chyfartaledd o £12.10 yr awr. How we’ll respond to our updated remit - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bwriad i gael gwared ar y band cyflog 18–20 oed a chymhwyso'r NLW i bawb 18 oed a hŷn. Yn hytrach na gwneud hyn ar unwaith, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithredu yn raddol, ac adlewyrchir y ffaith hon yn y codiadau cyflog uwch arfaethedig ar gyfer y band cyflog hwn.

Mae Tabl 3 yn dangos enghreifftiau o'r cyfraddau tâl isaf arfaethedig ar gyfer gweithwyr fferm gan ddefnyddio'r cynnydd posibl yn unol ag amcangyfrif y Comisiwn Cyflogau Isel:

  • £11.82 (amcangyfrif is)
  • £12.10 (amcangyfrif cyfartalog)
  • £12.39 (amcangyfrif uwch)

Bydd y cyfraddau newydd ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) a'r Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW) yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2024 a byddant yn dechrau ar 1 Ebrill 2025. Bydd cyfraddau isafswm cyflog arfaethedig 2025 ar gyfer gweithwyr amaethyddol yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Cyflwynir yr enghreifftiau hyn at ddibenion dangosol yn unig, a bydd y cyfraddau cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar gyfraddau terfynol yr NLW a gyhoeddir.

Tabl 3
Categori gweithiwrNLW o £11.82NLW o £12.10NLW o £12.39
Gradd A1£6.61£6.77£6.93
Gradd A2£8.89£9.10£9.31
Gradd A3£11.82£12.10£12.39
Gradd B1£6.61£6.77£6.93
Gradd B2£8.89£9.10£9.31
Gradd B3£12.18£12.48£12.77
Gradd C£13.48£13.48£13.48
Gradd D£14.79£14.79£14.79
Gradd E£16.23£16.23£16.23
    
Prentis Blwyddyn 1£6.61£6.77£6.93
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (16-17 oed)£6.61£6.77£6.93
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (18-20 oed)£8.89£9.10£9.31
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (21 oed a hŷn)£11.82£12.10£12.39
    
Lwfans Ci£11.17£11.17£11.17
Lwfans Gwaith Nos£2.12£2.12£2.12
Grant Geni a Mabwysiadu£87.95£87.95£87.95
Gwrthbwyso Llety (Tŷ)£1.97£1.97£1.97
Gwrthbwyso Llety (Arall)£6.31£6.31£6.31

Cwestiynau

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno â'r cyfraddau tâl isaf a’r lwfansau a awgrymir ar gyfer gweithwyr amaethyddol i ddechrau ar 1 Ebrill 2025?

Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 2: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Adran 2: symleiddio'r darpariaethau goramser

Mae'r Panel wedi nodi nad yw'r rheolau goramser yn ddigon clir, ac mae am geisio sicrhau ei bod yn haws i gyflogwyr a gweithwyr amaethyddol ddeall y pwnc.

Noder bod rheolau gwahanol ar waith ar gyfer gweithwyr y dechreuwyd eu cyflogi cyn 1 Hydref 2006, a'r rhai sydd wedi’u cyflogi ar ôl hynny.

Mae'r Panel yn awgrymu newidiadau i'r Gorchymyn Cyflog fel a ganlyn:

ErthyglGorchymyn 2024Newidiadau arfaethedig i Orchymyn 2025
2ystyr “oriau sylfaenol” (“basic hours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gweithiwr amaethyddol neu brentisiaeth;

ystyr "oriau sylfaenol" ("basic hours") yw uchafswm o 39 awr o waith yr wythnos neu unrhyw oriau gwaith eraill y cytunwyd arnynt o dan gontract neu brentisiaeth y gweithiwr amaethyddol, ac eithrio goramser a goramser gwarantedig.

 

2

ystyr “goramser” (“overtime”) yw
(a)    mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
(i)    yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr,
(ii)    yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract,
(iii)    ar ŵyl gyhoeddus,
(iv)    ar ddydd Sul, neu
(v)    mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;

(b)    mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio
(i)    yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr,
(ii)    yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract, neu
(iii)    ar ŵyl gyhoeddus

ystyr "goramser" ("overtime") yw
(a)    mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw'n oramser gwarantedig y mae'r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio
(i)    yn ychwanegol at oriau gwaith sylfaenol: neu
(ii)    ar ŵyl gyhoeddus, neu
(iii)    ar ddydd Sul, neu
(iv)    mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;

(b)    mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall a ddechreuodd ei gyflogaeth ar neu ar ôl 1 Hydref 2006, amser nad yw'n oramser gwarantedig y mae'r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio
(i)    yn ychwanegol at oriau gwaith sylfaenol, neu
(ii)    ar ŵyl gyhoeddus.
 

Cwestiynau

Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno â nod y Panel i'w gwneud yn haws deall a defnyddio'r rheolau goramser?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam.

Cwestiwn 4: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Adran 3: Dileu'r ddarpariaeth diogelu tâl

Cyflwynwyd y rheol Diogelu Tâl yn Erthygl 14 o'r Gorchymyn Cyflogau er mwyn diogelu tâl gweithwyr amaethyddol pan newidiodd y system raddio ar 22 Ebrill 2022. Roedd y rheol hon yn sicrhau nad oedd gweithwyr yn derbyn llai o gyflog oherwydd y system newydd. Erbyn hyn, mae cyfraddau tâl isaf wedi cynyddu digon fel nad oes angen y rheol diogelu tâl mwyach.

Cwestiynau

Cwestiwn 5: Ydych chi'n cytuno â dileu Erthygl 14 o'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 6: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Adran 4: costiau hyfforddi

Mae Erthygl 17 o Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 yn nodi pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr, rhaid i'w gyflogwr dalu am y cwrs, y costau teithio a'r llety.

Mae'r Panel yn bwriadu diwygio'r rheol hon er mwyn sicrhau cydbwysedd teg rhwng cyflogwyr a gweithwyr amaethyddol. Felly, cynigir bod yn rhaid i weithiwr amaethyddol ad-dalu costau hyfforddi os yw'n gadael ei gyflogaeth o fewn 12 mis i gwblhau'r hyfforddiant dan sylw. Mae hon yn rheol gyffredin mewn llawer o sectorau. Mae'r Panel yn credu bod y newid arfaethedig yn deg, ar yr amod bod contract y gweithiwr yn cyfeirio ato. 

Nid yw'r cynnig yn gymwys i unrhyw hyfforddiant sydd wedi'i ariannu drwy grantiau neu ffynonellau eraill; dim ond yr arian a dalodd y cyflogwr y gellir ei adennill. Yn ogystal, nid yw'r cynnig hwn yn gymwys os yw cyflogwr yn terfynu cyflogaeth gweithiwr (oni bai bod hynny wedi digwydd oherwydd camymddwyn difrifol).

Mae'r Panel yn awgrymu newid Erthygl 17 ynghylch Costau Hyfforddi yn y Gorchymyn Cyflog fel a ganlyn:

Erthygl            Gorchymyn 2024Newidiadau arfaethedig i Orchymyn 2025
17

(1)    Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu
(a)    unrhyw ffioedd am y cwrs, a
(b)    unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.

(2)    Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd A gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd B feddu arnynt.

(3)    Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).
 

(1)    Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—
(a)    unrhyw ffioedd am y cwrs, ac
(b)    unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.

(2)    Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd A gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd B feddu arnynt.

(3)    Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).

(4)    Os yw'r gweithiwr amaethyddol yn rhoi'r gorau i'w swydd yn ystod y cwrs hyfforddi neu o fewn 12 mis i gwblhau'r cwrs hyfforddi, caiff y cyflogwr adennill y costau a amlinellir ym mharagraff 1-
(a)    i'r graddau eu bod wedi cael eu hariannu gan y cyflogwr ac nid gan drydydd parti (e.e. drwy grant neu gymhorthdal perthnasol arall), ac
(b)    ar yr amod bod contract y gweithiwr amaethyddol yn darparu ar gyfer adennill costau hyfforddi o'r fath

(5)    Ni fydd yn ofynnol i'r gweithiwr amaethyddol ad-dalu unrhyw gostau hyfforddi os yw'r cyflogwr wedi terfynu ei gyflogaeth, ac eithrio pan fo gan y cyflogwr hawl i derfynu'r gyflogaeth yn ddiseremoni, a'i fod wedi gwneud hynny.

Adran 5: hawl gwyliau a a thâl gwyliau ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio rhan o'r flwyddyn

Mae'r Panel yn cynnig ei gwneud yn haws cyfrifo hawl gwyliau blynyddol a thâl gwyliau ar gyfer gweithwyr amaethyddol penodol. Mae'r newidiadau hyn yn seiliedig ar ddiweddariadau i Reoliadau Amser Gwaith 1998.

Bydd y cynigion yn helpu gweithwyr amaethyddol sy'n gweithio oriau afreolaidd neu'n gweithio rhan o'r flwyddyn yn unig. Yn hytrach na defnyddio cyfnod o 52 wythnos i gyfrifo tâl gwyliau, byddant yn defnyddio cyfrifiad canran yn seiliedig ar hawl gwyliau wythnosol y gweithiwr. 

Dyma'r cyfrifiad:

Hawl gwyliau mewn wythnosau / nifer yr wythnosau gwaith sydd ar ôl yn y flwyddyn x 100

Er enghraifft, os oes gan weithiwr 6.3 wythnos o wyliau ar ôl a bod 45.7 o wythnosau gwaith ar ôl yn y flwyddyn, bydd yn defnyddio'r fformiwla hon i gyfrifo ei dâl gwyliau.

Hefyd, bydd y newidiadau yn caniatáu i gyflogwyr dalu gweithwyr am eu hamser gwyliau yn hytrach na rhoi amser i ffwrdd iddynt, os yw'r gweithiwr yn bodloni'r amodau cywir.

Mae'r rheolau a fydd yn cael eu newid yn Erthyglau 2, 33, 36, a 38, ac Atodlen 2 o'r Gorchymyn Cyflogau

Erthygl                 Gorchymyn 2024Newidiadau arfaethedig i Orchymyn 2025
2 

mae i "gweithiwr oriau afreolaidd" yr ystyr a roddir yn rheoliad 15F(1)(a) o Reoliadau Amser Gwaith 1998.

 

2 

mae i "weithiwr rhan o'r flwyddyn" yr ystyr a roddir yn rheoliad 15F(1)(a) o Reoliadau Amser Gwaith 1998.

 

33

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

(1)    Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cymerir mai nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos, at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, yw cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 o wythnosau yn union cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn a rhaid i’r nifer cyfartalog hwnnw o ddiwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(2)    Ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol rhaid i’r cyflogwr gyfrifo hawl wirioneddol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, ar sail nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos, wedi ei gymryd fel cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol (h.y. dros gyfnod o 52 o wythnosau) a rhaid i nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol

(3)    Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cronni hawl i wyliau ond heb eu cymryd, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i ddwyn ymlaen unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd i’r flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol yn unol ag erthygl 35(3) o’r Gorchymyn hwn neu caiff y gweithiwr amaethyddol a’r cyflogwr gytuno i daliad yn lle unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd yn unol ag erthygl 38 o’r Gorchymyn hwn.

(4)    Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cymryd mwy o ddiwrnodau gwyliau nag yr oedd ganddo hawl iddynt o dan y Gorchymyn hwn, ar sail nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2)), mae gan y cyflogwr hawl i ddidynnu unrhyw dâl am ddiwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol neu, fel arall, ddidynnu’r diwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol o’i hawl ar gyfer y flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol (ar yr amod nad yw didyniad o’r fath yn peri bod y gweithiwr amaethyddol yn cael llai na’i hawl gwyliau blynyddol statudol llawn o dan Reoliadau Amser Gweithio 1998).

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau neu oriau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau.

(1)    Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cymerir mai nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos, at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, yw cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 o wythnosau yn union cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn a rhaid i’r nifer cyfartalog hwnnw o ddiwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(2)    Os yw'r gweithiwr amaethyddol yn weithiwr oriau afreolaidd neu'n weithiwr rhan o'r flwyddyn, gellir cyfrifo ei hawl fel canran o'r oriau gwirioneddol a weithiwyd ganddo ar sail y cyfrifiad canlynol:

(cyfanswm yr hawl gwyliau a fynegir mewn wythnosau a nodir yn Atodlen 2 ÷ yr wythnosau gwaith sy'n weddill yn y flwyddyn wyliau) x 100

36

(1)    Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd yn seiliedig ar gyflog wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol.

(2)    Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl iddo o dan baragraff (1) i’w bennu yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau Amser Gweithio 1998.

(3)    Rhaid i unrhyw dâl sy’n ddyledus i weithiwr amaethyddol o dan yr erthygl hon gael ei dalu heb fod yn hwyrach na diwrnod gwaith olaf y gweithiwr amaethyddol cyn i’r cyfnod o wyliau blynyddol y mae’r taliad yn ymwneud ag ef gychwyn.

 

(1)    Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd yn seiliedig ar gyflog wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol

(2)    Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl iddo o dan baragraff (1) i’w bennu yn unol â rheoliad 16 neu reoliad 16A o Reoliadau Amser Gweithio 1998.

(3)    Gall tâl gwyliau gweithwyr oriau afreolaidd neu weithwyr rhan o'r flwyddyn gael ei dalu ar ffurf cynnydd canran i dâl y gweithiwr amaethyddol. Mae'r ganran i'w defnyddio ar gyfer cyfrifo'r cynnydd yn cael ei phenderfynu yn unol ag erthygl 32(2).

 

38

(1)    Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2), caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.

(2)    Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)    bod uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 3;
(b)    bod cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan gychwyn ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno;
(c)    o dan amgylchiadau pan nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), bod y diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol;
(d)    bod taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 36 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol ar ei gyfer yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.

(1)    Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2), caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.

(2)    Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)    bod uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 3;
(b)    bod cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan gychwyn ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno;
(c)    o dan amgylchiadau pan nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), bod y diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol;
(d)    bod taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 35 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol ar ei gyfer yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.

(3)    Nid yw darpariaethau'r erthygl hon yn atal gweithiwr amaethyddol sy'n bodloni’r diffiniadau o weithiwr oriau afreolaidd neu weithiwr rhan o'r flwyddyn rhag derbyn codiad cyflog mewn perthynas â'i holl hawl wyliau fel y nodir yn Erthygl 35(3).
 

Atodlen 2

Mae'r hawl flynyddol mewn wythnosau wedi'i ychwanegu at Atodlen 2

Atodlen 2
Nifer y diwrnodau a weithir bob wythnos gan weithiwr amaethyddolMwy na 6Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3Mwy na 1 ond heb fod yn fwy na 21 neu lai
Hawl gwyliau blynyddol (diwrnodau)3835312520137.5
Hawl gwyliau blynyddol (wythnosau)6.35.86.26.36.76.57.5

Cwestiynau

Cwestiwn 7: Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau a awgrymir i amser gwyliau a thâl gwyliau yn y Gorchymyn Cyflogau?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 8: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Adran 6: Absenoldeb di-dâl

Mae'r Panel eisiau sicrhau bod gweithwyr fferm yn gallu cael absenoldeb di-dâl ar gyfer cyfrifoldebau gofalu, waeth a yw'n ymwneud â gofalu am anwylyd neu absenoldeb rhiant. Mae'n rhaid i gyflogwyr ddilyn rheolau penodol pan fydd gweithwyr yn gofyn am yr absenoldeb hwn o dan Reoliadau Absenoldeb Gofalwyr 2024 a Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhiant etc. 1999.

Er enghraifft, os yw gweithiwr yn gofyn am absenoldeb gofalwr a'i fod yn bodloni'r gofynion, nid yw'r cyflogwr yn gallu gwrthod, ond mae'n gallu gofyn i'r gweithiwr gymryd yr absenoldeb ar amser gwahanol o fewn mis.

Mae'r Panel am sicrhau bod y rheolau yn y Gorchymyn Cyflogau yn cyd-fynd â'r hawliau hyn a'u bod yn glir i'r gweithiwr a'r cyflogwr. Felly, maent yn awgrymu newid y Gorchymyn Cyflog fel a ganlyn:

Erthygl  Gorchymyn 2024Newidiadau arfaethedig i Orchymyn 2025
43

Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl, gyda chydsyniad ei gyflogwr.

 

Mae gan weithiwr amaethyddol yr hawl i ofyn i'w gyflogwr am gyfnod o absenoldeb di-dâl. Os yw'r gweithiwr amaethyddol yn bodloni'r gofynion cymhwystra ar gyfer absenoldeb rhiant o dan Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhiant etc. 1999 neu'r gofynion ar gyfer absenoldeb gofalwyr o dan Reoliadau Absenoldeb Gofalwyr 2024, rhaid i'r cyflogwr ymateb yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

Cwestiynau

Cwestiwn 9: Ydych chi'n credu bod angen diweddaru'r gorchymyn i gynnwys y gofynion cyfreithiol ar gyfer absenoldeb gofalwyr ac absenoldeb rhiant?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 10: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Diwygiadau technegol a drafftio

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd wedi hysbysu'r Panel bod angen gwneud rhai newidiadau technegol a drafftio. Mae'r Panel yn bwriadu gwneud y newidiadau canlynol i'r Gorchymyn Cyflogau:

Erthygl              Gorchymyn 2024Newidiadau arfaethedig i Orchymyn 2025
2ystyr “fframwaith prentisiaethau” (“apprenticeship framework”) yw unrhyw un neu ragor o’r Fframweithiau Prentisiaethau cyfredol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra(4) ar y dyddiad neu cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, neu fersiynau blaenorol o’r Fframweithiau Prentisiaethau ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra;

ystyr “fframwaith prentisiaethau” (“apprenticeship framework”) yw unrhyw un neu ragor o’r Fframweithiau Prentisiaethau cyfredol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd gan Lantra ar y dyddiad neu cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, neu fersiynau blaenorol o’r Fframweithiau Prentisiaethau ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra.

 

2mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Bydd plentyn yn blentyn gweithiwr amaethyddol os yw’r gweithiwr amaethyddol yn bodloni’r amodau a bennir yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Absenoldeb Profedigaeth Rhiant 2020.

mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Mae plentyn yn blentyn gweithiwr amaethyddol os yw’r gweithiwr amaethyddol yn bodloni’r amodau a bennir yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Absenoldeb Profedigaeth Rhiant 2020.

 

2

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unigolion sydd wedi eu cymryd ymlaen fel cyflogeion, gweithwyr, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr a gyflogir gan feistri gangiau ac mae “a gyflogir” (“ employed”) a “cyflogwr” (“employer”) i’w dehongli yn unol â hynny

 

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unigolion sydd wedi eu cymryd ymlaen fel cyflogeion, gweithwyr, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr a gyflogir gan feistri gangiau

 

2ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio gan gynnwys diwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—
(a)    yn cymryd gwyliau blynyddol,
(b)    yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth,
(c)    yn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir neu fabwysiadu statudol, neu
(d)    ar gyfnod o absenoldeb salwch;

ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) (ac eithrio yn erthygl 21) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio gan gynnwys diwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—
(a)    yn cymryd gwyliau blynyddol,
(b)    yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth,
(c)    yn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir neu fabwysiadu statudol, neu
(d)    ar gyfnod o absenoldeb salwch;
 

 

2

mae i’r “isafswm cyflog cenedlaethol” (“the national minimum wage”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014;

 

 
2

mae i “amser gweithio” yr ystyr a roddir i “working time” yn rheoliad 2 o Reoliadau Amser Gweithio 1998(3) ac at ddibenion y Gorchymyn hwn mae’n cynnwys—

(a)    unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn cymudo rhwng ei gartref a’i le gwaith,
(b)    unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg,

ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i’w dehongli yn unol â hyn.
 

ystyr "gwaith" ("work") yw

(a)    unrhyw gyfnod pan fydd y gweithiwr amaethyddol yn gweithio, pan fydd ar gael i'w gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgarwch neu ei ddyletswyddau,
(b)    unrhyw gyfnod pan fo'r gweithiwr amaethyddol yn derbyn hyfforddiant perthnasol, 
(c)    unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn cymudo rhwng ei gartref a’i le gwaith,
(d)    unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg.

21(1)Ni fydd tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 o ddiwrnodau.

Nid yw tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 o ddiwrnodau.

 

22(5)

At ddibenion cyfrifiadau o dan yr erthygl hon, pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai nag 8 wythnos, rhaid ystyried yr oriau cymwys a’r diwrnodau cymwys yn ystod y gwir nifer o wythnosau y mae’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr.

 

 
26(1)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2), os caiff gweithiwr amaethyddol sydd â hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan y Rhan hon daliad am fwy o dâl salwch amaethyddol na’i hawl, gall ei gyflogwr adennill gordaliad y tâl salwch amaethyddol hwnnw drwy ei dynnu oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol hwnnw.

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2), os caiff gweithiwr amaethyddol sydd â hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan y Rhan hon daliad am fwy o dâl salwch amaethyddol na’i hawl, caiff ei gyflogwr adennill gordaliad y tâl salwch amaethyddol hwnnw drwy ei dynnu oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol hwnnw.

 

41(2)

At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw—

  1. plentyn.

 

At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw plentyn.
42(5)

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo’r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori C i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—

(DWEW / 5) x 2

 

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo'r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—

(DWEW / 5) x 2

43

(1)    Mae swm y tâl mewn cysylltiad ag absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A, am y pedwar diwrnod cyntaf neu, pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol ag erthygl 42(3), i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 36 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw. Ar gyfer gweddill unrhyw gyfnod o absenoldeb oherwydd profedigaeth, bydd gan y gweithiwr amaethyddol hawl i gael swm sy’n cyfateb i dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol sy’n gymwys o bryd i’w gilydd.

(2)    Mae unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol a delir i’r gweithiwr amaethyddol yn unol ag erthygl 43(1) yn cynnwys unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol y gall y gweithiwr fod â hawl i’w gael ar gyfer yr un cyfnod.

(3)    Mae swm y tâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B neu C i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 36 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw.

(1)    Mae swm y tâl mewn cysylltiad ag absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A, am y pedwar diwrnod cyntaf neu, pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol ag erthygl 42(3), i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 36 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw. Ar gyfer gweddill unrhyw gyfnod o absenoldeb oherwydd profedigaeth, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i gael swm sy’n cyfateb i dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol sy’n gymwys o bryd i’w gilydd.

(2)    Mae unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol a delir i’r gweithiwr amaethyddol yn unol â pharagraff (1) yn cynnwys unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol y gall y gweithiwr fod â hawl i’w gael ar gyfer yr un cyfnod.

(3)    Mae swm y tâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B neu C i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 36 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw.
 

Cwestiwn

Cwestiwn 11: Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau technegol a drafftio?

Os nad ydych chi'n cytuno, allwch chi egluro pam ac awgrymu pa newidiadau y dylid eu gwneud?

Bob blwyddyn, mae'r Panel yn gwirio pob erthygl yn y Gorchymyn Cyflogau The Agricultural Wages (Wales) Order 2024 (legislation.gov.uk) i weld a oes angen unrhyw newidiadau eraill. Eleni, penderfynwyd nad oedd angen unrhyw newidiadau i’r telerau ac amodau a restrir yn Nhabl 4.

Tabl 4

Rhif yr Erthygl

 

Pwnc

Erthygl 2 

 

Diffiniadau o "absenoldeb salwch", "amaethyddiaeth", "ar alwad", "cynnyrch defnyddiadwy", "goramser gwarantedig", "grant geni a mabwysiadu", "gwaith allbwn", "gwaith nos", "gweithiwr amaethyddol", "oedran ysgol gorfodol", "oriau", "panel", "tâl wythnosol arferol" a "teithio”.
Erthygl 3Telerau ac amodau cyflogaeth.
Erthyglau 4 i 9Graddau a chategorïau gweithwyr amaethyddol.
Erthygl 10Prentisiaid.
Erthygl 11Cyfraddau tâl isaf.
Erthygl 12Cyfraddau tâl isaf am oramser.
Erthygl 13Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn.
Erthygl 18Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol.
Erthygl 19Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol.
Erthygl 20Cyfnodau absenoldeb salwch.
Erthygl 23Tâl salwch amaethyddol a thâl salwch statudol.
Erthygl 24Talu tâl salwch amaethyddol.
Erthygl 25Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod absenoldeb salwch.
Erthygl 27Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion.
Erthygl 28-30Cyfnodau gorffwys.
Erthygl 31Y flwyddyn gwyliau blynyddol.
Erthygl 32Swm gwyliau blynyddol gweithwyr â chanddynt ddiwrnodau gweithio penodedig.
Erthygl 34Swm gwyliau blynyddol gweithwyr a gyflogir am ran o'r flwyddyn.
Erthygl 35Amseru gwyliau blynyddol.
Erthygl 37Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc.
Erthygl 39Talu tâl gwyliau wrth derfynu cyflogaeth.
Erthygl 40Adennill tâl gwyliau.
Erthyglau 43Tâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol.
Atodlen 3Taliad yn lle gwyliau blynyddol.

Cwestiynau

Cwestiwn 12: Ydych chi'n cytuno y dylai'r Erthyglau eraill aros yr un fath?
Os nad ydych chi'n cytuno, allwch chi egluro pam ac awgrymu pa newidiadau y dylid eu gwneud?

Cwestiwn 13: Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y Gorchymyn Cyflogau?

Cwestiwn 14: Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddweud wrthym amdanoch chi eich hun neu eich sefydliad. Dylech gynnwys manylion fel eich swydd, y sector rydych chi'n gweithio ynddo, eich gweithwyr (gan gynnwys nifer y gweithwyr fferm, eu graddau, a'u cyfraddau cyflog), ac unrhyw beth arall sy'n bwysig yn eich barn chi.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno â'r cyfraddau tâl isaf a’r lwfansau a awgrymir ar gyfer gweithwyr fferm yn dechrau ar 1 Ebrill 2025?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 2: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno â nod y Panel i'w gwneud yn haws deall a defnyddio'r rheolau goramser?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam.

Cwestiwn 4: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Cwestiwn 5: Ydych chi'n cytuno â dileu Erthygl 14 o'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 6: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Cwestiwn 7: Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau a awgrymir i amser gwyliau a thâl gwyliau yn y Gorchymyn Cyflogau?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 8: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Cwestiwn 9: Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau a awgrymir i absenoldeb di-dâl yn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?
Os nad ydych chi'n cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 10: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Cwestiwn 11: Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau technegol a drafftio?
Os nad ydych chi'n cytuno, allwch chi egluro pam ac awgrymu pa newidiadau y dylid eu gwneud?

Cwestiwn 12: Ydych chi'n cytuno y dylai'r Erthyglau eraill aros yr un fath?
Os nad ydych chi'n cytuno, allwch chi egluro pam ac awgrymu pa newidiadau y dylid eu gwneud?

Cwestiwn 13: Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar y Gorchymyn Cyflogau?

Cwestiwn 14: Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddweud wrthym amdanoch chi eich hun neu eich sefydliad. Dylech gynnwys manylion fel eich swydd, y sector rydych chi'n gweithio ynddo, eich gweithwyr (gan gynnwys nifer y gweithwyr fferm, eu graddau, a'u cyfraddau cyflog), ac unrhyw beth arall sy'n bwysig yn eich barn chi.

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno sylwadau ar y cynigion hyn erbyn 15 Tachwedd 2024  er mwyn i'r Panel allu cyflwyno cyngor i'r Gweinidogion fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. 

Dylech gyflwyno’ch ymateb drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol: 

Rheolwr y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth

Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5LG

Eich hawliau

Bydd unrhyw ymateb a gyflwynwch yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion sy'n ymwneud â'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth. Bydd ymatebion yn cael eu rhannu â'r Panel hefyd, a lle mae Llywodraeth Cymru neu'r Panel yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gall y gwaith hwn gael ei wneud gan gontractwyr trydydd parti (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’i gadw’n ddiogel.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

Mae’n debygol y bydd ymatebion i ymgynghoriadau’n cael eu cyhoeddi ar y fewnrwyd neu mewn adroddiad. Pe bai’n well gennych aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan y staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb  i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru’n cael eu cadw am ddim mwy na tair blynedd.