Ystyrir bod angen y Gorchymyn arfaethedig i wahardd aros ar ochrau’r darnau perthnasol o gefnffordd yr A489 Caersŵs i Fachynlleth.
Dogfennau
Gorchymyn Cefnffordd Yr A489 (Heol Maengwyn, Machynlleth) (Gwahardd Aros) 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 166 KB
Gorchymyn Cefnffordd Yr A489 (Heol Maengwyn, Machynlleth) (Gwahardd Aros) 2022: ail hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 123 KB
Gorchymyn Cefnffordd Yr A489 (Heol Maengwyn, Machynlleth) (Gwahardd Aros) 2022: cynllun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Manylion
Ystyrir bod angen y Gorchymyn arfaethedig i wahardd aros ar ochrau’r darnau perthnasol o gefnffordd yr A489 Caersŵs i Fachynlleth. Bwriedir gwneud gwaith i ad-drefnu ac ailwampio cyfleusterau Ysbyty Machynlleth. Bwriedir i ddwy ganolfan iechyd leol adleoli i safle Ysbyty Machynlleth pan fydd y gwaith hwn wedi ei gwblhau.
Diben y Gorchymyn arfaethedig yw cyflwyno gwaharddiad rhag aros ar unrhyw adeg ar ochrau’r darnau perthnasol o gefnffordd yr A489 Caersŵs i Fachynlleth er mwyn sicrhau bod dwy ochr y fynedfa uwchraddedig i Ysbyty Machynlleth yn cael eu cadw’n glir ac nad yw unrhyw gerbydau sydd wedi eu parcio yn amharu arnynt.