Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn cyflwyno terfyn cyflymder 40mya ar y darnau perthnasol o gefnffyrdd yr A487 wrth bob cylchfan rhwng a chan gynnwys cylchfannau’r Goat, Meifod, Cibyn a Phlas Menai er budd diogelwch ar y ffordd yn y rhyngwynebau â ffyrdd presennol a cherddwyr.
Dogfennau
Gorchymyn cefnffordd yr A487 (ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd, Gwynedd) (terfyn cyflymder 40mya, dileu cyfyngiadau a gwahardd goddiweddyd) 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 452 KB
Gorchymyn cefnffordd yr A487 (ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd, Gwynedd) (terfyn cyflymder 40mya, dileu cyfyngiadau a gwahardd goddiweddyd) 2022: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 255 KB
Ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yr A487: cyfyngiadau traffig parhaol gwahardd goddiweddyd cynlluniau 1 i 6 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB
Ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yr A487: cyfyngiadau traffig parhaol terfyn cyflymder cynlluniau 1 i 6 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB
Manylion
Bydd y Gorchymyn arfaethedig hefyd yn dileu cyfyngiadau ar ddarnau perthnasol o gefnffyrdd yr A487 er mwyn adfer y terfyn cyflymder cenedlaethol (60mya), yn unol â Gorchymyn 70mya, 60mya a 50mya (Terfyn Cyflymder Dros Dro) (Parhad) 1978 (O.S. 1978/1548)) ar gyfer parhad llif traffig ar rwydwaith y gefnffordd.
Darperir ar gyfer gwahardd goddiweddyd yn y Gorchymyn arfaethedig er mwyn atal defnyddwyr rhag gwneud symudiadau peryglus yn erbyn llif dwy res o draffig.