Bydd y Gorchymyn hwn yn cau priffyrdd er mwyn caniatáu gwaith datblygu arnynt yn unol â chaniatâd cynllunio a roddir gan yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Sgwâr y Castell, Abertawe) 202- , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 189 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Sgwâr y Castell, Abertawe) 202-: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 141 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Sgwâr y Castell, Abertawe) 202-: cynllun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 425 KB
Manylion
Bydd y Gorchymyn hwn yn cau darnau o briffordd i wella Sgwâr y Castell, Abertawe gan gynnwys symud ymaith nodwedd ddŵr / cerflun presennol ac ad-drefnu grisiau teras, adeiladu hyd at bedair uned fasnachol (Dosbarthau Defnydd hyblyg A1, A3 a/neu A1/A3 cymysg) sy’n cynnwys dau adeilad pafiliwn a’r potensial am ddau giosg dros dro, gosod nodweddion tir y cyhoedd, amnewid sgrîn deledu / safle seindorf, tirlunio caled a meddal a gwaith cysylltiedig. Gwneir y gwaith yn unol â chaniatâd cynllunio a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe ar 2 Awst 2022 o dan y cyfeirnod 2022/1854/FUL.
Ystyrir bod angen cau darnau o’r briffordd bresennol er mwyn hwyluso’r datblygiad hwn.