Bydd y Gorchymyn hwn yn cau priffyrdd er mwyn caniatáu gwaith datblygu arnynt yn unol â chaniatâd cynllunio a roddir gan yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Round Wood, Maelfa, Llanedern, Caerdydd) 202-: drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 189 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Round Wood, Maelfa, Llanedern, Caerdydd) 202-: hysbysiad cyhoeddus cyntaf , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 141 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Round Wood, Maelfa, Llanedern, Caerdydd) 202-: cynllun drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Manylion
Mae’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi cau rhan o’r briffordd bresennol.
Ystyrir bod angen cau’r briffordd er mwyn dymchwel garejys presennol a datblygu 41 o fflatiau byw’n annibynnol sy’n barod ar gyfer gofal, a gwneud gwaith cysylltiedig yn yr hen orsaf heddlu, Maelfa, Llanedern, Caerdydd, CF23 9PN yn unol â’r caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar 30 Ebrill 2020 o dan y cyfeirnod 19/03219/MJR.