Bydd y Gorchymyn hwn yn cau priffyrdd er mwyn caniatáu gwaith datblygu arnynt yn unol â chaniatâd cynllunio a roddir gan yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Rhan O Crawshay Street A Rhan O Percy Street, Caerdydd) 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 189 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Rhan O Crawshay Street A Rhan O Percy Street, Caerdydd) 2024: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 124 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Rhan O Crawshay Street A Rhan O Percy Street, Caerdydd) 2024: cynllun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 179 KB
Manylion
Bydd y Gorchymyn hwn yn cau darnau o briffordd er mwyn ailddatblygu hen safle Bragdy Brains yn Crawshay Street, Caerdydd CF10 5DS i ddarparu adeilad swyddfa, campfa ategol, marchnadle/unedau manwerthu ac unedau bwyd a diod, maes parcio aml-lawr â defnydd manwerthu ategol a thir, mynediad, draenio a gwaith seilwaith arall i gyflawni cam 1 Cei Canolog yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Sir Caerdydd ar 12 Gorffennaf 2018 o dan y rhif cyfeirnod 18/00735/MJR ar y cyd â’r cymeradwyaethau ar gyfer diwygiadau ansylweddol o dan y rhif cyfeirnod 19/03171/MJR a roddwyd ar 10 Mawrth 2020, 23/01336/NMA a roddwyd ar 18 Gorffennaf 2023 a 23/01627/NMA a roddwyd ar 11 Awst 2023 ac a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.
Ystyrir bod angen cau darn o’r briffordd bresennol er mwyn hwyluso’r datblygiad hwn.’