Bydd y Gorchymyn hwn yn cau priffyrdd er mwyn caniatáu gwaith datblygu arnynt yn unol â chaniatâd cynllunio a roddir gan yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau
2il Hysbysiad Cyhoeddus - Gorchymyn Stopio i Fyny (Llys Milton a Chanolfan Ringland, Casnewydd) 2022 (S ac C) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 135 KB
Gorchymyn Gwnaed - Gorchymyn Stopio Priffyrdd (Milton Court a Chanolfan Ringland, Casnewydd) 2022 (S&C) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 190 KB
Cynllun Gwnaed - Gorchymyn Atal Priffyrdd (Minton Court a Chanolfan Ringland, Casnewydd) 2022 (Rhan 1) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 433 KB
Cynllun Gwnaed - Gorchymyn Atal Priffyrdd (Minton Court a Chanolfan Ringland, Casnewydd) 2022 (Rhan 2) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 393 KB
Manylion
Bydd y Gorchymyn hwn yn cau rhan o briffordd at ddiben dymchwel Ringland Centre, 6 byngalo a llyfrgell ac adeiladu tua 170 o gartrefi a 1700 o fetrau sgwâr o arwynebedd llawr a1/a2/a3 yn ogystal â gwaith tirlunio, rhwydwaith ffyrdd mewnol, cyfleusterau parcio a seilwaith cysylltiedig, yn unol â’r caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Dinas Casnewydd ar 3 Hydref 2019 o dan y cyfeirnod 18/1181 a’r gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl a roddwyd ar 19 Ionawr 2022 o dan y cyfeirnod 19/1272.
Caiff y datblygiad ei wneud mewn dau gam, a’i gyflawni ar adegau gwahanol. Gwneir gwaith ar yr ardal siopa ogleddol yn gynharach yn y rhaglen waith.