Bydd y Gorchymyn hwn yn atal priffyrdd i ganiatáu i'r datblygiad ddigwydd yn unol â chaniatâd cynllunio a roddwyd gan yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Great Wedlock Farm, Gumfreston, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro) 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 185 KB
2il Hysbysiad Cyhoeddus - Fferm Great Wedlock a Pharc y Ceirw, Gumfreston, Dinbych-y-pysgod, SA70 8RB , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 125 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Great Wedlock Farm, Gumfreston, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro) 2022 -: cynllun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Manylion
Ystyrir bod angen cau rhan o’r briffordd bresennol er mwyn hwyluso’r datblygiad hwn sy’n newid defnydd hen ysguboriau amaethyddol i barc ceirw i ymwelwyr, ac at ddefnydd addysgol a digwyddiadau, gyda maes parcio ar y prif fuarth.
Gosod paneli solar ffotofoltaig ar yr ysgubor a mannau gwefru cerbydau trydan. Cadw ardal wylio ceirw ddiogel sydd ynghlwm wrth yr ysgubor. Newid defnydd hen garej i bractis milfeddygol ar gyfer anifeiliaid mawr ac anifeiliaid morol. Newid defnydd ysgubor amaethyddol i adeilad milfeddygol (gyda defnydd ategol gan y fferm geirw pan fydd angen). Newid defnydd hen ysgubor amaethyddol i ystafell gyfarpar. Creu mynedfa newydd i’r B4318.
Gwneud gwaith tirlunio a seilwaith ar y prif safle a chreu ardaloedd plannu newydd i liniaru effaith y gwaith. - Great Wedlock, Gumfreston, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 8RB
Gwneir y datblygiad hwn yn unol â chaniatâd cynllunio a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Sir Penfro ar 4 Gorffennaf 2022 o dan y cyfeirnod 21/0975PA.