Yn cyflwyno'r defnydd o Orchmynion ffyrdd a thraffig i wella a chynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd.
Gorchmynion Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd
Mae Gorchmynion traffig yn gosod cyfyngiadau a gwaharddiadau at ddibenion sy'n cynnwys y canlynol:
- gwella a chynnal a chadw priffyrdd
- lleihau perygl
- atal difrod
- gwella llif traffig
- gwella ansawdd aer
Mae'r mathau o gyfyngiadau a gwaharddiadau traffig yn cynnwys y canlynol:
- cau ffyrdd
- cyflwyno neu newid cyfyngiadau cyflymder
- gwahardd troi
- cyflwyno cyfyngiadau aros neu lwytho
Gorchmynion Deddf Priffyrdd
Mae'r Gorchmynion Deddf Priffyrdd yn cynnwys:
- Gorchmynion llinell, sefydlu llwybr ffordd newydd
- Gorchmynion ffyrdd ymyl; creu ffyrdd newydd, llwybrau troed, llwybrau ceffylau a mynedfeydd preifat ar gyfer ffyrdd newydd
- Gorchmynion prynu gorfodol; caffael tir a hawliau sy'n ofynnol ar gyfer adeiladu ffyrdd newydd
Gorchmynion cau
Mae Gorchmynion cau yn dileu'r hawl mynediad dros briffordd i alluogi datblygiad.
Pob Gorchymyn ffordd
Gallwch:
- ddod o hyd i Orchmynion ffyrdd gan ddefnyddio ein cyfleuster chwilio cyhoeddiadau
- gweld yr holl Orchymynion ffyrdd, gan gynnwys Gorchmynion drafft a wnaed dros 18 mis yn ôl, yn legislation.gov.uk