Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Gall y llys wneud Gorchymyn Cymorth Teuluol neu Orchymyn Monitro sy'n ei gwneud yn ofynnol i Cafcass Cymru gynghori a chynorthwyo yn y broses o lunio, gwella a chynnal trefniadau plentyn, neu fonitro'r trefniadau hyn. 

Prif flaenoriaeth y llys fydd lles y plentyn, ac ni fydd y llys yn gwneud gorchymyn oni fyddai gwneud gorchymyn o'r fath yn fwy buddiol i'r plentyn na pheidio â gwneud gorchymyn o gwbl.

Gorchymynion Cymorth Teuluol

Beth yw Gorchymyn Cymorth Teuluol? 

Mae gorchmynion cymorth teuluol (GCT) yn orchmynion y bydd rhieni a/neu ofalwyr wedi cytuno y gall y llys eu gwneud. Os bydd y llys yn gwneud GCT, bydd yn gwneud hynny fel arfer ar ôl iddo benderfynu gyda phwy y bydd y plentyn yn byw ac yn treulio amser (gorchymyn trefniadau plentyn).

Mae GCT yn rhoi cyfarwyddyd i Cafcass Cymru roi cyngor neu gymorth i'r bobl a enwir yn y gorchymyn ynghylch llunio, gwella neu gynnal trefniadau plentyn. Gall y llys wneud y GCT os bydd o'r farn na fyddai rhieni neu ofalwyr y plentyn yn gallu rhoi eu trefniadau ar waith yn llwyddiannus heb i Cafcass Cymru fod yn rhan o'r broses. 

Gall GCT bara hyd at 12 mis, ond bydd llawer o'r gorchmynion hyn am gyfnod byrrach, er enghraifft rhwng 3 a 6 mis. Rhaid i bob unigolyn a enwir gydsynio â'r GCT. Y llys fydd yn pennu hyd y GCT a gall roi cyfarwyddyd i Cafcass Cymru gyflwyno adroddiad i'r llys pan ddaw'r GCT i ben.

Pryd y caiff Gorchymyn Cymorth Teuluol ei argymell?

Rhaid i'r llys ofyn barn Cafcass Cymru cyn gwneud GCT, er mwyn trafod a fyddai gwneud gorchymyn o'r fath er lles pennaf y plentyn, sut y gallai weithredu ac am ba hyd. 

Dim ond os bydd ymarferwyr Cafcass Cymru o'r farn bod angen cymorth neu gyngor, am gyfnod byr, er lles y plentyn ac er mwyn i drefniadau'r plentyn weithio y byddant yn argymell GCT. 

Cyn argymell GCT, bydd yr ymarferydd wedi siarad â'r oedolion a, lle y bo'n briodol, y plentyn, er mwyn cael gwybod eu barn. Bydd yn fodlon y bydd pob un o'r oedolion yn gweithio'n unol â chynllun y cytunwyd arno sy'n cynnwys nodau clir, sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion lles y plentyn ac sy'n debygol o lwyddo. 

Gallai ymarferwyr Cafcass Cymru gyflwyno'r argymhelliad hwn mewn adroddiad i'r llys neu gallai roi ei farn yn ystod gwrandawiad llys.

Beth fydd yn digwydd?

Bydd ymarferydd Cafcass Cymru yn llunio cynllun clir gyda'r oedolion a enwir sy'n canolbwyntio ar anghenion a lles y plentyn ac sy'n nodi:

  • Y materion y mae'r GCT yn anelu at roi cymorth yn eu cylch, a sut y bydd hyn o fudd i'r plentyn
  • Y camau gweithredu a fydd yn helpu'r teulu i lunio, gwella neu gynnal y trefniadau ar gyfer y plentyn
  • Pwy sy'n gyfrifol am ba gamau gweithredu
  • Ym mha ffordd a pha mor aml y bydd yr ymarferydd yn cysylltu â'r bobl a enwir yn y GCT a / neu'r plentyn i drafod eu cynnydd
  • Unrhyw gyfarfodydd a gynhelir fel rhan o'r GCT
  • A fydd adroddiad neu adolygiad ar ddiwedd y GCT.

Pwyntiau pwysig i'w nodi

Mae gorchmynion cymorth teuluol yn rhoi cymorth byrdymor i deuluoedd lunio, gwella neu gynnal y trefniadau plentyn a nodir mewn gorchymyn trefniadau plentyn. Eu nod yw gwella sefyllfa'r plentyn.

  • Nid yw GCT yn addas ar gyfer rheoli trefniadau plentyn sy'n achosi risg neu sy'n anniogel.
  • Nid yw GCT yn ffordd o geisio rhoi trefniadau ar waith na chawsant eu gorchymyn gan y llys neu na chytunwyd arnynt gan y plentyn a'r oedolion dan sylw.
  • Nid yw ymarferwyr yn goruchwylio amser teulu fel rhan o'r GCT, nid ydynt yn ymgymryd â gwaith stori bywyd na gwaith therapiwtig gyda phlant nac oedolion.
  • Mae Cafcass Cymru yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener ac nid yw ymarferwyr yn rhoi cyngor na chymorth y tu allan i oriau gwaith arferol.

 

Gorchymynion Monitro

Beth yw Gorchymyn Monitro?

Gall y llys wneud gorchymyn monitro, sy'n rhoi cyfarwyddyd i Cafcass Cymru gadarnhau a yw person yn cydymffurfio â gorchymyn trefniadau plentyn. Gall y gorchymyn monitro bara hyd at 12 mis. Gall y llys ofyn i Cafcass Cymru gyflwyno adroddiad i'r llys yn ystod cyfnod y gorchymyn monitro neu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. 

Nid oes angen i'r llys gael cytundeb y rhieni neu'r gofalwyr er mwyn gwneud gorchymyn monitro.

Beth fydd yn digwydd?

Bydd Cafcass Cymru yn gwneud trefniadau gyda'r oedolion dan sylw i fonitro cydymffurfiaeth â'r gorchymyn trefniadau plentyn. Fel arfer, gwneir hyn drwy un alwad ffôn neu fwy. 

Bydd Cafcass Cymru yn dilyn y cyfarwyddiadau a wnaed gan y llys o ran sut i roi gwybod i'r llys os na fydd y person sy'n cael ei fonitro yn cydymffurfio â'r gorchymyn. Fel arfer, gwneir hyn drwy ysgrifennu adroddiad byr i'r llys.

Pwyntiau pwysig i'w nodi

Rôl Cafcass Cymru yw monitro cydymffurfiaeth â'r trefniadau ar gyfer y plentyn, fel y'u nodir yn y gorchymyn trefniadau plentyn

  • Nid yw Cafcass Cymru yn gyfrifol am lunio trefniadau na hwyluso trefniadau
  • Nid yw Cafcass Cymru yn rhoi cyngor na chymorth fel rhan o orchymyn monitro
  • Mae Cafcass Cymru yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener ac nid yw ymarferwyr yn monitro cydymffurfiaeth y tu allan i oriau gwaith arferol