Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llynnoedd Cosmeston, Pier Penarth ac Ysbyty Llandochau i gyd ymhlith y lleoedd fydd i’w gweld yn Born to Kill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Born to Kill ei ffilmio’n bennaf ym Mro Morgannwg, a bydd yn cynnwys golygfeydd o’r Barri a Dinas Powys ynghyd â setiau mewnol a adeiladwyd yn Stiwdios Enfys yng Nghaerdydd.  World Productions yw’r cwmni cynhyrchu, yr un cwmni a wnaeth Line of Duty. 

Yr help ariannol a gafodd gan Lywodraeth Cymru oedd rhan o’r rheswm pam y dewisodd World Productions ddod i Gymru i gynhyrchu’r pedair pennod awr o hyd gan ddefnyddio criwiau a chyfleusterau o Gymru. Gyda chymorth Sgrin Cymru, rhan o dîm diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru, amcangyfrifir bod y cynhyrchiad wedi arwain at wario £2.5m yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Dyma enghraifft arall o help ariannol Llywodraeth Cymru yn helpu i ddenu cynyrchiadau i Gymru gan gynnig llawer o gyfleoedd pwysig i weithwyr y sector.  Mae Sgrin Cymru’n gweithio’n glos â’r holl gynyrchiadau hyn i’w hannog i ddefnyddio criwiau a chynyrchiadau o Gymru, gan sbarduno gwariant a manteision i Gymru.” 

Dywedodd Jake Lushington, Pennaeth Drama/Cynhyrchydd Gweithredol World Productions:   

“Diolch i’r dewis rhyfeddol o leoliadau a phrofiad ac ymroddiad y criw lleol, mae ffilmio yng Nghaerdydd a’r cylch wedi bod yn bleser pur ac mae World Productions yn disgwyl ymlaen at ddychwelyd i’r ardal i weithio ar brosiectau yn y dyfodol.” 

Mae Born to Kill yn ymdreiddio i feddwl llanc yn ei arddegau sy’n ceisio ffrwyno’i ddyheadau seicopathig ac yn cwympo mewn cariad yr un pryd.  Mae hefyd yn dilyn teulu a chymuned y llanc nad oes ganddyn nhw amcan o’r hyn y gall ei wneud.

Born to Kill yw comisiwn cyntaf Tracey Malone (Silent Witness) gyda’r cyw awdur teledu ac actores, Kate Ashfield, a enwebwyd am BIFA . Cyfarwyddwr y ddrama pedair rhan, gyda Romola Garai a Daniel Mays yn actorion ynddi, yw Bruce Goodison (Murdered by my Father, Doctor Foster), y cynhyrchydd yw Lucy Robinson a’r cynhyrchydd gweithredol yw Jake Lushinton (The Devil’s Whore).

Mae World Productions yn gwmni drama teledu blaenllaw. Mae wedi cynhyrchu cannoedd o oriau o gyfresi drama o’r ansawdd uchaf, gan gynnwys y ddrama uchel ei chlod, Line of Duty, ar gyfer holl brif ddarlledwyr Prydain.