Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cestyll Conwy, Cas-gwent a Chydweli yn cael eu goleuo â baner yr enfys fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddathlu Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y Mis Hanes yw codi ymwybyddiaeth o hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, eu bywydau a’u profiadau, gan hefyd yn eu gwneud yn fwy gweledol yn ein cymunedau. Y thema eleni yw Daearyddiaeth: Mapio’r Byd.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wedi trefnu i oleuo'r Senedd ym Mae Caerdydd â lliwiau baner yr enfys. 

Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James:

“Ar y naill law, mae’r Mis Hanes yn dathlu cyfraniad Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol i’n cymunedau ni, ac ar y llall mae’n gyfle i ystyried y rhagfarn a’r gwahaniaethu sydd wedi wynebu’r gymuned, a dangos ein hymrwymiad i fynd i’r afael â hyn. 

Gan mai'r thema eleni yw Daearyddiaeth: Mapio'r Byd, hoffwn gydnabod a dathlu â’r gwledydd hynny sydd ar flaen y gad o ran ymladd am gydraddoldeb i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, fel Awstralia sydd wedi pasio Bil yn ddiweddar i ganiatáu priodasau o’r un rhyw. Fodd bynnag, mae gwledydd eraill lle nad yw dinasyddion Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yn cael yr un hawliau ag y maent yn eu cael yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn meddwl am y cymunedau hynny.”