Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates wedi rhoi’r golau gwyrdd heddiw ar gyfer hyb trafnidiaeth newydd gwerth £5.3m ym Mhort Talbot.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff yr Hyb newydd ei adeiladu wrth orsaf Parkway.  Cafodd yr orsaf ei hun ei hailadeiladu’n ddiweddar a bydd honno a’r hyb gyda’i gilydd yn ganolbwynt i drafnidiaeth yr ardal.  Ariennir y prosiect ar y cyd gan Lywodraeth Cymru (£2.7m) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (£2.5m). 

Meddai Ken Skates:


“Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r swm sylweddol hwn o arian ar gyfer datblygiad cyffrous yng nghalon Port Talbot.  Mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus lleol yn rhan ganolog o’n gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru a byddai creu cyfleuster deniadol fel hwn yn gam mawr i wireddu’r amcan hwnnw yn yr ardal.  Mae’n hanfodol bod gwelliannau o’r fath i’r seilwaith lleol yn digwydd hefyd ar lefel genedlaethol a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod y lein i Abertawe yn cael ei thrydaneiddio mor fuan â phosib.


“Yn ogystal a gwella gwasanaethau i Gastell-nedd Port Talbot a’i chymunedau, mae’r gwelliannau hyn yn creu cyfle cyffrous i ddenu rhagor o fuddsoddi. 

“Rwy’n disgwyl ymlaen at weld yr Hyb wedi’i orffen, a chyda’r orsaf drenau newydd, bydd yn niwclews ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus modern, da ei gysylltiadau ar gyfer yr ardal.” 

Bydd yr Hyb yn cynnwys:

  • 6 Safle Bysiau 
  • Panel Amserlenni Bysiau Rhyngweithiol 
  • Mannau gollwng a chodi ar gyfer tacsis
  • Canopi / Cysgodfan Fysiau, i gyd-fynd â dyluniad Gorsaf Parkway
  • Mannau Cyhoeddus Agored wedi’u gwneud o ddeunydd cadarn o ansawdd uchel
  • Gwelliannau i’r Goleuadau Diogelwch a Phriffordd
  • Caffi 
  • Mannau Croesi Diogel
  • Ailgyfeirio’r briffordd er mwyn hwyluso llif y traffig

Meddai’r Cynghorydd Ali Thomas OBE, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

“Bydd yr Hyb Trafnidiaeth Integredig newydd yn ddatblygiad allweddol yng Nghastell-nedd Port Talbot wrth inni weithio i wella cysylltiadau a hybu twf economaidd ein cymunedau. 

“Gyda Gorsaf newydd Parkway Port Talbot, bydd yr Hyb yn ei gwneud yn haws i bobl deithio ar draws y rhanbarth, ar gyfer eu gwaith ac at ddibenion hamdden.  Bydd trigolion a busnesau lleol yn siŵr o groesawu hyn yn fawr.”