Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwaith pwysig i wella'r A55 rhwng cyfnewidfa Abergwyngregyn a fferm Tai'r Meibion yn mynd yn ei flaen ar ôl iddo gael sêl bendith Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun gwerth £25 miliwn rhwng Cyffyrdd 12 a 13 yn gwella diogelwch ar y rhan hon o'r ffordd yn ogystal â lleihau perygl llifogydd.

Mae'r gwaith yn cynnwys uwchraddio'r darn 2.2 cilomedr o'r ffordd er mwyn bodloni safonau cyfoes, darparu ffyrdd mynediad mwy diogel i'r A55, gwella'r system ddraenio er mwyn iddi fedru ymdopi'n well ag unrhyw lifogydd yn y dyfodol, darparu troetffyrdd newydd er mwyn ei gwneud yn haws i gerddwyr gyrraedd y gwasanaeth bysiau lleol, a phibellau newydd i fywyd gwyllt o dan yr A55.  

Mae teithio llesol yn rhan annatod o'r cynllun a bydd llwybr cerdded a beicio newydd yn cael ei adeiladu wrth ochr y gerbytffordd i gyfeiriad y dwyrain.  

Bydd wyneb sŵn isel newydd yn cael ei osod hyd at fan heibio i Abergwyngregyn er mwyn helpu i leihau sŵn o'r ffordd yn yr ardal honno.

Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan £14.9 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dywedodd Ken Skates:

"Mae cynllun Abergwyngregyn − Tai’r Meibion yn enghraifft arall o sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i wella'r seilwaith trafnidiaeth yn y Gogledd. Rydyn ni'n buddsoddi'n drwm ledled y rhanbarth ac mae'r prosiect hwn yn tystio i'n hymrwymiad i wella ac i gryfhau'r A55.

"Bydd y cynllun yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y ffordd yn fwy diogel ar gyfer traffig lleol a thraffig drwodd, er mwyn lleihau perygl llifogydd, adeiladu gwell cysylltiadau â chymunedau i gerddwyr a beicwyr, a gwella bioamrywiaeth.

"Y cam nesaf yw penodi contractwr a'r bwriad wedyn yw dechrau ar y gwaith tua diwedd y flwyddyn. Bydd y cam adeiladu yn arwain hefyd at gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn lleol, gan roi cryn hwb i economi'r ardal.

"Mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn dilyn y gymeradwyaeth a roddais yn ddiweddar i ffordd osgoi Caernarfon a'r Bontnewydd. Dw i'n siŵr y bydd y ddau gynllun yn diwallu anghenion busnesau a chymunedau yn y Gogledd-orllewin ac y byddan nhw hefyd yn gwella diogelwch ar y ffordd ac yn sicrhau bod gennym rwydwaith trafnidiaeth fodern."

Disgwylir i waith galluogi ddechrau yn yr hydref, gan gynnwys clirio'r safle a lledu ffordd sy'n bodoli eisoes. Bydd yr holl waith hwn yn cael ei wneud oddi ar yr A55. Bwriedir i'r gwaith adeiladu ar yr A55 ei hun ddechrau yng ngwanwyn 2019, gan barhau am gyfnod o 18 mis. Bydd pob un o'r pedair lôn ar yr A55 yn parhau'n agored o dan gyfyngiad cyflymder rhwng 6am a 7pm er mwyn sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar y traffig.

Ewch i: A55: Gwella ffordd Abergwyngregyn i Dai’r Meibion.