Heddiw mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo bod y model newydd ar gyfer gwasanaethau ambiwlans brys yn cael ei roi ar waith yn ddi-oed.
Daw’r penderfyniad ar ôl i werthusiad annibynnol, a gomisiynwyd gan y Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, roi darlun cadarnhaol o’r model.
Mae’r model ymateb clinigol hwn, a gyhoeddwyd yn haf 2015, yn symud i ffwrdd oddi wrth dargedau hanesyddol sy’n seiliedig ar amser mewn perthynas â phob galwad heblaw am y rhai lle mae bywyd yn y fantol, sef y galwadau ‘coch’. Mae’n canolbwyntio fwy ar y canlyniadau i’r cleifion, gan flaenoriaethu’r rheini sydd â’r angen mwyaf am ymateb brys.
Y targed yw ymateb i 65% o’r galwadau coch mwyaf brys o fewn wyth munud. Mae’r targed hwn o 65% wedi cael ei gyflawni bob mis ers i’r peilot gychwyn ym mis Hydref 2015. Mae perfformiad wedi parhau i wella, ac ym mhob un o’r 9 mis diwethaf, mae dros 75% o alwadau coch wedi cael ymateb brys o fewn wyth munud.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
“Ers rhoi peilot y model ymateb clinigol newydd ar waith, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwella ei berfformiad yn sylweddol.
“Mae’r gwerthusiad annibynnol, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, yn cadarnhau ein penderfyniad i gymryd y cam eofn o roi’r model newydd ar waith yn sgil llwyddiant y peilot. Wrth gynnal y gwerthusiad, gwelwyd bod y gwasanaeth ambiwlans a phartneriaid allanol i gyd yn cydnabod yn glir mai’r peth iawn a phriodol fyddai defnyddio’r model newydd hwn, sy’n newyddion gwych i ni.
“Dw i hefyd yn croesawu’r ffaith bod yr adroddiad yn cadarnhau y bu gwelliant sylweddol mewn perfformiad o ran amser ymateb i’r rheini sydd â’r angen mwyaf am gymorth clinigol brys. Mae’r ystadegau ambiwlans diweddaraf yn cadarnhau hynny, a llai na phum munud oedd yr amser ymateb arferol i alwadau lle mae bywyd yn y fantol ym mhob un o’r chwe mis diwethaf.
“Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, y rheini sy’n ymdrin â’r galwadau, y clinigwyr, y gwirfoddolwyr a’r aelodau eraill o staff am eu holl waith caled yn sicrhau llwyddiant y model.
“Mae’n dda gweld bod y peilot wedi ennyn diddordeb dros y byd, ac mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael ei wahodd i roi cyngor i nifer o wasanaethau ambiwlans yn Lloegr ac yn yr Alban, yn ogystal ag ymhellach i ffwrdd yng Nghanada, Seland Newydd, Awstralia, yr Unol Daleithiau, a Chile. Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans yr Alban yn cynnal peilot cenedlaethol i dreialu model sy’n debyg iawn i’n model ni.
“Mae’n hanfodol ein bod yn bachu ar y cyfle hwn i barhau i arwain y ffordd yn rhyngwladol yn y maes pwysig hwn, er lles pobl Cymru.”