Bydd cyllid yr UE yn helpu i lansio prosiect gwerth £3.5m i brofi technolegau a chynnyrch storio ynni carbon isel newydd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid.
Bydd y cynllun Systemau Storio Ynni Clyfar (SESS), dan arweiniad Prifysgol De Cymru, yn gweithio gyda busnesau i sbarduno arloesi a datblygu cynnyrch, technolegau a phrosesau newydd ar gyfer y farchnad.
Wedi'i leoli yng Nghanolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer (CAPSE) y Brifysgol, bydd y cynllun yn manteisio ar £2.3m o gyllid yr UE i gydweithio gyda busnesau mewn sectorau fel technoleg carbon isel, ynni a'r amgylchedd, gweithgynhyrchu uwch a TGCh.
Daw gweddill y cyllid o'r Brifysgol a phartneriaid diwydiannol sy'n rhan o'r prosiect.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
"Rydyn ni wedi ymrwymo i sbarduno ymchwil o'r radd flaenaf ym maes yr economi carbon isel, ac fe fydd cydweithrediad rhwng busnesau a phrifysgolion yn ein helpu i gyflawni hyn.
"Mae lleihau ein hôl troed carbon yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, gan helpu Cymru i wireddu ei photensial i arbed ynni ac i fod yn allforiwr pwysig o dechnoleg a gwybodaeth arbed ynni."
Gall busnesau ddefnyddio cyfleusterau ymchwil arbenigol y brifysgol a'i harbenigedd academaidd i helpu i ddatblygu cynnyrch a phrosesau newydd, gan gynnwys yn y meysydd modurol ac ynni.
Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-ganghellor Prifysgol De Cymru:
"Mae gan Brifysgol De Cymru brofiad helaeth o gydweithio gydag amrywiol gyrff allanol ym mhob sector o'r economi.
"Mae gan CAPSE enw da am ei harbenigedd ym maes ymchwil batris/storio ynni, ac fe fydd yr SESS wedi'i seilio ar hynny.
"Mae'r wybodaeth helaeth sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru yn mynd i helpu busnesau bach a chanolig sy'n cymryd rhan yn y cynllun SESS i fanteisio i'r eithaf ar ein cryfderau ymchwil ac academaidd. Bydd yr arloesi o ganlyniad yn helpu busnesau Cymru i gyfrannu cymaint â phosib i dwf economaidd yn y dyfodol."