Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates heddiw mai'r llwybr coch yw'r opsiwn y mae'n ei ffafrio ar gyfer cynllun coridor Glannau Dyfrdwy sydd werth £250m.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:
"Mae'n bleser gen i gyhoeddi mai'r llwybr coch yw'r opsiwn rwy'n ei ffafrio i ddatrys problem y tagfeydd ar yr A55/A494/A548 yn ardal Coridor Glannau Dyfrdwy.
"Ar ôl ystyried yr holl agweddau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a gwrando ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy'n ffyddiog y gwnaiff y buddsoddiad sylweddol hwn fynd i'r afael â'r problemau ac ategu'r gwelliannau eraill yn ardal Glannau Dyfrdwy.
"Y cam nesaf yw creu dyluniad cychwynnol sy'n rhoi ystyriaeth fanylach i'r problemau amgylcheddol a pheirianyddol ac sy'n edrych ar sut i ddatrys rhai o'r problemau godwyd yn yr ymgynghoriad.
"Rwy'n gobeithio y caiff yr agwedd hon ar y gwaith ei chwblhau'n gyflym fel bod busnesau a chymudwyr fel ei gilydd yn cael gweld manteision y prosiect yn fuan, gan gryfhau yr un pryd y cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd ar draws Gogledd Cymru, Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, Caer a thu hwnt."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi hefyd y byddai'n bwrw ymlaen â chynllun Gwella A494 Pont Afon Ddyfrdwy er mwyn ystyried yr opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â mater y tagfeydd a datrys problemau'r bont bresennol.
O ran y rheilffyrdd, dywedodd y byddai'n comisiynu rhagor o waith ar orsaf newydd yn Parkway Glannau Dyfrdwy ac ar gyd-leoli Gorsaf Uchaf Shotton a Gorsaf Isaf Shotton i greu gorsaf integredig. Byddai hynny'n creu cyfnewidfa hwylus i deithwyr sydd am newid rhwng lein Wrecsam - Bidston a phrif lein Arfordir y Gogledd.
Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint a Network Rail, byddwn yn datblygu cynllun ar gyfer gorsaf newydd Parkway Glannau Dyfrdwy i wella'r cysylltiadau â'r parc busnes, gan gynnwys darparu gwasanaeth parcio a theithio. Ystyrir hefyd cyfleusterau ar gyfer traffig cludo nwyddau ar y ffyrdd.
Mae yn hyn ychwanegol at y £1m a mwy a roddwyd i Gyngor Sir y Fflint ym mis Mawrth i wella gwasanaethau bws ac annog pobl i gerdded a beicio yng Nglannau Dyfrdwy. Caiff cyfran o'r arian ei wario ar ddatblygu cyfnewidfeydd bysiau, mesurau blaenoriaethu bysiau ar Goridor y B5129 yn Shotton a seilwaith ar gyfer bysiau ym Mharc Busnes Glannau Dyfrdwy. Caiff y gweddill ei ddefnyddio i ddatblygu llwybrau teithio llesol ym Mharc Busnes Glannau Dyfrdwy.
Mae hyn oll yn ychwanegol at y buddsoddiad o £4.7m i gefnogi Porth y Gogledd ac i barhau â'r gwaith o adeiladu seilwaith ffyrdd ychwanegol er mwyn gallu datblygu tir a denu rhagor o fusnesau i'r safle.
Meddai
"Bydd yr arian a'r mentrau hyn yn hwb mawr i chwalu'r hyn sy'n rhwystro pobl rhag gallu manteisio ar y swyddi yn Hyb Glannau Dyfrdwy. Bydd yn un rhan o'r weledigaeth ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain, sef system drafnidiaeth integredig o ansawdd uchel a chysylltiedig fydd yn cynnig cyfleoedd da ar gyfer teithio llesol ac yn dod â manteision mawr i'r rhanbarth."