Mae Gogledd Cymru ar agor am fusnes ac yn barod i adeiladu ar ei enw da, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones cyn iddo ymweld ag ardal Wrecsam heddiw.
Bydd y Prif Weinidog yn lansio cynllun gwerth £16m gyda chefnogaeth yr UE i ddarparu rhaglenni hyfforddi wedi'u targedu at fusnesau mewn sectorau allweddol o economi'r gogledd.
Dan arweiniad Coleg Cambria, bydd Sgiliau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr (SEE) yn helpu dros 500 o fusnesau a 7,000 o bobl dros y tair blynedd nesaf drwy roi cymhorthdal o hyd at 70 y cant i fusnesau allu manteisio ar hyfforddiant.
Cynhelir y lansiad ar safle Magellan Aerospace, un o’r cwmnïau a fydd yn elwa o’r cynllun.
Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y Prif Weinidog:
"Bydd y cynllun hwn yn arwain at greu sylfaen fwy cadarn byth o sgiliau yn yr ardal, gan gryfhau busnesau a gwella’r potensial i fuddsoddi ynddyn nhw.
"Mae’r cynllun yn deillio o waith partneriaeth a chydweithio llwyddiannus. Fe gafodd ei ddatblygu ar y cyd gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, fel un o’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion lleol a’i fod yn gweithio i sectorau allweddol yr economi yn y Gogledd.
"Bydd gan y cynllun rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi datblygiadau economaidd mawr ledled y Gogledd, fel Wylfa Newydd a Pharc Gwyddoniaeth Menai, ac i helpu’r busnesau yn ardaloedd menter y Gogledd i ehangu.
"Gyda £10m o arian gan yr UE mae'r cynllun hwn yn enghraifft dda o'r ffordd rydyn ni'n parhau i wneud y gorau o'r cyllid presennol i sicrhau bod Cymru'n manteisio i'r eithaf ar yr arian hwn."Ein blaenoriaeth ni yw gwneud yn siŵr nad yw Cymru'n colli ceiniog o'r arian ry'n ni'n ei gael gan yr UE ar hyn o bryd ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni'n parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am warantu cyllid i brosiectau a fydd yn cael eu cytuno ar ôl Datganiad yr Hydref.
"Mae Gogledd Cymru yn barod amdani ac yn lle delfrydol ar gyfer busnesau. Gyda llu o gwmnïau fel Airbus, Raytheon a Magellan yn buddsoddi yno, gall yr ardal adeiladu ar ei llwyddiant.
"Mae busnesau'n ymwybodol bod sylfaen gadarn o sgiliau yn yr ardal hon, a bydd y cynllun hwn yn gwella hyn eto gan ei wneud yn lle hyd yn oed mwy deniadol i fuddsoddi ynddo."