Beth sy'n rhaid ichi ei wneud er mwyn dod â'ch ci, eich cath neu'ch ffured anwes i mewn i'r DU o'r Undeb Ewropeaidd (UE) ac o wledydd a restrir nad ydynt yn yr UE.
Gosod microsglodyn yn eich anifail anwes
Y cam cyntaf yw sicrhau bod modd adnabod eich anifail anwes drwy ddefnyddio microsglodyn. Rhaid i'r microsglodyn gael ei osod gan unigolyn sydd â'r cymwysterau i wneud hynny. Gall unigolyn cymwysedig fod yn:
- filfeddyg, yn nyrs filfeddygol neu'n fyfyriwr milfeddygol
- rhywun sydd wedi bod ar gwrs gosod microsglodion ag elfen ymarferol cyn 29 Rhagfyr 2014
- rhywun sydd wedi bod ar gwrs cymeradwy ar osod microsglodion (cwrs sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban neu Defra).
Brechu'ch anifail anwes
Unwaith y bydd y microsglodyn wedi cael ei osod, bydd yn rhaid brechu'ch anifail anwes rhag y gynddaredd. Nid oes unrhyw eithriad, hyd yn oed os yw'ch anifail anwes wedi cael ei frechu rhag y gynddaredd yn barod. Ni cheir brechu anifeiliaid anwes rhag y gynddaredd at ddibenion teithio os ydyn nhw'n ifancach na 12 wythnos. Rhaid aros am 21 diwrnod ar ôl y dyddiad brechu cyn i'ch anifail anwes gael dod i mewn i'r DU. Os oes dwy ran i'r brechiad, bydd y cyfnod aros o 21 diwrnod yn dechrau ar ddyddiad yr ail frechiad. Felly, nid yw anifeiliaid yn gallu teithio nes y byddan nhw o leiaf yn 15 wythnos oed.
Trefnu dogfennau teithio ar gyfer eich anifail anwes
Os yw'ch anifail anwes yn cael ei baratoi
- yn un o wledydd yr UE, mae angen ichi drefnu pasbort anifeiliaid anwes yr UE ar ei gyfer
- yn un o'r gwledydd a restrir nad ydynt yn yr UE, bydd angen ichi gael tystysgrif filfeddygol swyddogol o'r drydedd wlad. Pwysig: mae Croatia, Gibraltar, Norwy, San Marino a'r Swistir yn rhoi pasbortau hefyd.
Trin eich ci rhag llyngyr rhuban
Cyn iddo ddod i mewn i'r DU, rhaid i filfeddyg drin eich chi (gan gynnwys cŵn cymorth) rhag llyngyr rhuban. Rhaid rhoi'r driniaeth o leiaf 24 awr cyn ichi gyrraedd y DU a dim mwy na 120 awr (5 diwrnod) cyn hynny.
Pwysig: nid oes angen ichi drin eich ci rhag llyngyr rhuban os ydych yn teithio i'r DU o'r Ffindir, Iwerddon, Malta neu Norwy.
Trefnu ffordd gymeradwy o deithio ar gyfer eich anifail anwes
Pan fydd eich anifail anwes yn dod i mewn i'r DU o wlad a restrir, rhaid iddo:
- deithio gyda chwmni teithio cymeradwy
- teithio ar hyd llwybr teithio awdurdodedig