O heddiw ymlaen, mae'n ofynnol i ddarparwyr roi dewis o gontract i weithwyr gofal cartref a hynny ar ôl cyfnod cyflogaeth o dri mis.
Mae'r gofynion newydd yn rhan o ymdrechion ehangach Llywodraeth Cymru i gefnogi darparu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r canlyniadau personol y mae eisiau eu cyflawni.
Mae'r rheoliadau newydd yn cefnogi arferion da ym maes cyflogaeth trwy fynd i'r afael â’r defnydd o gontractau dim oriau. O heddiw ymlaen, mae'n ofynnol i ddarparwyr roi dewis o gontract i weithwyr gofal cartref a hynny ar ôl cyfnod cyflogaeth o dri mis.
Mae'r rheoliadau hefyd yn gosod gofynion ar y darparwyr hynny i sicrhau bod yr amser sy'n cael ei neilltuo ar gyfer teithio a gofal yn cael ei nodi'n glir ac yn dryloyw, er mwyn osgoi erydu amser gofal a thrwy hynny ansawdd a dilyniant gofal gan yr angen i deithio rhwng ymweliadau.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:
“Mae'r rheoliadau newydd sy'n dod i rym heddiw wedi'u cynllunio i gefnogi gwelliant parhaus yn y sector gofal yng Nghymru. Maen nhw'n cynnig bargen decach i staff yn y sector gofal cymdeithasol, ac yn helpu i ddiogelu ansawdd y gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu cael yn eu cartrefi eu hunain.
“Mae cysylltiad clir iawn rhwng y defnydd o gontractau dim oriau a gostyngiad yn ansawdd y gofal, a hynny oherwydd materion ynghylch dilyniant o ran gofal a chyfathrebu rhwng gweithwyr a'r rhai y maen nhw'n eu cefnogi. Bydd y mesurau hyn yn sicrhau bod dewis o drefniadau contractiol yn cael ei gynnig i weithwyr.
"Bydd ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wahaniaethu'n glir rhwng amser teithio ac amser gofal wrth drefnu gwasanaethau hefyd yn gwella profiad pobl y mae arnynt angen gofal. Bydd gwneud hynny yn helpu i fynd i'r afael â byrhau galwadau'n fwriadol, gan sicrhau na chaiff amser gofal a chymorth pobl ei erydu oherwydd amser teithio rhwng ymweliadau.
“Bydd cofrestru gweithwyr gofal cartref yn rhoi hyder i'r cyhoedd bod gan weithwyr gofal cartref y sgiliau a'r cymwysterau priodol i wneud eu swyddi mewn ffordd broffesiynol a thosturiol.
“Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gymryd camau i sicrhau bod pobl sy'n derbyn gofal yn cael y gofal gorau posibl, ac i sicrhau tegwch i staff gofal cymdeithasol ledled Cymru.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi agor cofrestr gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru i gynnwys gweithwyr gofal cartref, fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i broffesiynoli'r gweithlu. Bydd hyn yn sicrhau bod gweithwyr gofal yn cael y gydnabyddiaeth a'r cymorth y maent yn eu haeddu gan Lywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, a'u cyflogwyr.
Mae'r gofynion hyn yn rhan o becyn o fesurau a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid i godi proffil a statws y gweithlu, fel bod gofal cymdeithasol yn cael ei gydnabod yn yrfa ddeniadol a gwerthfawr.
Mae'r rheoliadau'n deillio o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy'n nodi'r fframwaith statudol newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac yn diwygio'r gwaith o reoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae cymorth yn y cartref wrth wraidd y system, ac mae gan weithwyr gofal cartref rôl hanfodol wrth gefnogi pobl i gadw eu hannibyniaeth a byw yn eu cartrefi eu hunain. Amcangyfrifir bod tua 19,500 o weithwyr gofal cartref yng Nghymru, yn darparu tua 260,000 awr o ofal yr wythnos i 23,000 o bobl.