Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer cynllun Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd (Ffenestr 1 a 3).
Cynnwys
Sut i dynnu ffotograffau â geotag
Am fanylion llawn:
- beth yw ffotograff â geotag, a
- sut i gymryd un
gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag.
Gofynion Tyfu er mwyn yr Amgylchedd (cyfnod ymgeisio 1 a 3)
Bydd angen tynnu ffotograffau cyn, yn ystod ac ar ôl i chi wneud eich gwaith Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Rhaid gofalu bod geotag ar bob ffotograff.
Dylai’ch ffotograffau ‘cyn gwneud y gwaith’ ddangos yn glir y sefyllfa yn y lleoliad dan sylw. Dylech ei dynnu:
- ar ôl cynaeafu’r cnwd diwethaf, ond
- cyn plannu’r cnwd ‘Tyfu er mwyn yr Amgylchedd’
Rhaid gwneud hyn cyn unrhyw waith aredig neu ddrilio.
Rhaid tynnu’r ffotograffau ‘yn ystod y gwaith’ yn yr un lle. Rhaid i’r lluniau hyn ddangos y gwaith trin a hau, cyflwr y caeau pan fyddwch yn hau a sut ydych yn hau.
Rhaid tynnu’r ffotograffau o’r un lle. Rhaid eu tynnu ar 15 Chwefror 2023 a rhaid iddynt ddangos cnwd gorchudd llawn di-fwlch.
Does dim gwahaniaeth p’un a yw’r lluniau’n rhai ‘portrait’ neu ‘landscape’, cyn belled â’ch bod yn gallu gweld yr holl wybodaeth berthnasol.
Eich cyfrifoldeb chi yw dangos digon o dystiolaeth i brofi bod y gwaith rheoli neu’r buddsoddiad wedi’i wneud. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.
Bydd angen i chi lanlwytho ffotograffau â geotag i RPW Ar-lein. Byddwn ni'n cadarnhau bod y gwaith wedi’i wneud yn y man cywir fel a nodir yn y contract.
Help a chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.