Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer cynllyn Grantiau Bach – Amgylchedd (creu gwrychoedd).
Cynnwys
Sut i dynnu ffotograffau â geotag
Am fanylion llawn:
- beth yw ffotograff â geotag, a
- sut i gymryd un
gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag.
Creu perthi/gwrychoedd
Gallwch gynnal yr opsiwn Creu Perthi/Gwrychoedd yn y mannau a ganlyn:
- Ar hyd ffiniau caeau presennol lle nad oes perth/gwrych wedi bod yno o’r blaen.
- O fewn caeau, er mwyn creu ffiniau newydd.
- Ar gloddiau (cloddiau pridd a chloddiau cerrig). Ni ddylai fod unrhyw dyfiant prennaidd ar y clawdd o gwbl.
- Ar gloddiau sydd â rhai planhigion perthi prennaidd yn dal yno. (Bydd bylchau mawr rhwng y gweddillion hyn, ac ni fyddant yn cael eu tocio â pheiriant).
- Ar gloddiau â pherth lle y mae rhai coed aeddfed wedi’u cadw yno. (Nid rhes ddi-fwlch o goed).
- Er mwyn llenwi bylchau sy’n 20m neu fwy mewn perthi/gwrychoedd sy’n bod.
Nid yw’r opsiwn hwn ar gael i chi os:
- oes planhigion perthi’n tyfu’n ddi-fwlch ar y darn y bwriedir ei blannu ar ei hyd.
- oes rhes ddi-fwlch o goed aeddfed eisoes.
- yw gweddillion y berth/gwrych wedi eu torri neu eu tocio â pheiriant er mwyn cynnal y berth/gwrych.
- ydych yn cau bylchau llai nag 20m o hyd mewn perth/gwrych
Help a chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.