Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol.
Cynnwys
Sut i dynnu ffotograffau â geotag
Am fanylion llawn:
- beth yw ffotograff â geotag, a
- sut i gymryd un
gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag.
Gofynion Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol
Ffotograffau â Geotag yw un o’r dogfennau ategol sy angen eu cyflwyno fel rhan o’ch Cais am Grant.
Mae’n rhaid i chi dynnu ffotograffau â geotag o’r eitem/eitemau are ich safle i ddangos tystiolaeth o’ch Cais ADS. Ni fyddwn yn gallu talu eich hawliad heb ffotograffau â geotag perthnasol.
Byd ein staff yn edrych ar amser a lleoliad y ffotograffau â geotag y byddwch wedi’u cyflwyno iddi ac yn cymharu hynny â’r wybodaeth yn eich contract ADS. Drwy hynny, gallwn gadarnhau’ch hawliad a bod y gweithgarwch wedi’i wneud fel y cytunwyd.
Tynnwch ffotograff o’r eitem/eitemau hawliedig are ich safle. Rhaid i bob ffotograff fod yn ffotograff â Geotag.
Does dim gwahaniaeth p’un a yw’r lluniau’n rhai ‘portrait’ neu ‘landscape’, cyn belled â’ch bod yn gallu gweld yr holl wybodaeth berthnasol.
Eich cyfrifoldeb chi yw dangos bod gennych ddigon o dystiolaeth i ddangos bod y gwaith rheoli neu’r buddsoddiad wedi’i wneud. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.
Bydd angen i chi lanlwytho ffotograffau â geotag i RPW Ar-lein. Ar ôl ichi lanlwytho’ch ffotograffau â geotag fel rhan o’ch hawliad Cynllun ADS, bydd staff Llywodraeth Cymru yn gallu edrych a yw’r gweithgarwch wedi’i gwblhau yn y lle cywir, yn unol â’ch contract.
Help a chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.