Mae ymgynghoriad newydd wedi ei lansio sy'n amlinellu cynigion i gyflwyno mesurau ychwanegol i ategu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates, sydd hefyd yn gyfrifol am Ddiwylliant a Threftadaeth yng Nghymru:
“Pan gafodd y Ddeddf arloesol hon sêl bendith y Cynulliad yn gynharach eleni, roedd cydnabyddiaeth eang bod y ddeddfwriaeth yn rhan o becyn ehangach o fesurau i wella'r modd y mae'r amgylchedd hanesyddol yn cael ei reoli ac i sicrhau hefyd fod gofal yn cael ei arfer wrth wneud hynny.
“Yn ystod 2016 a 2017, byddwn yn cynnal cyfres o ymgyngoriadau i geisio barn ar amryfal fesurau a luniwyd er mwyn ategu a chefnogi darpariaethau'r Ddeddf, a hoffwn annog pawb i fynd ati i ddweud eu dweud."
Mae'r ymgynghoriad cychwynnol hwn, a fydd yn para tan 3 Hydref 2016, yn ymdrin â dau brif faes:
- Cyflwyno is-ddeddfwriaeth, gyda thri o'r cynigion yn canolbwyntio ar reoliadau gweithdrefnol a'r pedwerydd yn edrych ar gyflwyno Asesiadau o'r Effaith ar Dreftadaeth.
Paratowyd dogfen ganllawiau, Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru, i helpu perchenogion, meddianwyr ac asiantiaid i ddeall y broses asesu ac i baratoi datganiad o'r effaith ar dreftadaeth. Mae'r ddogfen ganllawiau honno'n rhan o'r ymgynghoriad hefyd.
- Cyflwyno canllawiau arferion gorau, sy'n ymdrin â'r pum maes isod:
- Rheoli Newidiadau i Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru
- Rheoli Newidiadau i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru
- Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru
- Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru
- Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi lansio ymgynghoriad gwahanol ond cysylltiedig sy'n ceisio barn am gyngor cynllunio newydd ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol ac sy'n cael ei gynnal ar yr un pryd â'r ymgynghoriad hwn.
Y ddau ymgynghoriad hyn yw cam cyntaf rhaglen a fydd, dros y ddwy flynedd nesaf, yn rhoi casgliad integredig o bolisïau, cyngor a chanllawiau i Gymru ar yr amgylchedd hanesyddol.
Ychwanegodd Mr Skates:
"Gan adeiladu ar y sylfaen ddeddfwriaethol a osodwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, bydd hyn yn sefydlu systemau cyfoes a chymesur ar gyfer rheoli newid mewn modd gofalus a chyson, er mwyn i'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol fedru parhau i fwynhau ac i werthfawrogi'n hamgylchedd hanesyddol gwerthfawr.”