Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar y coronafeirws (COVID-19)

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau digynsail yn y ystod pandemig coronafeirws (COVID-19).

Fel ganlyniad, mae adnoddau, cyllid a phobl, yn cael eu dargyfeirio oddi wrth lawer o'n gweithgareddau arferol i ddelio â'r phandemig.

Bydd hyn yn sicr o effeithio ar ein gallu i gydymffurfio â'r gofynion arferol ar gyfer gwaith hawliau gwybodaeth ac fel ganlyniad efallai y byddwch yn profi oedi wrth wneud ceisiadau am hawliau gwybodaeth yn ystod y pandemig. Diolchwn ichi am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod yma.

Am fwy o wybodaeth, gweler: FOI a'r coronafeirws: dull pwyllog ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyflwyniad

Mae’r canllaw ymarferol hwn yn esbonio sut gallwch wneud cais am weld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru a sut bydd eich cais yn cael ei drin.

Mae tair prif ddeddf yn llywodraethu ein dull ni o drin ceisiadau am wybodaeth:

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi hawliau penodol ichi mewn perthynas â’ch data personol, gan gynnwys yr hawl

  • i weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
  • i sicrhau ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar ddefnyddio’ch data personol
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i chi wneud cais am wybodaeth sy’n cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru. Wrth ddefnyddio’r gair gwybodaeth, rydym yn golygu unrhyw beth sy’n cael ei gadw fel dogfen bapur neu electronig, gan gynnwys negeseuon e-bost, llythyrau a recordiadau sain a fideo.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi’r hawl i chi ofyn am wybodaeth amgylcheddol sy’n cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru.

Cyn gwneud cais

Ydi’r wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi eisoes?

Rydym eisoes yn sicrhau bod llawer o wybodaeth ar gael yn gyhoeddus. Os ydych yn meddwl gwneud cais am wybodaeth, efallai y bydd posib i chi gael y wybodaeth yn gynt drwy chwilio ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os gwnaed cais am y wybodaeth eisoes, efallai ei bod wedi cael ei chyhoeddi ar ein Cofnod Datgeliadau.

Mae ein Cynllun Cyhoeddi’n ymrwymo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod rhai mathau o wybodaeth ar gael. Gellir gweld manylion am y math o wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi yn ein catalog cyhoeddiadau.

Cofiwch mai’r ffordd fwyaf effeithiol o chwilio’n gyffredinol yng ngwefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ein Cofnod Datgeliadau, yw drwy ddefnyddio’r chwilotwr seiliedig ar Google sydd wedi’i leoli yn y wefan, yn y top ar yr ochr dde. Fodd bynnag, os oes gennych fwy o ddiddordeb mewn maes penodol o’n gwaith, gallwch gael llawer o wybodaeth dim ond drwy edrych ar y tudalennau pwnc ar y wefan. Hefyd, gellir gweld nifer fawr o gyhoeddiadau, gwybodaeth am ymgynghoriadau, gwybodaeth ystadegol ac ymchwil yn yr adrannau canlynol ar ein gwefan neu yn yr Archifau Cenedlaethol.

Os ydych yn ansicr ynghylch a yw’r wybodaeth rydych eisiau ei gweld gennym ni, gallwch gysylltu â rhywun yn y maes polisi perthnasol i holi. Yn yr un modd, os ydych yn ansicr ynghylch pa wybodaeth yr ydych eisiau ei chael, bydd ffonio’r tîm polisi perthnasol yn gallu eich helpu i ddeall beth sy’n cael ei gadw a’ch helpu i ddewis pa wybodaeth fyddech yn hoffi ei chael. Dylai galwad ffôn i’n switsfwrdd (0845 0103300, sy’n bris cyfradd leol o bob man yn y DU) eich rhoi chi drwodd i’r maes polisi cywir.

Ai ni yw’r sefydliad priodol i wneud cais am wybodaeth iddo?

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y byddwch yn gofyn am wybodaeth nad yw gennym ni, neu wybodaeth rydym yn ei dal ar ran rhywun arall. Os nad yw’r wybodaeth rydych ei heisiau gennym, efallai y byddwn yn gallu rhoi manylion sefydliad arall a all eich helpu i chi.

Sut mae gwneud cais am wybodaeth

Dylid gwneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn ysgrifenedig (sy’n cynnwys e-bost). Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol yn ysgrifenedig neu ar lafar. Rhowch eich enw, cyfeiriad gohebu (caiff fod yn e-bost) ac, os yn bosib, rhif ffôn.

Does dim rhaid i chi grybwyll pa ddeddf sy’n berthnasol i’ch cais am wybodaeth. Byddwn yn casglu’r wybodaeth rydych yn gofyn amdani ac yn ei harchwilio i weld pa ddeddfau sy’n berthnasol ac wedyn yn eu rhoi ar waith. Gall hyn olygu y byddwn yn defnyddio mwy nag un ddeddf gyda’ch cais. Fodd bynnag, os ydych yn gwybod o dan ba ddeddf yr ydych yn gwneud cais, gall hyn fod o help i ni ddelio â’ch cais yn gynt.

Mae ffyrdd amrywiol o gysylltu â ni

Gallwch wneud cais trwy anfon e-bost i fwlch post Rhyddidgwybodaeth@llyw.cymru, ein ffonio ni ar 0845 0103300 neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:

Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth

Yr Uned Hawliau Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os ydych yn gwneud cais am eich data personol, gallwch anfon e-bost i’r bwlch post canlynol: YmholiadauDiogeluData@llyw.cymru neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:

Y Swyddog Diogelu Data

Yr Uned Hawliau Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os byddwch yn gwneud cais o dan y ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, bydd gofyn inni gael eich enw a’ch manylion cyswllt er cyflawni ein gorchwyl gyhoeddus a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol dan y Ddeddf drwy ddarparu ymateb ichi. Yr unig ddefnydd y byddwn yn ei wneud o’r wybodaeth bersonol hon fydd er mwyn delio â’ch cais ac unrhyw faterion sy’n deillio ohono.

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol ac unrhyw wybodaeth arall yn ymwneud â’ch cais, am dair blynedd o’r dyddiad y byddwn yn ymateb i’ch cais.

Sut mae geirio eich cais

Byddai’n ddefnyddiol pe baech yn gallu bod mor benodol â phosib wrth gyfeirio at gynnwys y wybodaeth rydych chi ei heisiau, drwy ganolbwyntio ar y pwnc neu’r maes penodol dan sylw.

Ydych chi’n gwybod beth yw enwau unrhyw unigolion neu adrannau a fyddai wedi ymwneud â chreu’r wybodaeth rydych yn gwneud cais amdani? Oes dyddiad neu gyfnod o amser penodol yn berthnasol?

Byddwch mor benodol â phosib – bydd hyn yn ein helpu ni i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn gwneud cais amdani, ac ymateb i’ch cais, yn gynt.

Gallwn wrthod delio â chais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth os byddwn yn amcangyfrif y bydd yn costio mwy na £600 i ganfod ac adfer y wybodaeth berthnasol a’i thynnu o’i lleoliad. Os gallwch fod mor benodol â phosib am y wybodaeth rydych ei heisiau, mae’n llai tebygol y bydd eich cais yn cael ei wrthod am gostio mwy na’r cyfyngiad. (gweler “A fydd Llywodraeth Cymru yn codi ffi am ddarparu’r wybodaeth”).

Enghreifftiau o geisiadau rydym yn annhebygol o allu darparu gwybodaeth ar eu cyfer:

  • Anfonwch yr holl wybodaeth sydd gennych am grantiau Llywodraeth Cymru ataf os gwelwch yn dda.
  • Anfonwch yr holl ohebiaeth y mae’r Gweinidog Iechyd wedi’i derbyn ataf.

Yn hytrach, gallech fod yn fwy penodol yn eich cais drwy wneud y canlynol:

  • Nodi’r mater sydd o ddiddordeb i chi (e.e. grant neu ohebiaeth benodol ar bwnc arbennig).
  • Cynnwys dyddiadau (e.e. Dim ond mewn gwybodaeth sydd wedi’i chreu cyn [ychwanegu dyddiad] mae fy niddordeb).
  • Manylu ar y mathau o wybodaeth sydd o ddiddordeb i chi (e.e. gwybodaeth mewn adroddiadau, llythyrau neu ohebiaeth e-bost yn ymwneud â’r mater).

Drwy gadw at y dull hwn, efallai y bydd posib aileirio’r ceisiadau yn yr adran enghreifftiol a’u gwneud yn fwy penodol, fel ein bod yn gallu rhoi’r wybodaeth rydych ei heisiau i chi.

Er enghraifft:

  • Faint o arian a neilltuwyd i [enw’r sefydliad] pan ddyfarnwyd grant tai cymdeithasol 2012?
  • Anfonwch yr holl lythyrau a’r negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan y Gweinidog Iechyd rhwng 01 Ionawr 2013 a 31 Mawrth 2013 am imiwneiddio plant ataf os gwelwch yn dda.

Er nad yw’n ofynnol i chi esbonio pam rydych eisiau’r wybodaeth, gall esboniad fod yn ddefnyddiol i ni er mwyn dod o hyd i’r wybodaeth, yn enwedig o dan amgylchiadau lle nad ydych yn siwˆr efallai beth ddylech ofyn amdano. Byddai’n ddefnyddiol hefyd pe baech yn gallu rhoi rhif ffôn cyswllt i ni, rhag ofn bod unrhyw agweddau cysylltiedig â’ch cais y byddai’n ddefnyddiol i ni eu trafod gyda chi (ond nid oes raid i chi roi rhif i ni, os nad ydych am i ni gysylltu â chi fel hyn).

4. Sut byddwn yn delio â’ch cais

Ar ôl i ni dderbyn eich cais, bydd yn cael ei neilltuo i unigolyn o is-adran berthnasol Llywodraeth Cymru i ymateb iddo.

Os yw’r person sy’n delio â’r cais yn ansicr ynghylch pa wybodaeth rydych ei heisiau, efallai y bydd yn cysylltu â chi i ofyn i chi esbonio eich cais.

Unwaith rydym yn gwybod pa wybodaeth rydych ei heisiau, bydd rhaid i ni wedyn benderfynu a yw’r wybodaeth gennym ai peidio. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn yn ysgrifenedig. Os ydym yn gwybod bod y wybodaeth yn cael ei chadw gan rywun arall, efallai y byddwn yn gallu eich cyfeirio at sefydliad arall a all helpu

A fydd Llywodraeth Cymru yn codi ffi am ddarparu’r wybodaeth?

Caiff Llywodraeth Cymru godi ffi am ddarparu gwybodaeth o dan rai amgylchiadau.

Ceisiadau sy’n cael sylw o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Nid ydym yn codi ffi am yr amser y mae unrhyw staff yn ei dreulio yn chwilio am y wybodaeth rydych wedi gofyn amdani. Er hynny, mae gennym hawl i godi ffi am gostau gwirioneddol sicrhau bod y wybodaeth ar gael i chi, o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, cost llungopïo gwybodaeth a’i hanfon atoch drwy’r post. Os byddwn yn penderfynu codi ffi, byddwn yn gofyn i chi am y ffi yn brydlon ac yn esbonio sut cafodd ei chyfrif gennym.

Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gwrthod cais o dan amgylchiadau lle rydym yn amcangyfrif bod y gost o gydymffurfio’n fwy na’r cyfyngiad sydd wedi’i bennu gan y gyfraith. Ar hyn o bryd, mae hwn yn £600, ar sail ei bod yn cymryd 24 awr o amser staff ar gyfradd safonol o £25 yr awr. Mae gan Lywodraeth Cymru hawl i ystyried yr amser rydym yn ei amcangyfrif y byddai’n ei gymryd i roi sylw i unrhyw rai o’r gweithgareddau canlynol wrth benderfynu a fydd cais yn costio mwy na’r cyfyngiad ai peidio:

  • penderfynu a yw’r wybodaeth gennym
  • cael hyd i’r wybodaeth neu ddogfen sy’n ei chynnwys
  • adfer y wybodaeth neu ddogfen sy’n ei chynnwys
  • tynnu’r wybodaeth o ddogfen sy’n ei chynnwys.

Os gallwch fod mor benodol â phosib am y wybodaeth rydych ei heisiau, gall hynny helpu i gadw eich cais o fewn y cyfyngiadau cost. Fel rheol, gellir ymateb i geisiadau am wybodaeth benodol yn gynt na cheisiadau eang am yr “holl wybodaeth” am bwnc, ac maent yn llai tebygol o gael eu gwrthod am gostio mwy na’r cyfyngiad. (Gweler “Sut mae geirio eich cais?”)

Ceisiadau sy’n cael sylw o dan y Ddeddf Diogelu Data

Nid oes angen talu wrth wneud cais am eich data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ond mae modd inni godi ‘ffi resymol’ os yw’r cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol, yn enwedig os yw’n ailadroddus. Gallwn hefyd godi ffi resymol am ymateb i geisiadau am ragor o gopïau o’r un wybodaeth.

Amserlenni

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, dylai Llywodraeth Cymru ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith fel rheol. Fodd bynnag, gellir ymestyn y dyddiad cau hwn yn gyfreithiol o dan rai amgylchiadau. Os yn bosib, byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn yn ysgrifenedig.

Os ydych chi’n gwneud cais am eich data personol eich hun o dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym 40 diwrnod calendr i ymateb o’r dyddiad pryd rydych chi wedi cyflwyno’r ffi o £10 a thystiolaeth ddogfennol ddigonol i gadarnhau pwy ydych chi.

Ceisiadau blinderus ac ailadroddus

Mae Llywodraeth Cymru yn gallu gwrthod ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth os ydynt yn flinderus neu’n ailadroddus. Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn diffinio cais blinderus fel un “sydd â photensial i achosi lefel anghymesur neu na ellir ei chyfiawnhau o darfu, cythruddo neu beri gofid.”

Ymhlith yr enghreifftiau o geisiadau sy’n perthyn i’r categori hwn mae cais sy’n defnyddio iaith sarhaus neu ymosodol neu un sy’n ceisio ailagor materion sydd eisoes wedi cael sylw. Mae hefyd yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae rhywun wedi gwneud ceisiadau aml neu geisiadau’n gorgyffwrdd cyn i Lywodraeth Cymru gael cyfle i roi sylw i unrhyw ymholiadau blaenorol sydd wedi’u gwneud.

Os ydych yn gwneud nifer o geisiadau, meddyliwch a ydych wedi gwneud yr un ceisiadau o’r blaen, neu geisiadau hynod debyg. Bydd ceisiadau sy’n cael eu hailadrodd heb i gyfnod rhesymol o amser fynd heibio ers iddynt gael eu cyflwyno y tro cyntaf yn cael eu gwrthod.

Nid oes unrhyw eithriad ar gyfer ceisiadau blinderus ac ailadroddus yn y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru wrthod ceisiadau sy’n “amlwg yn afresymol”. Yn ymarferol, gall fod yn berthnasol ystyried a yw cais yn un blinderus neu ailadroddus wrth asesu rhesymolrwydd cais am wybodaeth amgylcheddol.

Pam nad ydym bob amser yn darparu’r wybodaeth rydych wedi gwneud cais amdani?

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani i chi, os yw hynny’n bosib. Fodd bynnag, os nad yw hynny’n bosib, byddwn yn esbonio’r rhesymau dros hynny yn ein hymateb. Efallai na fyddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth i chi am y rhesymau canlynol:

  • Nid yw’r wybodaeth yn cael ei chadw gennym ni.
  • Byddai cydymffurfio’n costio mwy na’r cyfyngiad cost (gweler A fydd Llywodraeth Cymru yn codi ffi am ddarparu’r wybodaeth?).
  • Mae’r cais yn un blinderus neu ailadroddus (gweler Ceisiadau blinderus ac ailadroddus).
  • Mae esemptiadau/eithriadau’n berthnasol. Mae’r Ddeddf Diogelu Data 2018, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn cydnabod yn benodol bod rhesymau dilys dros gadw gwybodaeth yn ôl ar adegau. Ceir nifer o esemptiadau (neu eithriadau yn achos y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) sy’n berthnasol o bosib i’r wybodaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, byddai datgelu’n gwneud drwg i fuddiannau masnachol rhywun neu’r broses llunio polisïau. Mae rhai esemptiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn “absoliwt.” Mae hyn yn golygu na fydd y wybodaeth yn cael ei rhoi os yw’n perthyn i gategori penodol. Mae esemptiadau eraill yn “amodol”, sy’n golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru asesu a phwyso a mesur buddiannau’r cyhoedd o blaid ac yn erbyn datgelu. Os yw esemptiad amodol yn berthnasol, yr unig adeg y byddwn yn dal y wybodaeth yn ôl yw o dan amgylchiadau lle rydym yn fodlon bod y buddiannau cyhoeddus o blaid dal y wybodaeth yn ôl yn ddigonol, ac yn rhagori ar y buddiannau o blaid ei datgelu.

Ar ôl i ni ganfod yr holl wybodaeth y gwnaed cais amdani, byddwn yn ystyried y wybodaeth honno yn erbyn unrhyw esemptiadau perthnasol. Os nad oes unrhyw esemptiad yn 8 berthnasol, bydd y wybodaeth yn cael ei rhyddhau. Os oes unrhyw ran o’r wybodaeth yn dod o dan gwmpas un neu fwy o esemptiadau, efallai y byddwn yn penderfynu dal y wybodaeth honno yn ei hôl rhag ei datgelu. Os byddwn yn penderfynu gwneud hyn, byddwn yn esbonio’r rhesymau dros ei wneud yn ein hymateb.

Cofiwch y bydd yr ymatebion i’r ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn cael eu cyhoeddi ar ein Cofnod Datgeliadau cyhoeddus.

5. Yr hawl i adolygiad mewnol

Os yw Llywodraeth Cymru wedi trin eich cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, bydd yr ymateb yn dweud wrthych gyda phwy ddylech chi gysylltu i ofyn am adolygiad mewnol. Gallwch hefyd ofyn i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad mewnol os ydych yn anfodlon gyda’n hymateb i gais am fynediad at bwnc o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Sut mae gwneud cais am adolygiad mewnol

  • Mae’n rhaid i chi gyflwyno cais am adolygiad mewnol yn ysgrifenedig (mae neges e-bost yn ddigonol ar gyfer y pwrpas hwn).
  • Byddai o gymorth pe baech yn gallu rhoi manylion llawn am gefndir eich cwyn. Er enghraifft, y cais rydych yn cwyno yn ei gylch ac unrhyw resymau penodol ynghylch pam rydych yn anhapus gydag unrhyw ran o’n hymateb neu’r ffordd y cafodd eich cais sylw gennym.
  • Os nad ydych yn gallu gweithredu ar eich rhan eich hun, efallai y bydd cynrychiolydd yn gwneud cais am adolygiad ar eich rhan. Efallai y byddwn yn gofyn i’r person sy’n honni ei fod yn gweithredu ar eich rhan ddangos tystiolaeth ei fod wedi cael awdurdod i wneud hynny.
  • Dylech ofyn am adolygiad cyn gynted â phosib, ac o fewn 40 diwrnod gwaith i dderbyn ein hymateb i’ch cais gwreiddiol yn sicr. Efallai y byddwn yn gallu ystyried cais am adolygiad y tu allan i’r cyfyngiad amser hwnnw, o dan amgylchiadau arbennig iawn. Fodd bynnag, bydd rhaid i chi gyflwyno rhesymau cadarn dros pam nad ydych wedi gallu gwneud cais am adolygiad o fewn 40 diwrnod gwaith.
  • Dylai ein hymateb i’ch cais gwreiddiol am wybodaeth roi gwybod i chi gyda phwy ddylech chi gysylltu i ofyn am adolygiad. Os nad ydych yn siwˆr gyda phwy mae cysylltu, dylech ysgrifennu at y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth neu, yn achos cais am fynediad at bwnc, y Swyddog Diogelu Data.

Beth fyddwn yn ei wneud?

  • Os oes posib, bydd y cais am adolygiad yn cael sylw gan rywun uwch na’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol, yn y maes y cododd y gwˆyn ynddo.
  • Byddwn yn ceisio ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, efallai na fydd yn bosib i ni roi ymateb llawn i chi o fewn 20 diwrnod gwaith. Er enghraifft, os yw eich achos yn un cymhleth neu’n codi materion sydd angen ystyriaeth fanwl. Os bydd arnom angen rhagor o amser i gynnal adolygiad, byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi amcangyfrif o pryd gallwch ddisgwyl ymateb. Hyd yn oed o dan yr amgylchiadau eithriadol hynny, ni ddylai’r amser a gymerir i gwblhau adolygiad fod yn fwy na 40 diwrnod gwaith.
  • Ar ôl cwblhau’r adolygiad, bydd y person a gynhaliodd yr adolygiad yn anfon ymateb atoch chi yn dweud wrthych am y canlyniad ac am unrhyw gam gweithredu a gaiff ei roi ar waith i gywiro unrhyw faterion. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am sut mae mynd ar ôl y materion ymhellach gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth a/neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, fel sy’n briodol.

Yr hawl i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth

Mae gennych hawl i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth. Er hynny, fel rheol, dylech fynd ar ôl y mater drwy ein gweithdrefn adolygu fewnol cyn i chi gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745

Ffacs: 01625 524 510

Rhyddid gwybodaeth a data personol

Efallai y caiff data personol a ddelir gennym eu cyhoeddi fel rhan o gais Rhyddid Gwybodaeth, er nad ydym yn credu y byddai hyn yn digwydd yn aml iawn. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy'n cael ei chadw gan lawer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd heb ei chyhoeddi. Fodd bynnag, mae'r gyfraith hefyd yn caniatáu i ni gadw gwybodaeth yn ôl mewn rhai amgylchiadau. Os bydd unrhyw un yn gofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gennym, bydd yn rhaid inni benderfynu a ydym am ei rhyddhau ai peidio. Mae unrhyw ymrwymiadau yr ydym wedi'u rhoi ar ddiogelu data personol, gan gynnwys lle mae rhywun wedi gofyn am beidio â chyhoeddi ei enw a'i gyfeiriad fel rhan o ymateb i'r ymgynghoriad, yn wybodaeth bwysig y byddem yn ei hystyried. Fodd bynnag, gallai fod rhesymau pwysig weithiau dros orfod datgelu data personol rhywun, hyd yn oed os ydynt wedi gofyn am beidio â'i gyhoeddi. Byddem yn cysylltu â'r unigolyn ac yn gofyn am ei farn cyn i ni wneud penderfyniad terfynol i ddatgelu'r wybodaeth.