Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae angen trwydded oddi wrth yr Awdurdod Glo o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 (“CIA”) i gynnal unrhyw weithrediadau sy’n gysylltiedig â chloddio am lo. Dywed Adran 26A o’r CIA na chaniateir cynnal gweithgareddau cloddio am lo yng Nghymru sydd wedi cael eu hawdurdodi trwy drwydded gan yr Awdurdod Glo heb i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r drwydded honno. Cyfrifoldeb gweithredwr y lofa yw sicrhau bod unrhyw drwydded a roddir iddo gan yr Awdurdod Glo yn cael ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn cychwyn ar y gweithrediadau cloddio am lo.

Bwriad y canllaw hwn yw helpu gweithredwyr glofeydd i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi cais am gymeradwyaeth i drwydded (y gall yr Awdurdod Glo ofyn amdani wrth benderfynu ar drwydded, neu’n uniongyrchol gan weithredwr y lofa yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru).

Cydnabyddir bod pob glofa, gweithrediad a chais am drwydded yn wahanol, a bod angen hyblygrwydd er mwyn sicrhau bod gweithredwr y lofa’n cael cyfle priodol i gyflwyno’i achos i Weinidogion Cymru dros gymeradwyo trwydded. Felly, nid yw’r canllaw drafft yn rhagnodi’n benodol pa dystiolaeth sydd ei hangen, a rhoddir rhyddid i’r gweithredwr benderfynu drosto’i hun sut orau i gefnogi cais i gymeradwyo trwydded. Mae’r canllaw hwn er hynny yn rhoi trosolwg o’r fframwaith ar gyfer penderfyniadau i gymeradwyo trwyddedau a’r math o dystiolaeth a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniad prydlon ynglŷn â’r cais.

Mae’n bwysig cofio na fydd pob un o’r adrannau isod yn berthnasol i bob cais i gymeradwyo trwydded, ac y cewch gyflwyno gwybodaeth na ddisgrifir mohoni isod.

Trafodaethau â Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno cais i gymeradwyo trwydded

Cynghorir gweithredwyr glofeydd i gysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod proses gymeradwyo’r drwydded a’r dystiolaeth sydd ei hangen cyn gynted ag y byddant wedi gwneud cais am drwydded i’r Awdurdod Glo. Bydd y swyddogion yn:

  • Trafod proses gymeradwyo’r drwydded; yn enwedig, pryd a sut y gellir gwneud cais i gymeradwyo trwydded;
  • Trafod cynnwys y canllaw hwn;
  • Tynnu sylw gweithredwr y lofa at y polisïau a’r ddeddfwriaeth berthnasol. 

Mae’n bwysig nodi na chaiff Llywodraeth Cymru roi cyngor ynghylch trwyddedau ar raddfa ehangach, gan mai cyfrifoldeb yr Awdurdod Glo yw hynny.

Rhan 1: Y fframwaith penderfynu

Rôl yr Awdurdod Glo

Yr Awdurdod Glo yw’r awdurdod trwyddedu o hyd ar gyfer yr holl weithrediadau cloddio am lo sy’n digwydd yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys rhoi trwyddedau newydd a newid trwyddedau. Mae angen trwydded oddi wrth yr Awdurdod Glo o dan y CIA i gynnal unrhyw waith cloddio am lo. Bydd angen y canlynol ar gyfer cloddio am lo dan ddaear neu ar yr wyneb unrhyw le yng Nghymru:

  • Caniatâd oddi wrth yr Awdurdod Glo i gloddio am lo, naill ai Trwydded Cloddio Dan Ddaear neu Drwydded Cloddio ar yr Wyneb at y diben hwn;
  • Pwy sydd â budd yn y glo, sef yr Awdurdod Glo bron bob tro, a bydd yn rhoi Prydles ynghyd â’r Drwydded at y diben hwn;
  • Hawliau mynediad gan berchennog y tir ar yr wyneb;
  • Unrhyw ganiatâd neu gydsyniad arall e.e. caniatâd cynllunio a chydsyniadau amgylcheddol;
  • Cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Yr Awdurdod Glo sy’n dal i benderfynu ar geisiadau am drwyddedau yng Nghymru yn unol â’i ddyletswyddau statudol yn y CIA. Mae hynny’n cynnwys sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, y cynhelir ac y datblygir diwydiant cloddio am lo sy’n economaidd hyfyw; bod trwyddedeion yn gallu ariannu’r gweithrediadau ac ysgwyddo unrhyw rwymedigaethau a fydd yn deillio ohonynt; a bod digon o yswiriant i sicrhau na fydd y rhai sy’n dioddef difrod oherwydd ymsuddiant yn wynebu colled. Bydd yr Awdurdod Glo hefyd yn ystyried i ba raddau mae’r ymgeisydd wedi cael yr hawliau mynediad tanddaearol a phob caniatâd a chydsyniad angenrheidiol arall.

Rôl Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru

Nid yw adran 26A yn rhoi pwerau llawn i Weinidogion Cymru ar gyfer trwyddedu glo: erys y rhain gyda’r Awdurdod Glo. Yn hytrach, mae’n gofyn i Weinidogion Cymru naill ai gymeradwyo neu wrthod cymeradwyo trwydded a roddwyd gan yr Awdurdod Glo. Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod cymeradwyo trwydded, ni fydd gan weithredwr y lofa yr hawl i gloddio am lo.

Wrth ystyried pa un ai i gymeradwyo trwydded ai peidio, ni fydd Gweinidogion Cymru yn dyblygu dyletswyddau trwyddedu statudol presennol yr Awdurdod Glo; ni fyddant yn penderfynu am yr eildro ar y drwydded ei hun; ac ni fyddant yn cyflwyno amodau ychwanegol i’r drwydded. Fodd bynnag, yn unol â’r polisïau perthnasol, gwaith Gweinidogion Cymru fydd penderfynu a ydynt am weld cynnal y gweithgareddau trwyddedig ar dir yng Nghymru.

Gweithrediadau sy’n dod o dan Adran 26A

Mae angen cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer y canlynol:

  • trwyddedau newydd a roddir gan yr Awdurdod Glo i awdurdodi gweithrediadau cloddio am lo yng Nghymru;
  • trwyddedau sy’n newid yr amser pan ganiateir gweithrediadau cloddio am lo yng Nghymru neu sy’n newid ffiniau’r drwydded yng Nghymru;
  • newidiadau eraill posibl i’r drwydded sy’n effeithio ar weithrediadau cloddio am lo yng Nghymru.

Cynghorir gweithredwyr glofeydd i gysylltu â Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y cânt gyfle, er mwyn trafod a oes angen cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

Ystyriaethau o ran polisi Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw gais i gymeradwyo trwydded yr Awdurdod Glo yn unol ag amcanion polisi a gofynion deddfwriaethol perthnasol Cymru. Bydd gofyn i weithredwyr glofeydd gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth briodol i Lywodraeth Cymru, fel y trafodir yn yr adrannau canlynol – sef gwybodaeth a thystiolaeth a fydd yn dangos sut mae’r gwaith cloddio am lo yn cydymffurfio â pholisïau a deddfwriaeth berthnasol Cymru. Mae’r adran hon yn nodi’r polisïau mwyaf perthnasol, a chynghorir y rhai sydd â thrwydded i ddarllen y polisïau’n llawn cyn cyflwyno unrhyw dystiolaeth.

Polisi Glo

Polisi Llywodraeth Cymru yw atal rhagor o gloddio am lo ac atal defnydd pellach o lo. Fodd bynnag, mae ein polisi glo yn adlewyrchu’r ffaith fod gan Gymru lofeydd gweithredol y mae angen eu rheoli a’u cau’n ddiogel. Felly, ein polisi yw, oni ellir dangos bod angen cloddio am lo er mwyn cyrraedd targedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu i reoli a chau safle’n ddiogel, polisi Llywodraeth Cymru yw na ddylid caniatáu cloddio am lo. Caiff pob cynnig ei ystyried yn ôl ei rinweddau, ond i fod yn llwyddiannus rhaid iddo ddangos yn glir:

  • Pam mae’n ofynnol cloddio am y glo at ddiben diwydiannol nad yw’n gysylltiedig â chynhyrchu ynni, neu er mwyn cyrraedd targedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
  • Pam mae cloddio am y glo yn angenrheidiol i sicrhau bod gweithrediadau cloddio neu weithrediadau adfer safleoedd yn cael eu dirwyn i ben yn ddiogel;
  • Sut mae’r gwaith cloddio am lo yn cyfrannu at ffyniant Cymru a’n rôl fel Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

Caiff penderfyniadau eu gwneud yn ôl amgylchiadau penodol pob achos ar sail ei effaith ar yr hinsawdd a diogelwch, ond bydd rhagdybiaeth yn erbyn cloddio am lo.

Polisi Cynllunio Cymru

Mae’r polisi cynllunio sy’n ymwneud â glo ym Mholisi Cynllunio Cymru, lle nodir polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru, yn berthnasol hefyd yn fras i benderfyniadau cymeradwyo trwyddedau.

Targedau Newid Hinsawdd Cymru

Yng Nghymru, mae’r targedau heriol i gyfyngu ar allyriadau carbon wedi’u hymgorffori yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r ddeddfwriaeth a wnaed drwyddi. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau gostyngiad o 100% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Mae cyllidebau carbon Cymru yn gofyn am ostyngiad o 63% erbyn 2030 ac 89% o ostyngiad erbyn 2040.

Cynllun Cyflawni Carbon Isel 2 (LCDP2)

Bydd ail gynllun datgarboneiddio statudol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2021. Bydd yn disgrifio’r polisïau a’r camau y bwriadwn eu cymryd i gyflawni ail Gyllideb Garbon Cymru (2021-25) a bydd yn cynnig polisïau a chamau gweithredu ar gyfer y tymor hwy.

Bydd LCDP2 yn disgrifio:

  • uchafswm yr allyriadau y cawn eu gollwng yn ystod y Gyllideb Garbon;
  • y camau gweithredu (polisïau) y disgwyliwn iddynt ein galluogi i gadw o fewn y gyllideb hon;
  • camau gweithredu a gynigir yn y dyfodol a fydd yn ein galluogi i barhau i ddatgarboneiddio yn y tymor hwy; 
  • camau gweithredu ehangach a gymerwyd ac addewidion a wnaed gan ein partneriaid yng Nghymru, a fydd yn cyfrannu at gyrraedd targedau hinsawdd Cymru.

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu ar gyfer gwella’r broses gwneud penderfyniadau drwy ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio mewn ffordd gydweithredol ac integredig ag eraill, a helpu i atal problemau parhaus, megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd, rhag digwydd neu waethygu.

Yn benodol, mae’r Ddeddf yn gofyn i gyrff cyhoeddus gefnogi datblygu cynaliadwy h.y. y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae datblygu cynaliadwy yn golygu bod gofyn i gyrff cyhoeddus weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Rhaid i’r holl gyrff cyhoeddus a enwir yn y Ddeddf (gan gynnwys Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru) bennu a chyhoeddi amcanion llesiant, ac yna cymryd pob cam rhesymol wrth arfer eu swyddogaethau i gyflawni’r amcanion llesiant hynny. Mae cymeradwyo trwyddedau’r Awdurdod Glo yn swyddogaeth a ddaw o dan y Ddeddf, felly, bydd Llywodraeth Cymru yn asesu unrhyw gais i gymeradwyo trwyddedau yn unol â’r amcanion llesiant.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu (Mehefin 2021) yn nodi’r 10 amcan llesiant y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i gynyddu ei chyfraniad at nodau llesiant hirdymor Cymru a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni. Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026: Datganiad Llesiant yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru wedi pennu ei hamcanion llesiant yn unol â’n dyletswydd statudol o dan y Ddeddf. Cyn ystyried pa dystiolaeth i’w chyflwyno er mwyn cefnogi cais i gymeradwyo trwydded, cynghorir y rhai sydd â thrwydded i ymgyfarwyddo â’r amcanion llesiant presennol.

Rhan 2: Cyflwyno tystiolaeth

Mae’r adran a ganlyn yn awgrymu sut fath o dystiolaeth y gallech ei chyflwyno i gefnogi cais am gymeradwyaeth i drwydded. Bydd tystiolaeth benodol, gryno a strwythuredig yn hwyluso’r broses o roi ystyriaeth effeithiol ac amserol i’r cais i gymeradwyo’r drwydded.

Crynodeb annhechnegol o’r cynnig

Gofynnir i weithredwyr glofeydd baratoi crynodeb byr annhechnegol (2-3 tudalen) yn sôn am y gweithgareddau cloddio a gynigir, gan gynnwys manylion ynglŷn â faint o lo a godir; y prosesau cloddio, yr amserlen a’r cerrig milltir; a sut y bydd parhau i gloddio yn helpu’r gweithredwr i gydymffurfio â’r ymrwymiadau i adfer y safle. Dylai gweithredwyr glofeydd hefyd ddangos eu bod yn deall pa un a fydd cymeradwyo’r drwydded yn ychwanegu at yr amser cloddio, neu’n cynyddu cwmpas neu ddyfnder gofodol y drwydded.

Hanes Cynllunio

Bydd caniatâd cynllunio yn ystyriaeth berthnasol a all gefnogi eich cais i gymeradwyo trwydded. Wrth ofyn am gymeradwyaeth i drwydded, cynghorir gweithredwr y lofa i gyflwyno cofnod o’r hanes cynllunio, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ategol a allai fod yn berthnasol i’w gais am gymeradwyaeth (e.e. unrhyw adroddiadau sy’n dangos effaith y cloddio ar newid hinsawdd, creu a chadw swyddi, effeithiau amgylcheddol, cynlluniau adfer, Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd ac ati).

Yr wybodaeth sydd ei hangen:

  • Llinell amser ar gyfer pob caniatâd cynllunio perthnasol sydd wedi’i roi a phob newid i ganiatâd, gan gynnwys y cyfeirnod cynllunio; dyddiad y penderfyniad; dyddiad gweithredu’r caniatâd cynllunio; ac os yw’n ganiatâd dros dro, pryd y daw i ben;
  • Ar gyfer pob caniatâd cynllunio yn y llinell amser, esboniad byr ohono (paragraff neu ddau). Gallwch godi’r disgrifiad o gofrestr gyhoeddus ar-lein yr awdurdod cynllunio);
  • Unrhyw geisiadau am ganiatâd cynllunio sy’n aros am benderfyniad ac sy’n berthnasol i’r penderfyniad i gymeradwyo trwydded;
  • Crynodeb byr o unrhyw gytundeb Adran 106 o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy’n ymwneud ag adfer safle neu ôl-ofal safle (pan fo’n berthnasol, bydd angen cyfeirnodau dogfennau), gan gynnwys disgrifiad bras o unrhyw arian a roddwyd i’r awdurdod cynllunio lleol i warantu ei adfer.

Bydd crynodeb clir o’r hanes cynllunio yn galluogi Llywodraeth Cymru i ystyried i ba raddau mae’r drefn gynllunio eisoes wedi ystyried polisïau perthnasol ac amcanion llesiant.

Hanes Trwyddedau Amgylcheddol

Bydd trwyddedau amgylcheddol a roddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (neu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gynt), neu gan Awdurdod Lleol, yn ystyriaeth berthnasol a all gefnogi cais i gymeradwyo trwydded. Wrth ofyn am gymeradwyaeth, cynghorir gweithredwyr glofeydd i gyflwyno cofnod o hanes eu trwyddedau amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ategol a allai fod yn berthnasol i’w cais am gymeradwyaeth (e.e. adroddiadau asesu’r effaith amgylcheddol).

Yr wybodaeth sydd ei hangen:

  • Llinell amser o bob trwydded amgylcheddol berthnasol sydd wedi’i rhoi a phob newid i drwydded, gan gynnwys cyfeirnod y drwydded, dyddiad y penderfyniad, dyddiad cychwyn y gweithgaredd sy’n cael cydsyniad; ac os yw’n drwydded dros dro, pryd y daw i ben;
  • Ar gyfer pob trwydded amgylcheddol yn y llinell amser, esboniad byr o’r gweithgaredd a ganiateir (paragraff neu ddau). Gallwch godi’r esboniad o’r cyflwyniad yn y drwydded amgylcheddol neu o’r ddogfen benderfynu ar gyfer y drwydded);
  • Unrhyw gais am drwydded amgylcheddol sy’n aros am benderfyniad ac sy’n berthnasol i’r penderfyniad i gymeradwyo trwydded.

Bydd crynodeb clir o hanes y trwyddedau amgylcheddol yn galluogi Llywodraeth Cymru i ystyried i ba raddau mae’r drefn trwyddedu amgylcheddol eisoes wedi ystyried polisïau perthnasol ac amcanion llesiant.

Y Farchnad ar gyfer Glo

Trwy gael crynodeb o’r marchnadoedd arfaethedig ar gyfer y cynhyrchion glo a gynhyrchir o dan y drwydded, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried yr effaith ar y diwydiannau sy’n dibynnu ar y glo a gloddir, a bydd modd iddi amcangyfrif yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n debygol o ddeillio o ddefnyddio’r glo. Felly, gofynnir i weithredwyr glofeydd gyflwyno crynodeb o’r lleoedd yr anfonir y glo iddynt.

Yr wybodaeth sydd ei hangen:

  • Uchafswm y glo y mae’r caniatâd cynllunio yn caniatáu ei gloddio bob mis/blwyddyn;
  • Faint o lo a gloddiwyd yn y pum mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys y rhaniadau cymharol rhwng marchnadoedd. Er enghraifft, y ganran bob blwyddyn a ddefnyddiwyd ar gyfer ynni, gwaith dur, cyfryngau hidlo, gwaith sment, rheilffyrdd treftadaeth, domestig ac ati.

Gweithlu

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith a gaiff cymeradwyo’r drwydded ar greu swyddi a chadw swyddi. Felly, gofynnir i weithredwyr glofeydd gyflwyno crynodeb o weithlu presennol y lofa. Yn arbennig:

  • Faint o bobl a gaiff eu cyflogi yn y lofa, gan gynnwys contractwyr sy’n rhan annatod o waith y lofa, ac unrhyw brentisiaid a darpar brentisiaid;
  • Yr effaith a gaiff cymeradwyo’r drwydded ar greu swydd a chadw swyddi, gan gynnwys tystiolaeth i ddangos sut mae’r lofa’n darparu swyddi lleol.

Cynlluniau o safleoedd

Bydd angen dangos ffiniau trwydded y safle, gan gynnwys unrhyw estyniadau arfaethedig a gaiff eu cyflwyno pe bai’r drwydded yn cael ei chymeradwyo.

Yr effaith ar allyriadau newid hinsawdd

Cynghorir gweithredwyr glofeydd i gyflwyno tystiolaeth sy’n dangos sut y byddai cymeradwyo’r drwydded yn debygol o effeithio ar y newid yn yr hinsawdd.

Er y cydnabyddir nad defnyddio’r glo a gloddir i gynhyrchu ynni yw’r bwriad, mae’r rhan fwyaf o brosesau cynhyrchu yn cynhyrchu rhywfaint o sgil-gynhyrchion glo nad ydynt yn addas at ddibenion diwydiannol. Mae’n arfer cyffredin prosesu sgil-gynhyrchion o’r fath ar gyfer marchnadoedd gwresogi. Felly, ar gyfer glo ynni ac unrhyw sgil-gynhyrchion a gynhyrchir ac a ddefnyddir ar gyfer gwresogi, bydd angen dangos bod angen cloddio’r glo yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Bydd Llywodraeth Cymru am weld tystiolaeth sy’n dangos y bydd glo a gynhyrchir yn y wlad hon yn arwain at ostyngiad net mewn allyriadau CO2 o’i gymharu â glo a fewnforir.

Enghreifftiau o dystiolaeth berthnasol:

  • Os nad ynni yw’r brif farchnad, faint o sgil-gynhyrchion glo a fydd yn debygol o gael eu gwerthu i farchnadoedd gwresogi neu i farchnadoedd ynni eraill;
  • Canran y glo a gloddir a fydd yn debygol o gael ei allforio;
  • Tystiolaeth o’r mesurau ar y safle i leihau dwysedd carbon y prosesau cloddio;
  • Tystiolaeth o symud at ynni adnewyddadwy neu ddefnydd tir cynaliadwy;
  • Tystiolaeth glir nad yw’r glo yn cael ei werthu i farchnadoedd ynni neu i farchnadoedd gwresogi (e.e. contractau cyflenwi â defnyddwyr terfynol);
  • Tystiolaeth na fydd yr hyn a gynhyrchir yn y wlad hon yn arwain at gynyddu galw’r byd am lo.

Diogelwch y safle, adfer y safle a gwarchod yr amgylchedd

Cydnabyddir y gallai fod yn ddymunol cloddio am lo a symud glo i sicrhau diogelwch hirdymor y safle, neu i hwyluso’r gwaith adfer neu i warchod yr amgylchedd. Er enghraifft, gall symud y glo wella draeniad y safle neu sefydlogi arwynebau moel. Felly, cynghorir gweithredwyr glofeydd i ystyried a oes angen codi’r glo er mwyn sicrhau y gellir rheoli’r safle’n ddiogel, er mwyn adfer y safle, neu er mwyn gwarchod yr amgylchedd. Gallai tystiolaeth o hyn fod ar ffurf:

  • Asesiadau annibynnol o’r safle sy’n nodi bod angen symud y glo (yn arbennig, pan fo’r adroddiadau hynny wedi cefnogi ceisiadau cynllunio);
  • Y cynnydd o ran y rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt yn y caniatâd cynllunio neu gyda’r Awdurdod Glo; effaith peidio â chwblhau’r rhaglen waith; ac unrhyw opsiynau eraill o ran cael gwared ar y glo;
  • Pa un a yw’r gwaith codi glo yn eich helpu i gydymffurfio ag unrhyw Gytundeb Adran 106 (Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) ar gyfer adfer y safle.

Tystiolaeth dderbyniol

Nid yw’r canllaw hwn yn nodi sut fath o dystiolaeth yn union mae’n rhaid ei chyflwyno, a hynny oherwydd natur amrywiol glofeydd a gwaith cloddio; sefyllfa’r lofa o ran ei chylch bywyd; natur amrywiol ceisiadau am drwydded; a pha ddatblygiadau pellach a gaiff eu cynnig. Bydd modd i’r gweithredwr gyflwyno tystiolaeth werthfawr a all gyfrannu at ein dealltwriaeth o hanes y safle, yn ogystal â’i statws presennol a’r cynnydd arfaethedig. Ond, os ceir tystiolaeth annibynnol sy’n ategu barn y gweithredwr, yna dylid cyflwyno honno hefyd.

Er enghraifft:

  • Adroddiadau, asesiadau neu geisiadau gan drydydd parti annibynnol a ystyriwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • Unrhyw asesiadau annibynnol newydd a gomisiynwyd i gefnogi’r cais am gymeradwyaeth i’r drwydded;
  • Pan fo’n berthnasol, papurau technegol a gyhoeddwyd ac y cyfeiriwyd atynt.

Mae’n iawn cyflwyno crynodeb yn lle’r ddogfen lawn; ond wrth wneud hyn, dylai’r gweithredwr nodi ble y gellir gweld y ddogfen neu’r adroddiad llawn.

Cyhoeddi tystiolaeth

Cyhoeddir pob penderfyniad i gymeradwyo trwydded ar wefan Llywodraeth Cymru. Er hynny, nid yw’n arfer cyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir gan yr ymgeisydd. Atgoffir gweithredwyr glofeydd y gallai gwybodaeth a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ddod o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, ac ar ôl derbyn cais, efallai y bydd yr wybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r cyhoedd. Cynghorir ymgeiswyr, felly, i ystyried y canlyniad posibl hwn, a thrafod y mater gyda Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno dogfennau.

Hefyd, mae’n debygol y bydd rhywfaint o’r wybodaeth a gyflwynir yn gyfrinachol. Pa bryd bynnag y bo modd, gofynnir i’r trwyddedeion ddileu neu olygu gwybodaeth o’r fath cyn cyflwyno dogfennau i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn ymarferol neu’n briodol, rydym yn eu cynghori i drafod materion cyfrinachedd gyda Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno unrhyw ddogfennau.

Rhan 3: Disgrifiad o broses gymeradwyo Adran 26A

Isod, ceir trosolwg o’r broses ar gyfer cymeradwyo trwyddedau. Ym mhob achos, cynghorir yr ymgeisydd i gysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod y broses gymeradwyo cyn gynted ag y bydd wedi cyflwyno cais i’r Awdurdod Glo:

  • Pan fydd cais newydd am drwydded lo yng Nghymru yn dod i law’r Awdurdod Glo, boed yn drwydded newydd neu’n newid i drwydded, bydd yr Awdurdod Glo yn rhoi gwybod yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru.
  • Bydd yr Awdurdod Glo hefyd yn cynghori’r gweithredwr i drafod ei gais am drwydded gyda Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y gall. Bydd hyn yn gyfle i drafod sut a phryd y gall gweithredwr y lofa gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei gais i gymeradwyo’r drwydded.
  • Bydd yr Awdurdod Glo wedyn yn asesu’r cais, yn unol â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.
  • Ar ôl dod i benderfyniad, bydd yr Awdurdod Glo yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn rhoi gwybod yn ffurfiol iddi am ei benderfyniad.
  • Pan fo adran 26A yn gymwys, ar ôl i’r Awdurdod Glo roi’r drwydded, bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r Awdurdod Glo a’r ymgeisydd yn ysgrifenedig ynglŷn â’u penderfyniad o dan A26.
  • Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drwydded, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Awdurdod Glo a’r trwyddedai i roi penderfyniad Gweinidogion Cymru ar waith.