Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad ar ganllawiau ychwanegol ar gyfer Cwricwlwm newydd Cymru.
Mae'r ymgynghoriad wyth wythnos yn cynnwys canllawiau drafft pellach a chod ar gyfer addysgu Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Datblygwyd y Cod drafft newydd a'r canllawiau statudol ar gyfer Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (APRh) gyda phartneriaid gan gynnwys athrawon, arbenigwyr, undebau a sefydliadau ffydd. Mae'r Cod drafft yn nodi'r elfennau gorfodol i'w haddysgu a'i nod yw sicrhau tryloywder a chysondeb o ran sut caiff APRh ei addysgu mewn ysgolion.
Bydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn ofyniad statudol hefyd i bob dysgwr yn y cwricwlwm newydd. Cynlluniwyd y canllawiau drafft gan ymarferwyr addysg ac arbenigwyr addysg grefyddol, i gynorthwyo athrawon i ddatblygu cynnwys CGM ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.
Ceir ymgynghoriad hefyd ar y Cod ‘Yr Hyn Sy'n Bwysig’ diwygiedig, sy'n nodi'r 27 datganiad ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad y mae'n rhaid i ysgolion seilio eu cwricwlwm arnynt.
Daeth Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gyfraith ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol fis diwethaf.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg:
Mae Covid wedi dangos, yn fwy nag erioed, pam mae arnom angen cwricwlwm newydd - gan roi lles wrth galon yr hyn rydym ei eisiau ar gyfer ein dysgwyr a'u galluogi i addasu ac ymateb i fyd sy'n newid yn barhaus.
Diolch i bawb sydd wedi helpu ni i ddatblygu'r canllawiau drafft.
Rydym yn croesawu adborth gan athrawon, rhieni, dysgwyr a phawb sy'n angerddol am addysg yng Nghymru. Bydd mireinio'r darnau allweddol hyn o ganllawiau yn allweddol i'r ffordd y caiff gwersi eu cyflwyno yn y dyfodol.