Mae gofalwr ifanc wedi canmol effaith "amhrisiadwy" Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru wrth i'r digwyddiad blynyddol baratoi at gynnal yr ŵyl am y trydydd tro a chroesawu mwy o ofalwyr nag erioed.
Mae Thomas Ashwell-Lewis wedi bod yn ofalwr ifanc ers 11 mlynedd, gan helpu ei fam i ofalu am ei chwaer sydd â pharlys yr ymennydd.
Dywedodd Thomas, sy'n 17 oed ac yn byw yn Sir Fynwy, ei fod wedi mwynhau'r ddwy ŵyl flaenorol a'i fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd eleni ac yntau'n weithiwr ieuenctid dan hyfforddiant.
Ychwanegodd:
Diolch i'r ŵyl, dw i wedi gwneud ffrindiau da gyda gofalwyr ifanc eraill.
Mae'r pethau sydd ymlaen yno hefyd wedi fy helpu i fagu hyder a datblygu sgiliau arwain, sydd wedi bod o gymorth yn fy rôl newydd.
Dim ots a ydych chi eisiau ymlacio neu fod yn brysur bob dydd, mae'r ŵyl yn llawn hwyl ac yn seibiant o'ch cyfrifoldebau, ac yn rhoi egni newydd ichi. Mae'n amhrisiadwy i'n hiechyd meddwl a'n lles ni.
Dw i'n edrych ymlaen at fynd yn ôl eleni a mwynhau'r ŵyl o safbwynt gwahanol.
Eleni, bydd Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru yn croesawu 350 o ofalwyr ifanc rhwng 11 a 18 oed o bob rhan o Gymru.
Ymysg y gweithgareddau amrywiol a fydd yn cael eu cynnig yno y mae celf graffiti, cynhyrchu cerddoriaeth, cestyll bownsio ac ati, sinema, a disgo distaw. Mae'r digwyddiad yn dechrau heddiw (dydd Mawrth 20 Awst 2024) ac yn cael ei gynnal tan ddydd Iau.
Melanie Rees, o'r elusen Credu, yw cydlynydd Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru. Dywedodd:
Mae'r digwyddiad blynyddol yma'n gyfle unigryw i ofalwyr ifanc gael seibiant mawr ei angen o ofalu ac i gael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu am eu holl waith caled.
Mae popeth, o drefniadau gwersylla i weithgareddau, adloniant, a bwyd a diod, yn cael ei ddarparu, gan sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gallu mwynhau eu hunain yn llwyr heb boeni am arian.
Ry'n ni'n falch o'r hyn y mae'r ŵyl wedi'i gyflawni hyd yma ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant yma am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Mae gofalwyr ifanc yn gwneud gymaint i ofalu am eu teuluoedd neu ffrindiau, boed hynny'n gymorth corfforol neu emosiynol. Mae'r cyfle i gael seibiant o'u rôl ofalu yn hollbwysig.
Dw i'n falch iawn y bydd yr Ŵyl Gofalwyr Ifanc eleni yn croesawu mwy o ofalwyr ifanc nag erioed o'r blaen. Dw i'n gobeithio y bydd pawb wrth eu bodd yno eto.