Neidio i'r prif gynnwy

Mae COVID-19 yn parhau i gael effaith ar ein bywydau bob dydd ac mae ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron, unwaith eto, yn ein hatgoffa nad yw’r pandemig ar ben eto. Hoffwn i bobl wybod fod cymorth ar gael iddynt 24/7.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein hiechyd, am bron i ddwy flynedd, wedi bod yn flaenllaw yn ein meddyliau, yn nhermau corfforol a meddyliol.

Mae’r pandemig wedi effeithio ar lawer ohonom dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan gynnwys ein llesiant emosiynol a meddyliol. Gall y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd fod yn gyfnod anodd i rai a hoffwn amlygu’r ystod o gymorth hawdd i’w gael sy’n cael ei gynnig i bobl cyn cyfnod y Nadolig.

Os oes angen unrhyw help arnoch ar gyfer unrhyw beth a all fod yn achosi ichi orbryderu, gallwch gysylltu â’n llinell gymorth iechyd meddwl CALL, sydd ar agor 24/7. Ffoniwch 0800 132 737 neu anfonwch neges destun gyda’r gair ‘help’ i 81066. Yn ogystal â hyn, gall pobl fynd i wefan SilverCloud, lle y gallant gael mynediad at Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ystod o gymorth sydd ar gael ar wefan 111 GIG Cymru.

Rydym yn parhau i weithio gydag elusennau iechyd meddwl sydd i gyd yn chwarae rhan mor bwysig wrth ddarparu cymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Samariaid Cymru yw un o’r partneriaid hynny sy’n darparu cymorth y gallai fod ei angen ar bobl. Mae’r Samariaid yn darparu cymorth emosiynol cyfrinachol i bobl sy’n teimlo’n ofidus ac yn ddiobaith, gan gynnwys teimladau a allai arwain at hunanladdiad. Gallwch gysylltu â’r Samariaid dros y ffôn drwy ffonio 116123 yn rhad ac am ddim neu drwy e-bostio jo@samaritans.org.

Yn ogystal â hyn, gall cyn-filwyr ddefnyddio gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Gall cyn-filwyr a’u teuluoedd atgyfeirio eu hunain yn uniongyrchol drwy wefan GIG Cymru i Gyn-filwyr: Hafan - Cyn-filwyr Cymru neu gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu neu sefydliad yn y trydydd sector.

Mae Papyrus Prevention of Young Suicide yn rhedeg HOPELINEUK (0800 068 4141  bob dydd 9 tan hanner nos) i unrhyw un o dan 35 oed sy’n cael teimladau hunanladdol neu unrhyw un sy’n pryderu amdanynt.

Mae eleni wedi bod yn her wirioneddol i bob un ohonom ac mae wedi effeithio’n benodol ar ein plant a’n pobl ifanc. Mae ein Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yno i helpu. Mae ar gael drwy blatfform Hwb ac yn darparu manylion ystod o adnoddau, gan gynnwys llinellau cymorth a gwefannau. Cymraeg: Ystorfa - Hwb (llyw.cymru)  Saesneg: Repository - Hwb (gov.wales)

Gwyddom hefyd fod y Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd i bobl sy’n byw gydag anhwylder bwyta, mae modd cael mynediad at gymorth a chefnogaeth drwy beateatingdisorders.org.uk/support-services

Dyma gyfnod heriol iawn ac mae’n bwysig edrych ar ôl ein gilydd, gan chwarae ein rhan wrth annog pobl i siarad am eu pryderon ac i geisio cymorth.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy’n darparu cymorth iechyd meddwl, i bob unigolyn a sefydliad sy’n chwarae eu rhan, diolch.