Gofalu (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2019 i Fawrth 2020
Mae'r adroddiad yn edrych ar bobl sy'n gofalu am deulu, ffrindiau neu gymdogion neu'n eu cefnogi am ddim a'r amser y maent yn ei dreulio yn gofalu ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn 2019-20, gofynnodd yr Arolwg Cenedlaethol i bobl a oeddent yn gofalu am neu'n helpu aelodau o’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill oherwydd afiechyd neu anabledd hirdymor corfforol neu feddyliol, neu broblemau mewn perthynas â henaint. Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at bobl a roddodd gymorth neu gefnogaeth o’r fath yn ddi-dâl fel ‘gofalwyr’. Gofynnwyd cwestiynau ar ofalu yn 2020 hefyd yn ystod pandemig y coronafeirws, ac adroddir arnynt yma yn ogystal.
Prif ganfyddiadau
- Yn 2019-20, rhoddodd 29% o bobl gymorth neu gefnogaeth yn ddi-dâl i eraill; gyda hanner y grŵp hwn yn gwneud hynny am fwy na phum awr yr wythnos.
Mae'r ffactorau canlynol yn gysylltiedig yn annibynnol â phobl sy'n gofalu am eraill (am fwy na 5 awr yr wythnos):
- 45 oed a hŷn
- yn fenywaidd
- yn byw mewn tai cymdeithasol yn hytrach na’n berchennog tŷ
- yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru
- yn teimlo lefelau isel o foddhad â bywyd
- salwch cyfyngus hirdymor
- yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar
Rhwng mis Mehefin a mis Medi 2020, dywedodd cyfran debyg o bobl eu bod yn ofalwyr (31%), gyda 95% o'r rhain yn dweud y byddent yn parhau i ddarparu cymorth am o leiaf 6 mis neu cyhyd ag y bo angen.
Gofalwyr
Wrth reoli ar gyfer ffactorau eraill (gweler yr adroddiad technegol atchweliad) roedd cysylltiad sylweddol rhwng y nodweddion canlynol a bod yn ofalwr (am fwy na 5 awr yr wythnos) yn 2019-20.
Oedran
- Pobl rhwng 45 a 74 oed oedd y grŵp oedran a oedd fwyaf tebygol o fod yn ofalwyr. Mae Siart 1 yn dangos bod hyn yn parhau i fod yn wir pan gaiff pob gofalwr ei gynnwys - bu rhywfaint o amrywiad mewn canlyniadau ar draws y blynyddoedd ond mae'r patrwm cyfranogiad yn aros yr un fath.
Rhyw
- Roedd 31% o fenywod yn ofalwyr o gymharu â 27% o ddynion.
Tai
- Wrth reoli ffactorau eraill, roedd pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr (am 5+ awr) na pherchen-feddianwyr. Dangosodd dadansoddiad syml fod pob gofalwr, yn gyffredinol, fod 31% o bobl mewn tai cymdeithasol yn gofalu am rywun o gymharu â 29% o berchen-feddianwyr a 22% o bobl mewn cartrefi rhent preifat. Mae’n debygol mai’r esboniad dros y gyfran isel hon o fewn tai rhent preifat yw’r ddemograffig oedran iau yn y math hwn o lety, yn hytrach na'r math o ddeiliadaeth ei hun.
Amddifadedd ardal
- Wrth reoli ffactorau eraill, gwelwyd fod amddifadedd ardal yn gysylltiedig â ph'un a oedd person yn ofalwr ai peidio. Roedd pobl sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr na'r rhai a oedd yn byw yn yr 20% o ardaloedd lleiaf difreintiedig. Nid oedd y gwahaniaeth hwn yn amlwg mewn dadansoddiad traws-dab syml ar gyfer pob gofalwr ond roedd yn wir am y rhai a oedd yn gofalu am fwy na 5 awr yr wythnos.
Llesiant
- Roedd 31% o'r bobl a ddywedodd fod ganddynt lefelau isel i ganolig o foddhad â bywyd yn ofalwyr, o gymharu â 27% o bobl a ddywedodd eu bod yn fodlon iawn ar eu bywyd. Mae hyn yn debygol o fod yn hon yn berthynas gymhleth lle gall gofalu, mewn rhai achosion, leihau boddhad unigolyn â bywyd, ond i eraill gall cefnogi rhywun arall ychwanegu at eu boddhad â bywyd.
Salwch cyfyngus hirdymor
- Roedd pobl a oedd â salwch neu gyflyrau hirdymor a oedd yn cyfyngu ar eu gallu i gyflawni tasgau bob dydd yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr na'r rhai heb nam o'r fath.
Statws cyflogaeth
- Efallai nad yw'n syndod bod pobl a oedd mewn cyflogaeth yn llai tebygol o fod yn ofalwyr na'r rhai sydd wedi ymddeol neu'n ddi-waith.
Amser a dreuliwyd yn gofalu
- Darparodd 51% o ofalwyr hyd at 5 awr o ofal di-dâl yr wythnos yn cefnogi teulu, ffrindiau neu gymdogion. Yn 2016-17 a 2017-18 nid oedd y mesur 5 awr ar gael ond mae Siart 2 yn dangos rhaniadau amser tebyg ar draws blynyddoedd a chanlyniadau cyson.
- Roedd 31% o ofalwyr a oedd yn 75 oed a hŷn yn gofalu am rywun arall am hanner cant neu fwy o oriau'r wythnos. Mae hyn yn cymharu â 15% o bobl 45 i 74 oed a dreuliodd gyfnod tebyg o amser yn gofalu.
- Treuliodd 63% o ofalwyr ifanc (16 i 24 oed) rhwng 1 a 5 awr yr wythnos yn cefnogi rhywun arall. Dywedodd 4% o ofalwyr ifanc eu bod yn treulio 50 awr neu fwy yr wythnos yn gofalu.
- Mae 24% o’r gofalwyr yr ydym yn ystyried sy’n wynebu amddifadedd materol yn gofalu am rywun am 50 awr neu fwy yr wythnos. Mae hyn yn cymharu â 13% o ofalwyr nad ydynt yn wynebu amddifadedd materol a oedd yn gofalu am rywun am 50 awr neu fwy yr wythnos.
Gofalu a COVID-19
Ar ôl dechrau'r pandemig coronafeirws nid oedd yn bosibl cynnal yr Arolwg Cenedlaethol wyneb yn wyneb mwyach ac o fis Mai 2020 daeth yn arolwg ffôn byrrach. Rhwng mis Mehefin a mis Medi, gofynnwyd i bobl a oeddent yn gofalu am unrhyw un arall, yn eu helpu neu'n eu cefnogi oherwydd salwch, anabledd neu henaint.
- Dywedodd 31% o bobl eu bod yn ofalwyr am awr neu fwy yr wythnos. Mae hyn yn cyd-fynd â chanlyniadau 2019-20 a adroddwyd yn gynharach. Roedd menywod (33%) yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr na dynion (28%) fel o'r blaen, ac roedd y patrwm gofalu yn debyg i wahanol grwpiau oedran.
- Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu, er gwaethaf y pandemig, fod pobl yn gyffredinol yn parhau i gynnig gofal i eraill, hyd yn oed pan fo’r derbynnydd yn byw ar aelwyd wahanol.
Cyd-destun polisi
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gosodir dyletswydd ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd i hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a’u gofalwyr.
Lansiwyd y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl ar Fawrth 23, 2021, ac roedd yn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella'r gydnabyddiaeth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru a'r gefnogaeth iddynt. Mae'r strategaeth yn nodi blaenoriaethau cenedlaethol diwygiedig ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys ychwanegu blaenoriaeth newydd ar addysg a chyflogaeth a chaiff ei dilyn gan gynllun cyflawni manylach yn hydref 2021.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Arolwg wyneb yn wyneb oedd Arolwg Cenedlaethol 2019-20 a oedd yn cynnwys hapsampl o dros 12,000 o oedolion o bob rhan o Gymru. Cynhaliwyd yr arolwg hwnnw rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.
Yn sgil pandemig y coronafeirws, bu’n rhaid newid i gynnal arolwg byrrach dros y ffôn bob mis. O fis Mai 2020 ymlaen, cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan mewn Arolwg Cenedlaethol blwyddyn lawn, wyneb yn wyneb.
Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg gweler yr adroddiad ansawdd a'r adroddiad technegol atchweliad.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu cynnal oedd asesiad llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
- diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
- gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Siobhan Evans
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 12/2021