Neidio i'r prif gynnwy

Mai llai o bobl yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru o ganlyniad i welliannau mewn gofal, ond mae lle i wella eto.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Vaughan Gething:

"Rydyn ni wedi gweld gostyngiad graddol yn nifer y bobl sy'n marw o glefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru - gostyngiad o bron 1,000 o bobl y flwyddyn rhwng 2010 a 2015.  Mae nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd  clefyd coronaidd y galon hefyd wedi gostwng 21% dros y pum mlynedd ddiwethaf oherwydd bod y cyflwr yn cael ei reoli'n well.  

"Yn ddiweddar, disgrifiwyd Cymru fel un o'r gwledydd sy'n arwain ym maes adsefydlu cardiaidd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, gan fod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y cleifion sy'n derbyn y gwasanaeth yng Nghymru yn dilyn trawiad ar y galon.  Rydyn ni'n awyddus i adeiladu ar y cynnydd hwn ar gyfer y dyfodol."

Ymhlith y cynlluniau mae: 

  • datblygu cynllun ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty i wella cyfraddau goroesi; 

  • targedu adnoddau at grwpiau anodd eu cyrraedd, a datblygu clinigau cardioleg cymunedol lle gellir canfod a thrin yn gynnar yn nes at gartref y claf; 

  • gwella mynediad at brofion Hypercolesterolemia Teuluol i bobl sydd â lefelau colesterol uchel iawn neu hanes personol neu deuluol o glefyd fasgwlaidd cynamserol, a phrofion ar gyfer aelodau o'r teulu agos;

  • gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gynyddu nifer yr astudiaethau ymchwil i gyflyrau ar y galon a gynhelir yng Nghymru a cynyddu ymchwil sy'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc.  
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chadeirydd Grŵp Gweithredu Cyflyrau ar y Galon: 

"Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn dal i fod yn un o brif achosion salwch a marwolaeth yng Nghymru.  Rydyn ni'n gwybod bod rhoi'r gorau i smygu a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd yn gallu helpu i leihau'r risg o glefyd y galon, ac mae ein cynllun yn ystyried sut y gallwn helpu pobl i wneud dewisiadau iach. 

"Mae'r GIG yng Nghymru yn gwneud cynnydd sylweddol.  Mae gofal y galon a chyfraddau goroesi'n parhau i wella.  Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sut y gallwn barhau i wella yn y dyfodol."