Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil i anghenion rhieni ifanc mewn addysg bellach ac i archwilio a yw gofal plant yn rhwystr iddynt barhau gyda’u haddysg neu i gael mynediad i addysg.

Roedd nodau’r prosiect hwn

  • Archwilio’r materion sydd yn berthnasol i rieni ifanc mewn addysg bellach (AB), gyda ffocws penodol ar y rhai sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 
  • Canfod i ba raddau y mae gofal plant yn rhwystr i addysg, gyda ffocws ar ddefnydd gofal plant cyfrwng Cymraeg 
  • Deall i ba raddau mae lefelau cefnogaeth presennol yn cwrdd â’r galw gan rieni ifanc, a sut mae systemau cefnogaeth presennol yn cymharu â systemau gweddill y DU.  
  • Amcangyfrif faint o rieni ifanc ychwanegol fyddai'n gallu parhau â’u haddysg, neu gael mynediad i AB, petai cymorth pellach yn cael ei gynnig.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Daw'r astudiaeth hon i'r casgliad ei bod yn ymddangos bod trefniadau ariannu disgresiynol presennol yn diwallu anghenion rhieni sy'n dysgu ym maes AB y mae angen cymorth arnynt â chostau gofal plant. Am hynny, ac ar sail y dystiolaeth a adolygwyd o amrywiaeth o ffynonellau, rydym yn argymell nad oes angen rhaglen beilot ychwanegol ar hyn o bryd. 

Argymhelliad 2

Mae Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yn dibynnu i raddau helaeth ar eu dyraniad Cronfa Ariannol Wrth Gefn i ddarparu'r cymorth gofal plant y mae ei angen ar y rhieni sy'n dysgu gyda nhw. Felly dylai Llywodraeth Cymru ystyried parhau i ddyrannu'r arian hwn i SABau.

Argymhelliad 3

Mae’n bosibl y bydd angen ymdrechion pellach i wella'r ffordd mae gwybodaeth am gymorth sydd ar gael yn cael ei rhannu â rhieni ifanc er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o'r cyfleoedd cymorth ariannol sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd.  

Adroddiadau

Gofal plant mewn addysg bellach , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gofal plant mewn addysg bellach: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 330 KB

PDF
330 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.