Gwybodaeth am fathau o ofal plant a rhwyddineb mynediad, nifer yr oriau o ofal plant a ddefnyddir, rhesymau dros beidio â defnyddio gofal plant, a darpariaeth gofal plant yn Gymraeg ar Ebrill 2018 i Mawrth 2019.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gofal plant (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Trefnodd 48% o rieni gyda phlant 0 i 14 oed ofal plant er mwyn iddynt allu gweithio, astudio neu fynd ar hyfforddiant.
- Y rheswm mwyaf cyffredin pam nad oedd rhieni plant 0 i 14 oed yn defnyddio gofal plant oedd bod un rhiant bob amser o gwmpas (73%).
- Dywedodd 31% o rieni â phlant oed cyn ysgol fod y gofal plant ffurfiol a ddefnyddiwyd ganddynt yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn Gymraeg neu'n gymysgedd cyfartal o Gymraeg a Saesneg.
Adroddiadau
Gofal plant (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 784 KB
PDF
784 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.