Neidio i'r prif gynnwy

Ceisir penderfyniad:

Gwahoddir y Cabinet i nodi’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ym maes iechyd a lles drwy gyfrwng y Model Gofal Sylfaenol i Gymru, y camau gweithredu a gymerir yn strategol ac yn lleol i gynorthwyo i roi’r Model ar waith, ynghyd ag esiamplau o’r Model yng Ngogledd Cymru.

Yr ystyriaethau

Mae gofal sylfaenol yng Nghymru yn trawsnewid fel rhan o’r system iechyd a gofal gyflawn er mwyn contractio a chyflenwi’r gofal iawn, ar yr amser iawn, o’r ffynhonnell iawn, ac er mwyn sicrhau ei bod yn gynaliadwy yn awr ac i’r dyfodol. Mae hyn yn golygu y bydd practisau gofal sylfaenol unigol yn penderfynu uno neu ffedereiddio â phractisau eraill. Gall hyn greu’r amgyffrediad bod gwasanaethau’n cael eu colli, tra bo practisau amlbroffesiwn ac aml-haen mwy yn fwy cynaliadwy ac yn gallu cynnig gwell mynediad i wasanaethau.

Derbyniodd Pwyllgor y Cabinet CAB (18-19) 31 fel diweddariad ar faterion yn ymwneud ag iechyd yng Ngogledd Cymru ar 21 Chwefror 2019.

Darllenai cofnodion y cyfarfod y cydnabuwyd bod cael mynediad at feddygon teulu wedi bod yn broblem benodol, a oedd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau Damweiniau ac Argyfyngau ond bod disgwyl i hyn wella yn y blynyddoedd nesaf ac ystyried bod yr holl leoliadau hyfforddi meddygon teulu yn y rhanbarth wedi’u llenwi. Cytunwyd y byddai nodyn ar fodel meddygon teulu Prestatyn yn cael ei rannu â’r Gweinidogion.

Mae’r papur hwn yn disgrifio’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru, gydag ymarfer cyffredinol sefydlog yn ganolog iddo, ac yn nodi’r camau gweithredu strategol a lleol, gan gynnwys Gogledd Cymru, a gymerir i weithredu’r Model hwn. Yn Atodlen C rhoddir cipolwg ar bractis meddygon teulu Prestatyn Iach fel esiampl nodedig o’r Model ar waith. Bûm yn arwain trafodaeth mewn cyfarfod llawn ar y Model Gofal Sylfaenol i Gymru ar 7 Mai.

Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru

I ysgogi’r broses o drawsnewid gofal sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol 2014 ymhellach, ac mae’n defnyddio esiamplau o weithredu arloesol lleol ar draws Cymru i greu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru, gweler Atodlen A.

Bydd y Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn cwmpasu’r system gyfan. Mae’n rhan o system iechyd a lles lle mae pobl yn defnyddio cyfres o wasanaethau gofal a chymorth di-dor gartref neu’n agos at adref, a hynny ar sail eu hanghenion unigryw a’r hyn sy’n bwysig iddynt hwy.

Mae’r dull hwn yn cefnogi’r weledigaeth yn Cymru Iachach, gan geisio cyflenwi systemau effeithiol sy’n helpu pobl i ofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain. Ei nod yw ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar yr help a’r cymorth iawn. Dylai’r help hwn ganolbwyntio ar atal, ar weithredu’n gynnar ac ar les ehangach yn ogystal ag ar drin salwch.

Mae’r dull hwn yn golygu y bydd y gweithlu gofal sylfaenol yn newid, ac yn dwyn i mewn amrywiaeth ehangach o weithwyr proffesiynol i ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau i bobl gartref neu’n agosach at adref.

Yr atyniad mawr yn y Model Gofal Sylfaenol yw’r gwaith di-dor a welir rhwng partneriaid yn y gymuned drwy gyfrwng y clystyrau gofal sylfaenol. Cymeradwywyd y Model gan y rhanddeiliaid drwy’r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol ym mis Mawrth 2018. Ymysg y rhanddeiliaid y mae byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru, y Gwasanaethau Cymdeithasol, a chynrychiolwyr o’r trydydd sector a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru. Rwyf wedi pennu cerrig milltir ffurfiol i’w cyrraedd er mwyn ysgogi’r gweithredu’n lleol i fabwysiadu ac addasu’r Model yn gyflym ac yn gyflawn ym mhob rhan o Gymru.

Gweithredu strategol

Ceir cyfres o gamau gweithredu strategol sydd â’r nod o gefnogi’r gwaith o fabwysiadu ac addasu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn lleol.

Safonau ar gyfer mynediad

Ym mis Mawrth 2019, fe wnes i lansio safonau cenedlaethol ar gyfer yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl pan gysylltant â phractis meddygon teulu. Defnyddiwyd gwaith ymchwil a oedd yn cynnwys cyfranogwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol i lywio’r safonau hyn. Mae cydymffurfio â’r safonau hyn yn ddibynnol ar fod practisau meddygon teulu yn trawsnewid y ffordd maent yn cynllunio ac yn cyflenwi gwasanaethau yn unol â’r Model Gofal Sylfaenol. Ochr yn ochr â’r safonau hyn ar gyfer practisau meddygon teulu, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safonau mynediad cenedlaethol o’r newydd ar gyfer y Gwasanaeth 111 a’r Gwasanaeth y Tu allan i Oriau.

Ymgyrch marchnata Hyfforddi, Gweithio, Byw

Canolbwyntiai camau cyntaf yr ymgyrch marchnata Hyfforddi, Gweithio a Byw ar feddygon teulu a nyrsys ac mae wedi arwain at fod mwy o bobl yn dewis hyfforddi fel meddygon teulu yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn 24 o lefydd ychwanegol i hyfforddi meddygon teulu. Nod y cam cyfredol, a lansiwyd ym mis Ebrill, yw denu mwy o fferyllwyr gyda cham arall wedi’i drefnu a fydd yn canolbwyntio ar weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Diwygio contractau

I helpu i gyflenwi’r Model Gofal Sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio â byrddau iechyd a chyrff cynrychioliadol i ddiwygio’r contractau gofal sylfaenol cenedlaethol.

Un o nodau hirdymor Llywodraeth Cymru, y GIG ac ystod ehangach o bartneriaid yw cyflenwi mwy o ofal drwy wasanaethau gofal sylfaenol gan symud oddi wrth ddarpariaeth mewn ysbytai a defnyddio amser ac arbenigedd ystod eang o weithwyr proffesiynol yn effeithiol. Cymeradwywyd y dull hwn yn yr Adolygiad Seneddol ac mae’n ganolog i Cymru Iachach.

Rydyn ni eisoes wedi symud llawer o wasanaethau allan o ysbytai dros y 5 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, bydd cyflenwi mwy o ofal yn agosach at adref yn gofyn am newid mawr. Mae gwneud diwygiadau pellach i gontractau felly yn un gydran hanfodol o gyflenwi system gofal sylfaenol gadarn a chynaliadwy.

Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol – Er 2017-18, gwnaed cynnydd sylweddol drwy drefniadau contractiol newydd sydd wedi cyflenwi cynllun indemniad newydd a gefnogir gan y wladwriaeth mewn ymateb i’r pryderon cynyddol ynglŷn â chynnydd yn y costau ac ansefydlogrwydd yn y farchnad, a hefyd drwy gyflwyno ac ariannu Gwasanaethau Estynedig. Mae’r rhain yn cynnwys monitro a rheoli pobl sydd â Diabetes Math 2 a darparu triniaeth gwrthgeulo yr oedd pobl yn arfer gorfod teithio i’r ysbyty i’w chael. Fe wnaethom hefyd gyflwyno Gwasanaeth Estynedig i drigolion mewn cartrefi gofal drwy fodel gofal amlbroffesiwn rhagweithiol, cyfannol a chydlynol.

Ar gyfer 2019-20, rydym am roi blaenoriaeth i ddiwygio’r canlynol: mynediad gwell, ffocws llawer mwy cadarn ar ymgysylltu â chlystyrau, cyfrannu at drefniadau cynllunio a chyflenwi ar lefel clystyrau, gwneud practisau yn fwy cynaliadwy, cyflenwi Gwasanaethau Estynedig yn gyson, gwella ansawdd, cadw a recriwtio ar gyfer y gweithlu a mynediad priodol at ddata er mwyn darparu gwell sylfaen dystiolaeth.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn trafod â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru becyn o fuddsoddiadau i hwyluso’r newidiadau pellach hyn yn y contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol. Mae pawb yn cyfrannu’n bositif at y trafodaethau a’r nod yw llunio cytundeb sy’n sicrhau canlyniad teg a chymesur i feddygon teulu a chleifion.

Gwasanaethau Fferyllol Cymunedol – Er 2016, gwnaed cryn gynnydd eisoes drwy drefniadau contractiol newydd sydd wedi ariannu’r trefniadau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau clinigol, cydweithredu ar lefel clystyrau, presgripsiynwyr annibynnol a gwella ansawdd. Mae’r trafodaethau ynglŷn â chontract 2019-20 wedi dechrau’n ddiweddar a bydd y rhain yn canolbwyntio ar sicrhau bod y trawsnewid hwn yn digwydd yn gyflym, gan gynnwys:

  • cefnogi’r trefniadau lleol ar gyfer comisiynu gwasanaethau estynedig
  • ariannu’r gwasanaethau presgripsiynu annibynnol a sefydlwyd yn 2018-19
  • sefydlu rhagor o safleoedd braenaru ar gyfer presgripsiynu annibynnol
  • cefnogi’r trefniadau ar gyfer datblygu’r gweithlu a’r Cynllun Ansawdd a Diogelwch ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol.

Mae gwasanaethau’n symud i fferyllfeydd cymunedol. Mae mwyafrif helaeth ein fferyllfeydd cymunedol yn awr yn cynnig y Gwasanaeth Mân Anhwylderau, sy’n darparu llu o driniaethau heb fod angen presgripsiwn a heb orfod gwneud apwyntiad i weld y meddyg teulu. Ers ei lansio ym mis Medi 2013, cynhaliwyd 80,000 o ymgynghoriadau ac mae dros 80% o’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn dweud y byddent wedi mynd at eu meddyg teulu, y gwasanaeth y tu allan i oriau neu’r Adran Damweiniau ac Argyfyngau pe na fyddai hwn ar gael.

Mae’r system TG Dewis Fferyllfa yn awr ar gael mewn 98% o fferyllfeydd, gan ategu’r ystod gynyddol hon o wasanaethau estynedig. Mae’r system hon yn gosod sylfaen gadarn i’r broses o drawsnewid fferylliaeth gymunedol yng Nghymru o gyflenwi i wasanaethu.

Er enghraifft, mae peilot y Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf, yn rhedeg mewn 53 o fferyllfeydd ym Myrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Betsi Cadwaladr ac mae’r canlyniadau’n rhyfeddol. Gwelodd fferyllwyr 1,700 o bobl rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Mawrth 2019 fel rhan o’r peilot:

  • cyfeiriwyd dros 70% drwy eu practis meddygon teulu
  • dywedodd 94% o’r rhain y byddent wedi gwneud apwyntiad â’u meddyg teulu, ac
  • roedd llai nag 20% o’r bobl angen gwrthfiotigau.

Gwasanaethau deintyddiaeth y GIG – mae’r gwasanaeth hwn yn mynd drwy newid parhaol ar draws y system gyfan ac mae diwygio’r contract yn sail i hynny. Mae contract cyfredol gwasanaethau deintyddiaeth y GIG yn canolbwyntio ar driniaethau ac mae’n cael ei addasu i helpu timau deintyddol i ddilyn y model gofal iechyd darbodus wrth roi gofal deintyddol yn ymarferol.

Mae naw-deg pedwar o bractisau deintyddol (tua 22% o gyfanswm Cymru gyfan) yn casglu ac yn defnyddio asesiad o ‘angen a risg’ iechyd clinigol y geg i gynllunio gofal, i roi cyngor ataliol personol ac i gytuno ar gyfnodau galw’n ôl priodol â chleifion er mwyn bodloni anghenion yr unigolyn. Mae’r cynlluniau personol hyn yn amlinellu’r hyn y disgwylir i gleifion ei wneud drostynt eu hunain i gynnal a gwella iechyd y geg. Un elfen allweddol o’r dull hwn yw helpu practisau deintyddol i ddefnyddio sgiliau’r tîm cyfan. Mae’r newid yn golygu y gall yr amser rhydd ychwanegol a gaiff deintyddion gael ei ddefnyddio i gynnig gofal deintyddol ataliol a bodloni’n well anghenion y cleifion hynny sydd â chlefydau a rhoi cyngor i’r rheini sy’n wynebu’r risg fwyaf – gyda llai o amser yn cael ei dreulio ar alw’n ôl y cleifion sydd â’r risg a’r angen lleiaf.

Drwy werthuso’r arferion diwygio’r contract yn gynnar mae’r risg a’r angen wedi dod yn eglur. Mae wedi dangos bod gwell mynediad, gwell ansawdd ac ymyrraeth ataliol yn bosibl. Mae wedi cadarnhau’r dystiolaeth i gefnogi’r cyfeiriad rydym yn mynd iddo ac i gynyddu nifer y practisau sy’n cymryd rhan.

Seilwaith

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio â’r byrddau iechyd i gytuno ar raglen buddsoddi cyfalaf o £68m. Mae’r buddsoddiad yng Ngogledd Cymru i’w weld yn Atodlen C.

Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol

Mae’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros Ofal Sylfaenol yn arwain Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol. Mae’r Rhaglen yn dwyn i mewn arweinyddiaeth o’r byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynrychiolwyr o grwpiau proffesiynol. Mae ymarfer cyffredinol sefydlog yn ganolog i’r Model Gofal Sylfaenol ac, felly, dyma ffocws y Rhaglen yn 2019-20.

Ymysg yr amcanion allweddol y mae:

  • templedi ac offer cenedlaethol i alluogi pob clwstwr gofal sylfaenol i ddadansoddi galw ei boblogaeth ar ei bractisau meddygon teulu a’i wasanaethau y tu allan i oriau, cofnodi’r niferoedd yn ei weithlu amlbroffesiwn a’u sgiliau a chwblhau cynlluniau 3 blynedd ar gyfer 2020-23
  • system genedlaethol i adnabod pobl y mae mwy o risg iddynt fod angen gofal heb ei drefnu
  • system genedlaethol ar gyfer monitro’r pwysau cynyddol ar bractisau meddygon teulu a gwasanaethau y tu allan i oriau
  • cynllun cyfathrebu cenedlaethol i roi gwybod i’r cyhoedd sut mae gwasanaethau lleol yn newid er gwell
  • fframwaith cenedlaethol i werthuso effaith y Model Gofal Sylfaenol.

Yn ganolog i’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru y mae’r egwyddor gwasanaethau wedi’u trefnu a’u cyflenwi ar draws y cyfnod 24/7 gydag ymateb priodol i bobl ag anghenion gofal brys. Bwriedir i’r Rhaglen ategu’r Rhaglen Gofal heb ei Drefnu, gan gynnwys trawsnewid gwasanaethau y tu allan i oriau a chyflwyno’r gwasanaeth 111.

Gweithredu lleol

Ceir gweithredu lleol ar draws Cymru i fabwysiadu ac addasu’r Model Gofal Sylfaenol.

I bractisau meddygon teulu, mae hyn yn cynnwys sefydlu timau amlbroffesiwn i weithio ochr yn ochr â meddygon teulu a chyflwyno systemau teleffon (a chynyddol ddigidol) a rolau yn y gweithlu i gyfeirio pobl a’u cysylltu â gwasanaethau lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys ffynonellau cymorth lles anghlinigol gan y trydydd sector a’r sector cymunedol yn ogystal â gofal clinigol gan optometryddion, deintyddion a fferyllwyr cymunedol. Bwriedir i’r systemau teleffon hyn hefyd ei gwneud yn bosibl cynnal ymgynghoriadau dros y ffôn a brysbennu pobl ag anghenion clinigol gan flaenoriaethu’r rheini sydd ag anghenion brys.

O safbwynt gwasanaethau y tu allan i oriau, mae hyn yn cynnwys graddol gyflwyno’r gwasanaeth 111 a chyfranogi ac ymateb i’r adolygiad cenedlaethol gan gymheiriaid.

Ar gyfer fferyllfeydd cymunedol, mae hyn yn cynnwys triniaethau ar gyfer cyfres o fân anhwylderau nad oes angen presgripsiwn ar eu cyfer. Mae fferyllwyr yn cael eu hyfforddi i ragnodi meddyginiaeth yn ogystal â gweinyddu a chynghori. Bwriedir gweithredu er mwyn datblygu sgiliau asesu clinigol fferyllwyr ymhellach.

Ar gyfer practisau deintyddol, mae hyn yn cynnwys datblygu’r gweithlu amlbroffesiwn ac annog practisau deintyddol i gydweithredu â’i gilydd ac â darparwyr gwasanaethau eraill fel practisau meddygon teulu ar lefel clystyrau.

Ar gyfer practisau optometreg mae hyn yn cynnwys optometryddion yn hyfforddi i gyflenwi mwy o wasanaethau mewn gofal sylfaenol a hyfforddi i ragnodi meddyginiaeth. Bwriedir gweithredu i ddatblygu sgiliau asesu clinigol optometryddion ymhellach. Y flaenoriaeth yw cyflenwi mwy o wasanaethau y bu’n rhaid i bobl yn draddodiadol deithio i’r ysbyty i’w cael.

Ar gyfer gwasanaethau awdioleg, mae Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe yn arwain y ffordd ar ddatblygu Uwch Ymarferwyr Clywedeg i weithio ar lefel clystyrau ac mewn cydweithrediad â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a’r trydydd sector. Bwriedir gweithredu i ddatblygu sgiliau asesu clinigol ymarferwyr awdioleg a gweithwyr cymorth gofal iechyd ymhellach. Y flaenoriaeth yw cyflenwi mwy o wasanaethau y bu’n rhaid i bobl yn draddodiadol deithio i’r ysbyty i’w cael.

Ar gyfer pobl ag anghenion iaith Gymraeg, mae byrddau iechyd yn darparu i gontractwyr gofal sylfaenol amrywiol adnoddau yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

Gogledd Cymru

Mae detholiad o adroddiad gwella mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghlwm yn Atodlen B. Dengys hwn bod camau gweithredu’r bwrdd iechyd yn canolbwyntio ar wasanaethau meddygol cyffredinol. Mae’r bwrdd iechyd yn y chwe mis diwethaf wedi bod yn cynllunio senarios yn rhagweithiol ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol. Drwy weithredu fel hyn mae’r bwrdd iechyd wedi gallu nodi’r meysydd lle ceir cryn broblemau yn y 5 a’r 10 mlynedd nesaf, a hynny ar sail y ffigurau ymddeoliadau o’r gweithlu ar lefel practisau, trefi a chlystyrau. Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i ragweld nifer y gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaeth a fydd yn ofynnol er mwyn gallu cyflwyno’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn gyflym yn y meysydd hyn.

Er bod y risgiau’n uchel o hyd, mae hyn yn rhoi’r bwrdd iechyd mewn sefyllfa i dargedu practisau sydd ‘mewn perygl’ a’u helpu i weithredu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru fel blaenoriaeth, gyda meddygon teulu ond yn gwneud yr hyn y mae angen i feddygon teulu ei wneud.

Un cynllun positif yw’r Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol (PACCA), sydd â thair rhan bwysig i’w chwarae:

  • cydlynu hyfforddiant – rôl systematig a chydlynol i hyfforddi uwch weithwyr proffesiynol ymarfer nad ydynt yn feddygon teulu i weithio mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Bydd PACCA yn darparu mentoriaeth fugeiliol, cefnogaeth diwtoraidd, ac yn cydlynu lleoliadau ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol yng Ngogledd Cymru a bydd yn gwthio’r ffiniau ar gyfer uwch weithwyr proffesiynol yn ddiogel.
  • cynnal tîm cynaliadwyedd – bydd y tîm yn gallu cefnogi practisau i ganfod ffyrdd o weithredu’r Model fel dewis yn lle ildio contractau. Bydd cael eu cynnal o fewn PACCA yn darparu mynediad ar unwaith i garfannau o uwch weithwyr proffesiynol ymarfer newydd.
  • rhannu profiadau – Mae cylch gorchwyl penodol PACCA yn golygu y bydd y tîm yn meithrin cyfoeth o brofiad mewn newid sefydliadol gwasanaethau gofal sylfaenol ac mewn gweithredu ffyrdd newydd o weithio.

Yn Atodlen C ceir esiamplau o sut mae’r Model Gofal Sylfaenol yn cael ei fabwysiadu ar draws Gogledd Cymru. Er bod hwn yn cynnwys ymarfer cyffredinol amlbroffesiwn, y mae practis meddygon teulu Prestatyn Iach yn un esiampl amlwg ohono, ceir esiamplau o fodelau gwasanaethau eraill. Caiff gwelliannau pellach eu gweithredu ar draws Gogledd Cymru dros y misoedd nesaf drwy gynigion sy’n cael cymorth drwy Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru.

Effaith

Gwasanaethau gofal sylfaenol yw’r gwasanaethau mwyaf cyfarwydd ac a ddefnyddir amlaf. Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf ddydd neu nos. Mae mynediad amserol at feddyg teulu am gyngor brys ac arferol yn fater o bwys i’r cyhoedd ac mae Symud Cymru Ymlaen yn ymrwymo i’w gwneud yn haws cael gweld meddyg teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Mae Ffyniant i Bawb yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu ymhellach y dull clystyrau gofal sylfaenol er mwyn gwella mynediad i ofal gartref neu’n agos i adref. Caiff yr ymrwymiad hwn ei ategu yn Cymru Iachach.

Mae tystiolaeth ac ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol yn dangos y bydd manteision posibl y Model Gofal Sylfaenol i Gymru a’i bwyslais ar gydweithrediad clystyrau gofal sylfaenol yn cynnwys:

  • gwell iechyd a lles
  • cymunedau cryfach
  • gwell morâl, cymhelliant a lles ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • gwell ffigurau recriwtio a chadw staff
  • modelau gofal sy’n para’n hirach

Yn unol â’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a fwriedir i gyrraedd y 7 nod llesiant a nodir yn adran 4 o’r Ddeddf, mae’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn hyrwyddo iechyd a lles drwy gydweithredu er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a phwyslais ar atal.

Nid oes dim goblygiadau statudol ar yr iaith Gymraeg o ganlyniad i’r papur Cabinet hwn.

Gofynion o ran Cyllid a Goblygiadau ar Lywodraethu

Gan mai papur i’w nodi yw hwn, nid oes dim goblygiadau ariannol ychwanegol yn codi drwy fod y Cabinet yn ystyried y papur hwn.

Mae byrddau iechyd yn gwybod bod angen iddynt weithio â’u partneriaid i ddatblygu capasiti a gallu gwasanaethau gofal sylfaenol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y system iechyd a gofal. Mae hyn yn cynnwys ailgyfeirio’r adnoddau a’r gwasanaethau presennol a symud ymaith oddi wrth ofal mewn ysbyty a mwy at wella iechyd a lles y boblogaeth, gan atal gwaeledd y mae modd ei osgoi drwy gynyddu’r capasiti a datblygu’r gallu ym maes gofal sylfaenol.

Yn ychwanegol at y cymorth a ddarparwyd drwy’r Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid, mae gan y Gronfa Gofal Sylfaenol Genedlaethol reolaidd a sefydlwyd yn 2015 3 blaenoriaeth; cynaliadwyedd gwasanaethau, gwell mynediad a mwy o wasanaethau ar gael yn y gymuned. Dyrennir y cyllid:

  • i reoli rhaglenni ac arweinyddiaeth genedlaethol
  • ar gyfer rhaglen genedlaethol o gynlluniau arloesi i brofi ffyrdd newydd o gynllunio, trefnu a chyflenwi gofal sylfaenol
  • i’r 64 clwstwr gofal sylfaenol i bennu sut i ddefnyddio a gweithredu eu hatebion a’u blaenoriaethau lleol;
  • i fyrddau iechyd i weithredu eu cynlluniau gofal sylfaenol fel y nodir yn eu cynlluniau tymor canolig integredig ac i gefnogi gweithredu lleol er mwyn datgan sut mae gwasanaethau lleol yn newid er gwell.

Nod y Model Gofal Sylfaenol yw gwella iechyd a lles y boblogaeth a bydd yn lleihau’r galw amhriodol ar wasanaethau gofal eilaidd megis Adrannau Damweiniau ac Argyfyngau.

Mae ymarfer cyffredinol sefydlog yn ganolog i’r Model. Mae Prestatyn Iach yn esiampl o sut caiff cydrannau o’r Model eu defnyddio mewn ymarfer cyffredinol.

Yn unol â Hysbysiad Cyllid Interim 01/2015, mae’r papur Cabinet hwn a’r dogfennau ategol wedi cael eu clirio â thîm Cyllid HSS (CW 7144/2019) a’r tîm Cyllidebu Strategol (SB), cod clirio SB0821/5.

Nid yw’r papur hwn yn codi dim rheoleidd-dra na phriodoldeb; nac unrhyw faterion newydd na chynhennus ac ni fu gofyn cael cyngor cyfreithiol perthnasol.

Ymchwil a/neu ystadegau

Mae’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn cwmpasu’r system gyfan ac mae felly’n seiliedig ar gyfoeth o dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol a bydd yn parhau i esblygu yn unol â’r sylfaen dystiolaeth sy’n esblygu. Cafodd y papur hwn ei gymeradwyo gan y gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (cod clirio KAS 29/2019).

Cyfathrebu a chyhoeddi

Ni fwriedir gwneud dim cyfathrebu penodol o ganlyniad i’r Papur Cabinet hwn. Ceir cynllun cyfathrebu cenedlaethol ar gyfer y Model Gofal Sylfaenol i Gymru i helpu i ddarparu gwybodaeth am sut mae gwasanaethau lleol yn newid er gwell. Trafodwyd y Model Gofal Sylfaenol mewn dadl yn y cyfarfod llawn o Lywodraeth Cymru ar 7 Mai 2019.

Gellir cyhoeddi’r papur hwn chwe wythnos ar ôl y priod gyfarfod.

Gweithio’n gydgysylltiedig

Wrth ddrafftio’r papur hwn bu’r swyddogion yn gweithio â’u cydweithwyr ar draws y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Argymhelliad:

Bod y Cabinet yn nodi’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ym maes iechyd a lles drwy gyfrwng y Model Gofal Sylfaenol i Gymru, y camau gweithredu a gymerir yn strategol ac yn lleol i gynorthwyo i roi’r Model ar waith, ynghyd ag esiamplau o’r Model yng Ngogledd Cymru.

Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mehefin 2019

Atodlen 1: Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru

Newidiadau mewn Gwasanaethau Iechyd a Lles Lleol yng Nghymru

Mae’r gwasanaethau sy’n gofalu am iechyd a lles yng Nghymru yn newid. Bydd model newydd yn cyflenwi’r gwasanaethau cyfredol ac yn sicrhau bod gwahanol wasanaethau yn gweithio’n ddi-dor â’i gilydd i wella’r ymateb i anghenion lleol.

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn cynnwys y gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu gan bractisau meddygon teulu lleol, fferyllwyr, deintyddion ac optegwyr. Mae hefyd yn cynnwys y tîm cymunedol ehangach megis nyrsys dosbarth, ymwelwyr iechyd a ffisiotherapyddion.

Yng Nghymru, rydym wedi cyflwyno’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru ac mae’r papur hwn yn disgrifio sut y caiff gofal ei gyflenwi’n lleol, yn awr ac i’r dyfodol.

1. Egwyddorion y Model Gofal Sylfaenol i Gymru

Fel y disgrifir yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: ‘Cymru Iachach’, bydd rhoi’r hyn sy’n bwysig i bobl wrth wraidd y model hwn yn sicrhau bod y gofal iawn ar gael ar yr amser iawn o’r ffynhonnell iawn, gartref neu’n agos i adref. Mae’r model yn canolbwyntio ar:

  • ddatblygiadau mewn gwasanaethau ar sail y galw; caiff y cynllunio a’r trawsnewid ei arwain drwy dimau gofal lleol cydlynol.
  • hybu arferion byw’n iach drwy wneud lles yn derm llai meddygol.
  • cynllunio a chyflenwi gwasanaethau ar draws cymunedau lleol
  • system ofal fwy ataliol, ragweithiol a chydlynol sy’n cynnwys ymarfer cyffredinol ac ystod o wasanaethau ar gyfer cymunedau
  • dull gweithredu ar draws y system gyfan sy’n integreiddio gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol, ac sy’n cael ei hwyluso drwy gydweithredu ac ymgynghori
  • gofal i bobl sy’n cynnwys lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, ac sy’n cael ei gyplysu â dewisiadau ffordd iach o fyw
  • gofal integredig ac effeithiol 24/7, gan roi blaenoriaeth i’r bobl waelaf yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau.
  • creu cymunedau cryfach drwy roi grym i’r bobl a rhoi iddynt fynediad at amrywiol asedau, sy’n amrywio o fynediad i gyngor ar ddyledion a thai, i bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer clybiau garddio a chanolfannau hamdden.
  • cyngor a chefnogaeth i helpu pobl i gadw’n iach, gyda mynediad hawdd i wasanaethau lleol i gael gofal pan fo angen
  • arweinyddiaeth gref a phroffesiynol ar draws sectorau ac asiantaethau i sicrhau gwell ansawdd
  • atebion technolegol i wella mynediad i wybodaeth, cyngor a gofal, ac i annog hunan ofal.

2. Cyhoedd gwybodus

Mae darparu templed ar gyfer gwasanaeth da ac egluro ei fanteision yn holl bwysig i sicrhau llwyddiant oherwydd fe all addysgu a grymuso pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain. Mae gofyn i strategaethau cyfathrebu roi ffocws pendant ar ofal er mwyn hyrwyddo modelau newydd a datblygiadau newydd mewn gwasanaethau ymysg y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.

Mae’n bosibl y bydd gofyn gweithredu mewn amrywiol ffyrdd i sicrhau newid mewn ymddygiad oherwydd y gwahaniaethau diwylliannol rhwng ardaloedd. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn defnyddio ymyraethau byr a dylent gymryd pob cyfle i roi cyngor i helpu pobl i wneud dewisiadau positif yn eu ffordd o fyw. Pan fo pobl yn deall pwysigrwydd hunan-gyfrifoldeb, maent yn fwy tebygol o fynd i arferion sy’n rhoi iddynt yr iechyd a’r lles gorau.

3. Cymunedau grymus

Anogir pobl i wneud dewisiadau gwybodus gyda help eu tîm gofal lleol a drwy eu cynnwys yn y broses o ddylunio eu gwasanaethau lleol a drwy ddefnyddio’r adborth ar brofiadau defnyddwyr. Gall hyrwyddwyr lleol rannu eu profiadau positif o ofal iechyd a chymunedol, ac mae technegau cyfweld a hyfforddi fel arfer yn effeithiol i gymell pobl i newid eu harferion.

4. Cymorth ar gyfer llesiant, atal a hunanofal

Pan fo pobl a gofalwyr yn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â’u triniaeth, maent yn fwy tebygol o ofalu amdanynt eu hunain a chymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd. Mae nifer o adnoddau lleol ar gael i hyrwyddo hunanofal a hunan-gyfeirio, a gall technoleg helpu â monitro, hunan-ofalu a chyfathrebu.

5. Gwasanaethau lleol

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn awr gyfeirio pobl at ystod ehangach o wasanaethau sy’n darparu’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar iechyd a lles. Rhaid i’r gwasanaethau lleol hyn fod o fewn cyrraedd hawdd, bod yn hawdd eu cynnal a bodloni anghenion y gymuned.

Bydd pobl yn gallu siarad â’u timau iechyd mewn amrywiol ffyrdd – dros y ffôn, e-bost neu drwy alwad fideo – i helpu i benderfynu ar y driniaeth orau iddynt hwy.

Mae’r model yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd lleol yn sefydlog ac yn gallu ymateb i alwadau’r dyfodol, tra bod cymorth gan fyrddau iechyd yn gallu helpu practisau meddygon teulu bregus.

6. Gweithio’n Ddi dor

Pan fo staff yn gweithio ar draws gwahanol adrannau, mae’n gwella effeithlonrwydd ac yn sicrhau bod y gymuned leol yn gallu cael mynediad at arbenigedd clinigol, cymdeithasol ac arbenigedd rheoli. Mae timau cydlynol yn cynnwys gweithwyr proffesiynol fel fferyllwyr, ffisiotherapyddion, gweithwyr cymdeithasol, parafeddygon, cymdeithion meddygol, therapyddion galwedigaethol, cwnselwyr iechyd meddwl, dietegwyr, gweithwyr trydydd sector a staff eraill awdurdodau lleol, sy’n ymdrin ag anghenion bob dydd y boblogaeth leol.

Mae timau cydlynol yn chwalu’r rhwystrau sydd i’w cael mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol lleol i hyrwyddo arferion gweithio di-dor a newid mewn diwylliant, sydd o fudd i’r gymuned.

Yn ogystal, ceir cyd-gontractau, sesiynau dysgu a mannau gweithio a rennir, ynghyd â chyfleoedd i weithwyr proffesiynol gylchdroi rhwng gwahanol sectorau. Ceir nifer o fodelau sy’n hyrwyddo trefniadau gweithio cydweithredol, megis ffederasiynau a mentrau cymdeithasol.

7. Systemau teleffon effeithiol

Bwriedir systemau teleffon diogel ac effeithiol i gyfeirio pobl at y gweithiwr proffesiynol neu’r gwasanaeth mwyaf priodol. Mae cyngor dros y ffôn yn briodol ar gyfer anghenion llawer o bobl ac, os caiff ei roi gan weithiwr proffesiynol sydd â phrofiad addas, gall leihau nifer yr ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae’r model teleffon hwn, sy’n asesu brys yr alwad, yn gallu cyfeirio pobl at y gwasanaeth gorau ar eu cyfer nhw.

Er enghraifft, gallai’r system deleffon gyfeirio pobl at:

  • weithwyr proffesiynol clinigol, gan gynnwys gweithwyr optometreg a deintyddol proffesiynol, sy’n gallu delio â phroblemau iechyd y llygaid, y dannedd a’r geg; fferyllwyr cymunedol sy’n gallu trin mân anhwylderau a delio â phroblemau sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth; a ffisiotherapyddion sy’n gallu delio â phroblemau cyhyrysgerbydol.
  • gwasanaethau anghlinigol lleol, pan fo’n briodol, gyda’r atgyfeiriadau’n cael eu cynorthwyo gan dimau neu weithwyr cyswllt sy’n rhoi cymorth anfeddygol.

8. Gofal y Tu allan i Oriau o Ansawdd

Mae’r gwasanaeth 111 ar ei newydd wedd yn delio â phobl sydd ag anghenion brys yn y cyfnod y tu allan i oriau. Diolch i systemau cyfathrebu da, mae gan dimau proffesiynol fynediad i’r cofnodion clinigol diweddaraf, sy’n hanfodol i bobl gael y gofal priodol, yn enwedig y rheini sydd â chyflyrau cymhleth a/neu sy’n cael gofal diwedd oes.

I ategu’r gwasanaeth 111 ceir cyfeiriadur gwasanaethau rhithwir cenedlaethol ac mae hefyd yn cyfeirio pobl at wasanaethau a ffynonellau cymorth lleol unrhyw adeg o’r dydd. Ar hyn o bryd, mae ar gael i drigolion mewn rhai ardaloedd, a chaiff ei gyflwyno’n raddol i weddill Cymru. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn Galw Iechyd Cymrucysylltu â ni.

9. Gwasanaethau mynediad uniongyrchol

Bydd pobl yn gallu cael mynediad at gyfres o wasanaethau iechyd lleol a allai gynnwys:

  • fferyllwyr cymunedol am gyngor a thriniaeth ar gyfer llawer o fân anhwylderau
  • optometryddion am gyngor a thriniaeth ar gyfer problemau llygaid arferol a brys
  • deintyddion ar gyfer y ddannodd ac iechyd y geg
  • ffisiotherapyddion ar gyfer problemau cyhyrysgerbydol
  • awdiolegyddion ar gyfer problemau clywed. 

Nid yw pob un o’r gwasanaethau hyn ar gael ym mhobman, ond byddant yn datblygu dros amser a bydd gwasanaethau lleol yn gyfrifol am rannu gwybodaeth am yr arlwy lleol.

10. Gofal Integredig i Bobl ag Anghenion Gofal Amryfal

Mae gweithio’n effeithiol yn golygu bod gan feddygon teulu ac uwch ymarferwyr fwy o amser i ofalu am bobl ag anghenion amryfal, sy’n aml yn hŷn ac â mwy nag un gwaeledd, gartref neu yn y gymuned. O’r herwydd, mae angen amseroedd ymgynghori llawer hwy i asesu, cynllunio a chydlynu’r gofal y rhagwelir y bydd arnynt ei angen.

Gellir helpu pobl sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol drwy ofal di-dor gan dimau adnoddau cymunedol a thimau gofal ac iechyd lleol integredig.

Gellir delio’n well â phroblemau lles, tai a chyflogaeth drwy ddull gweithredu amlbroffesiwn, system gyfan. Mae timau cydlynol mewn sefyllfa dda i ofalu am bobl ddifrifol wael y gellir eu trin gartref ac mewn canolfannau cymunedol. Gall y timau cymunedol hyn hefyd helpu i sicrhau bob pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty ynghynt.

Mae’r model di-dor hwn yn ymdrin â gofal mewn ffordd fwy rhagweithiol ac ataliol, a phan gaiff pobl eu trin ynghynt, maent yn ymateb yn well i gyngor a chymorth i ofalu amdanynt eu hunain, gan arwain at well canlyniadau a phrofiadau i bobl a gofalwyr.

Mae’n bosibl i’r model hwn gynnig ystod ehangach o ofal wedi’i drefnu ar gyfer y gymuned, gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol a thriniaethau, ynghyd â phrofion diagnostig. Gallai hefyd arwain at lai o atgyfeiriadau ac apwyntiadau heb eu trefnu, gan ganiatáu i staff ysbytai ganolbwyntio’u hadnoddau ar y rheini sydd angen gofal mewn ysbyty ac ar ofal arbenigol wedi’i drefnu.

11. Sut i gefnogi’r trawsnewid

Rhaid sefydlu seilwaith effeithiol sy’n addas ar gyfer gwaith amlbroffesiwn ar lefel uwch i gefnogi’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru. Rhaid i systemau data a chyfleusterau iechyd lleol fod yn hyblyg ac yn ymatebol i newidiadau i’r dyfodol ac ategu systemau teleffon a gwaith amlbroffesiwn. Dylid annog pobl i ddefnyddio dewisiadau digidol i geisio gofal a’i dderbyn, a dylid darparu i adrannau ar yr un pryd fynediad uniongyrchol i wasanaethau yn y gymuned sy’n gallu cyflenwi gofal o ansawdd yn agosach at adref.

12. Canlyniadau disgwyliedig

Mae tystiolaeth ac ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol yn dangos y bydd manteision posibl y Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn cynnwys:

  • gwell iechyd a lles
  • cymunedau cryfach
  • gwell morâl, cymhelliant a lles ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • gwell ffigurau recriwtio a chadw staff
  • modelau gofal sy’n para’n hirach

Atodlen B: Detholiad o adroddiad gwella diweddaraf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y mesurau arbennig

4.4 Gofal sylfaenol

4.4.1 Disgwyliad: Cynnal y cynnydd dros gyfnod y gaeaf i weithredu’r safonau cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth y tu allan i oriau

Mae gwasanaethau tu allan i oriau meddygon teulu yn awr wedi’i dynnu o’r mesurau arbennig.

4.4.2 Disgwyliad: Tystiolaeth o wasanaethau gofal sylfaenol mwy cadarn a chynaliadwy

Mae’r weledigaeth ar gyfer clystyrau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, cadarn a chynaliadwy wedi cael ei datblygu, fel y disgrifir isod. O ran gwella cadernid gofal sylfaenol, ymysg yr effeithiau yr oedd llai o ymddiswyddiadau o bractisau meddygon teulu, practisau meddygon teulu a reolir yn symud yn ôl ar gontractau’r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, a’r holl leoliadau i feddygon teulu dan hyfforddiant yng ngogledd Cymru wedi’u llenwi am y tro cyntaf.

4.4.3 Disgwyliad: Wedi cytuno ar weledigaeth, cyfeiriad a chynllun gweithredu ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol a’u bod wrthi’n cael eu cyflenwi

Mae’r weledigaeth ar gyfer clystyrau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, cadarn a chynaliadwy wedi cael ei llunio, gyda chamau gweithredu’r Bwrdd Iechyd wedi’u mapio yn y llif gwaith Gofal yn Agosach at Adref. Lluniwyd hwn ar y cyd â’r partneriaid, a chafwyd ymrwymiad gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y byddent yn cefnogi ac yn blaenoriaethu’r dull ar ôl cytuno arno’n ffurfiol.

4.4.4 Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyfrannu at fid llwyddiannus y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) i’r Gronfa Trawsnewid i gynorthwyo â’r gwaith o gyflawni’r weledigaeth a rennir ar gyfer clystyrau. Sefydlwyd Bwrdd Trawsnewid Cymunedol, â chyfarwyddwyr Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill y BPRh, yn dilyn y cais llwyddiannus i’r Gronfa Trawsnewid. Bydd gweithredu’r weledigaeth ar gyfer clystyrau, dan arweiniad cydweithredol gyda mwy o annibyniaeth leol yn hanfodol i sicrhau llwyddiant. Trefnwyd gweithdy traws-sefydliadol i sicrhau bod manylion y cynigion yn gwneud synnwyr cyn dechrau eu cyflwyno’n raddol yn ddiweddarach. Disgwylir cyflawni’r disgwyliad hwn yn llwyr yn dilyn y gweithdy ym mis Mai 2019.

4.4.5 Disgwyliad: Y rhaglen wedi’i sefydlu mewn partneriaeth i ddatblygu a gweithredu cynigion y cytunwyd arnynt ar gyfer cyflunio canolfannau iechyd a lles yng Ngogledd Cymru

4.4.6 Cynlluniwyd llif gwaith ar gyfer canolfannau iechyd a lles gan gyfeirio at y strategaeth Gofal yn Agosach at Adref. Mae dialog parhaus yn mynd rhagddi â’r partneriaid ac â rhanddeiliaid eraill er mwyn deall yn well y gofynion mewn canolfannau ar wahanol lefelau ac ar lefel clystyrau, gan gynnwys yr ystâd nad yw’n perthyn i’r Bwrdd Iechyd. Cafodd strategaeth ystadau’r Bwrdd Iechyd ei hehangu i gynnwys ystyriaethau ynglŷn ag ystadau gofal sylfaenol.

4.4.7 Cydnabyddir y bydd gofyn i’r ystâd gael ei defnyddio mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill os ydym am sicrhau llwyddiant.

Atodlen C: Esiamplau o’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru yng Ngogledd Cymru

Darparwyr gofal sylfaenol Nifer
Practisau meddygon teulu 105
Fferyllfeydd cymunedol 154
Practisau deintyddol y GIG 93
Practisau optometreg 75

Practisau meddygon teulu - data ar 30 Medi 2018
Fferyllfeydd cymunedol – data ar 2017/18
Practisau deintyddol y GIG - data ar 28 Chwe 2019 (see egdpprac).
Practisau optometreg – data ar 31 Mawrth 2019

Practis Meddygon Teulu Prestatyn Iach

Cydran o’r Model: Teleffoni Effeithiol *i gyfeirio ac atgyfeirio pobl at y gweithiwr proffesiynol iawn).

Disgrifiad byr

Mae model y gwasanaeth yn hanfodol i gynaliadwyedd ymarfer cyffredinol ac mae’n seiliedig ar yr egwyddor nad yw meddygon teulu ond yn gwneud yr hyn y mae’n rhaid i feddygon teulu ei wneud, gyda chefnogaeth tîm amlddisgyblaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gan ddefnyddio’r drefn o gyfeirio at wasanaethau. Ceir esiamplau eraill ar draws Gogledd Cymru, yn benodol Blaenau Ffestiniog.

Mae’r model Prestatyn Iach wedi’i greu o amgylch ‘Timau Allweddol’ o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r timau yn cynnwys amrywiol weithwyr proffesiynol medrus iawn, nid dim ond meddygon teulu. Mae’r dull hwn yn caniatáu hyblygrwydd ac mae’n rhoi i’r claf fynediad at amrywiol weithwyr proffesiynol sy’n gallu bodloni eu hanghenion gofal iechyd. Mae’n sicrhau bod gan feddygon teulu amser i ganolbwyntio ar y rheini sydd ag anghenion meddygol dyrys, a chynorthwyo gweddill y Tîm Allweddol ar yr un pryd i roi arweinyddiaeth yn y gofal i’w holl gleifion.

Mae’r dull hwn wedi’i greu o amgylch carfanau o gleifion ac mae hyn yn galluogi dilyniant yn y gofal gyda chleifion yn meithrin perthynas ag aelodau’r Tîm Allweddol. Mae pob gweithiwr proffesiynol yn meddu ar amrywiol alluoedd a gwybodaeth, gan arwain at Dîm Allweddol sy’n meddu ar ystod ehangach o sgiliau nag a fyddai gan feddyg teulu ar ei ben ei hun.

Hyfforddiant i dderbynwyr meddygon teulu

Cydran o’r Model: Gwasanaethau lleol, systemau Teleffon Effeithiol.

Disgrifiad byr

Mae’r hyfforddiant llywiol i dderbynwyr yn dystysgrif achrededig 4 modiwl sy’n canolbwyntio ar ddatblygu derbynwyr mewn practisau meddygon teulu i ddarparu iddynt y sgiliau a’r offer i gyfeirio cleifion yn fwy effeithiol at wasanaethau cymunedol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Uwch ffisiotherapyddion ymarfer

Cydran o’r model: Gwasanaethau Lleol, Gwaith Di-dor a Gwasanaethau Mynediad Uniongyrchol.

Disgrifiad byr

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig i bobl sydd â phroblemau cyhyrysgerbydol weld Uwch Ymarferydd Cyhyrysgerbydol Ffisiotherapi yn lleol yn hytrach na gweld eu meddyg teulu. Adroddodd y bwrdd iechyd ar ddiwedd Mawrth 2019 fod 73,720 o gleifion wedi defnyddio’r gwasanaeth Uwch Ymarferydd Ffisiotherapi ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2015

Uwch Ymarferydd Awdioleg, Practis Bradley, Canolfan Feddygol Glanrafon, yn yr Wyddgrug

Cydran o’r model: Gwasanaethau Lleol, Gwaith Di-dor a Mynediad Uniongyrchol.

Disgrifiad byr

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig i bobl sydd â phroblemau neu symptomau cysylltiedig â’r clyw/y clustiau gael eu hasesu gan weithiwr cymorth gofal iechyd/nyrs/awdiolegydd hyfforddedig, dan oruchwyliaeth Uwch Awdiolegydd Ymarfer. Nid yw pobl ond yn mynd at y meddyg teulu neu’r gwasanaeth eilaidd gofal y glust, y trwyn a’r gwddf (ENT) pan fo hynny’n glinigol angenrheidiol. Mae’r modelau gwasanaeth newydd eisoes wedi lleihau nifer yr atgyfeiriadau i adrannau ENT gofal eilaidd ac wedi rhyddhau amser meddygon teulu. Mae angen gwneud gwaith pellach i gyflwyno’r modelau gwasanaeth newydd ar draws Gogledd Cymru ac i rannu’r arferion gorau â byrddau iechyd eraill er mwyn datblygu hyn ar draws Cymru.

Cysylltu pobl â chymorth lles (presgripsiynu cymdeithasol)

Cydran o’r model: Cyhoedd Gwybodus, Cymunedau Grymus a Chymorth ar gyfer lles, atal a hunanofal.

Disgrifiad byr

Bu’r bwrdd iechyd yn cynnal rhaglen ar draws Gogledd Cymru gyda’r nod o gryfhau’r trefniadau presgripsiynu cymdeithasol. Cynhaliwyd prosiect Grŵp Cynefin yn Ninbych rhwng mis Ionawr 2019 a mis Mawrth 2019. Anfonwyd taflenni a ffurflenni cyfeirio at yr holl asiantaethau cyfeirio a’r meddygfeydd lleol cyn ffonio i esbonio ymhellach beth oedd y prosiect a’r system gyfeirio. Byddai’r claf/cleient yn cael ffurflen gyfeirio a chyfarwyddyd i fynd i Hwb Dinbych i archebu lle mewn dosbarth celf. Ceid hefyd ddewis i hunan-gyfeirio. Gallai cleientiaid/cleifion ddewis o blith llu o ddosbarthiadau dyddiol o gelf aml-gyfrwng, i wnïo a dosbarthiadau clai. Hefyd, roedd gweithdai diwrnod llawn unwaith ac am byth ar gael ac roeddent yn cynnwys: therapi lliw, meddylgarwch, ac atal straen.

Cyflenwi gwasanaeth Diabetes Cymunedol yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol Arfon

Cydran o’r model: Cymorth ar gyfer lles, atal, Cymunedau Grymus a Gwasanaethau Lleol.

Disgrifiad byr

Mae’r clwstwr wedi buddsoddi mewn dietegydd diabetig cymunedol i’r Ardal, a bu’n rhan o’r gwaith o sefydlu rôl Uwch Ymarferydd Nyrsio Diabetes newydd. Mae’r Uwch Ymarferydd Nyrsio Diabetes newydd yn awr yn cynnal clinigau arbenigol dan arweiniad nyrsys o bractisau Arfon, ac yn cynorthwyo ag Addysg Nyrsys Ymarfer yn yr ardal.

Gwasanaethau Cymunedol Amlbroffesiwn

Cydran o’r model: Gwaith Di-dor, Gwasanaethau Lleol a Gofal Integredig i Bobl ag Anghenion Cymhleth.

Disgrifiad byr

Mae Timau Adnoddau Cymunedol (TACau) yn awr yn gweithredu ar draws y bwrdd iechyd i ryw raddau. Mae defnyddio’r gronfa trawsnewid yn caniatáu i bartneriaid gymharu dulliau â gwahanol leoliadau daearyddol i sicrhau eu bod yn dysgu oddi wrth ei gilydd, ac yn awr i ddatblygu ac aeddfedu’r TACau ymhellach yng nghyd-destun eu hardaloedd.

Hyb Gofal Cymunedol yn Wrecsam

Cydran o’r model: Amryfal gydrannau.

Disgrifiad byr

Mae’r Hyb Gofal Cymunedol yn cynnig gofal a chymorth cydlynol i bobl sy’n ddigartref. Mae’n dwyn ynghyd asiantaethau megis gwasanaethau meddygon teulu, gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, yr Adran Gwaith a Phensiynau, gwasanaethau tai a digartrefedd ar draws pob sector o’r gymuned, gan ddefnyddio i’r eithaf ar yr adnoddau, yr arferion da a’r asedau cymunedol sydd eisoes ar waith.

Cynigion i’r Gronfa Trawsnewid

Mae’r Gronfa Trawsnewid yn buddsoddi’n sylweddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned.

Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dan bwysau ym mhobman – nid dim ond yng Nghymru. Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn cael gofal a chymorth, ac mae llawer o hwn ar gael am ddim. Mae hyn yn gwneud ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn ased cyhoeddus enfawr i bobl Cymru.

Rydym wedi buddsoddi’n drwm mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Fel y nodir yn y gyllideb ddiweddar, ar gyfer 2019/20 bydd cyfanswm o £192m o gyllid ychwanegol ar gael i iechyd a gofal cymdeithasol yn unol â Cymru Iachach.

Mae’r Gronfa Trawsnewid gwerth £100 miliwn yn ychwanegol at y £192 miliwn o gyllid sydd ar gael ar gyfer Cymru Iachach. Nod y gronfa yw cyflawni newid trawsnewidiol a chyflenwi modelau iechyd a gofal cymdeithasol newydd. Disgwylir i fodelau newydd sicrhau newid gan gynnwys gwaith partneriaeth mwy cadarn. Mae hyn yn hanfodol er mwyn creu newid sy’n dal i fod yn hyfyw ac yn fforddiadwy ar ôl i’r cyllid trawsnewid ddod i ben.

Nod y gronfa yw gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddatblygu’r modelau sy’n llwyddiannus, a disodli’r rhai sy’n llai llwyddiannus ac yn hen ffasiwn.

O ganlyniad, dylai pobl weld gwelliant yn eu gwasanaethau lleol. Isod rhestrir crynodeb o’r modelau a gymeradwywyd yng Gogledd Cymru;

Gwasanaethau Di-dor i Bobl ag Anableddau Dysgu – Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Nod y model gwasanaethau di-dor i bobl ag anableddau dysgu yw helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw’n fwy annibynnol a chael y gofal y mae arnynt ei angen yn agosach at adref drwy integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yn well.

Nod y prosiect yw:

  • sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn integreiddio’n well, gyda llai o systemau cofnodi dyblyg, fel nad oes raid i bobl ond ‘dweud unwaith’.
  • datblygu’r gweithlu er mwyn creu gwell ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud ag anabledd ymysg y gweithlu sector cyhoeddus ehangach. Dylai’r dull hwn leihau’r galw am wasanaethau anabledd dysgu arbenigol i’r dyfodol.
  • defnyddio technoleg gynorthwyol i helpu pobl ag anableddau dysgu i fod yn fwy annibynnol.
  • gweithredu newid cymunedol a diwylliannol drwy gynyddu nifer y bobl ag anableddau dysgu sydd mewn gwaith cyflogedig, sydd â mynediad i hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli, gyda dulliau rhanbarthol mwy effeithiol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.

Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru – Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Nod Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru yw hybu lles meddwl pobl yn yr ardal a sicrhau bod rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl a salwch meddwl yn cael y cymorth maent ei angen pan maent ei angen.

Nod y prosiect yw:

  • sefydlu fframwaith effeithiol ym mhob sir i nodi’r bobl sydd fwyaf agored i niwed a gweithredu drwy aml-asiantaethau i atal argyfyngau rhag digwydd.
  • datblygu llwybr gofal argyfwng aml-asiantaeth a fydd yn darparu gofal a chymorth darbodus (amser iawn, ymateb iawn, lle iawn) sy’n bodloni anghenion yr unigolyn.
  • ategu’r dull aml-asiantaeth o roi gofal mewn argyfwng drwy hyfforddi staff rheng flaen o bob sefydliad ynglŷn â’r rolau a’r cyfrifoldebau er mwyn gwella’r ymarfer a’r profiad i bobl mewn argyfwng, yn ogystal ag er mwyn atal problemau rhag gwaethygu.
  • yn rhan annatod o’r llwybr adfer i bobl, bydd y prosiect yn cyd-fynd â chynlluniau ar gyfer datblygu tai â chymorth yng Ngogledd Cymru a gwasanaethau allweddol nad ydynt ar gael ar hyn o bryd.

Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol – Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Y weledigaeth ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol yw y bydd ei wasanaethau cymunedol yn galluogi i help a chymorth cynnar gael eu darparu i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Drwy’r dull hwn, bydd y canlyniadau i unigolion yn gwella a bydd y galw am dderbyniadau i ysbytai a gofal yn lleihau dros amser. Mae’r prosiect yn disgwyl y bydd, dros y blynyddoedd nesaf, wedi lleihau’r angen am ofal yn yr ysbyty, ac y bydd triniaethau wedi newid yn iechyd, lles ac atal.

Nod y prosiect yw darparu:

  • gwasanaethau wedi’u cydlynu’n dda sydd wedi’u dylunio o amgylch ‘yr hyn sy’n bwysig’, gan sicrhau mynediad cyfartal a gwasanaethau wedi’u darparu yn yr iaith y mae pobl yn ei dewis
  • help i lywio’r system iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal ag i ddefnyddio amrywiol wasanaethau eraill a fyddai’n gwella eu lles
  • mynediad i lu o wasanaethau ataliol, cymorth cymunedol, cyngor a gwybodaeth
  • mynediad i lu o ymyraethau therapiwtig, cymorth cymunedol a gofal
  • cymorth i ddelio ag argyfwng, gofal diwedd oes a chyflyrau iechyd parhaus.

Cymorth Dwys ac Ymyrraeth Gynnar Integredig i Blant a Phobl Ifanc – Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Mae’r prosiect hwn yn gweld cyfleoedd mewn datblygu ei wasanaethau ymhellach er mwyn darparu dulliau di-dor integredig o roi cymorth cynnar, ynghyd â chefnogaeth ac asesiad mwy ymatebol ac amserol i sicrhau gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Drwy gyfrwng dull system gyfan sy’n canolbwyntio ar y teulu, bydd y prosiect hwn yn trawsnewid cymorth ac ymyrraeth gynnar integredig, mewn ffordd integredig, i ddarparu’r cymorth a’r dull iawn i greu teuluoedd cryfach.

Nod y prosiect yw:

  • helpu i atal problemau rhag gwaethygu drwy gymorth integredig amserol - gan gynnwys dulliau newydd o roi cymorth cynnar a chael mynediad i gymorth therapiwtig,
  • sefydlu timau ‘asesu a chynorthwyo’ aml-swyddogaeth sy’n darparu cymorth ymatebol a dwys sy’n ceisio cryfhau unigolion a theuluoedd ac annog camau effeithiol i atal sefyllfaoedd argyfyngus/cymhleth rhag gwaethygu
  • sicrhau gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc a lleihau’r angen am ymyrraeth statudol, hirdymor, ddrud.

Seilwaith

Y Fflint - £5.036m

Cymeradwywyd yr achos busnes ar gyfer canolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y Fflint ym mis Mawrth 2016. Bydd y ganolfan newydd arfaethedig yn disodli ac yn integreiddio’r gwasanaethau presennol a’r lletyau presennol a ddarperir o nifer o safleoedd, gan gynnwys Clinig Borough Grove ac Ysbyty’r Fflint. Agorwyd y Ganolfan newydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mai 2018.

Blaenau Ffestiniog -£3.99m

Cymeradwywyd yr achos busnes i ddatblygu canolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Tachwedd 2015. Bydd ystod a maint y gwasanaethau ym Mlaenau Ffestiniog yn cael eu hehangu a chaiff gwasanaethau eu hintegreiddio mewn un lleoliad. Caiff y prosiect ei gyflenwi drwy ail-ddatblygu’r ysbyty presennol. Agorwyd y ganolfan newydd yn ystod gaeaf 2017.

Ysbyty Coffa Tywyn - £5.1m

Canolfan gofal cymunedol a sylfaenol integredig a ward 16 gwely newydd. Agorwyd hon ym mis Ebrill 2016. Bydd yr estyniad 3 llawr yn darparu Canolfan Gofal Sylfaenol gyda ward 16 gwely newydd ar yr ail lawr. Caiff ardal y wardiau presennol wedyn ei haddasu ar gyfer cleifion allanol a therapïau. Bydd y cynllun yn darparu cyfres o gyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector integredig, wedi’u cyd-leoli.

Canolfan Adnoddau Gofal Sylfaenol Llangollen - £5.2m

Gyda’r datblygiad hwn gellir cyd-leoli’r gwasanaethau a ddarperir gan Bractis meddygon teulu Llangollen, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych a’r Trydydd Sector gyda’i gilydd ar un safle. Agorwyd y Ganolfan Adnoddau ym mis Medi 2015.

Canol Sir Ddinbych – oddeutu £1.7m

Mae’r datblygiad hwn i ail-ddatblygu safle Ysbyty Cymunedol Rhuthun yn rhan o gynlluniau gofal sylfaenol cychwynnol sydd yn yr arfaeth. Darparwyd ffioedd i’r Bwrdd Iechyd i ddatblygu’r achos busnes.