Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl y Datganiad Blynyddol o Gynnydd: Cynllun Cyflawni Iechyd Anadlol cyntaf, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, mae cyfraddau smygu yn disgyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, croesawodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y datganiad sy’n dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y camau sydd wedi eu pennu yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Anadlol. 

Dyma’r prif lwyddiannau sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad:

  • Mae llai o bobl yn smygu nag erioed o’r blaen, a’r cyfraddau yn is yn awr na tharged 2016, sef 20%
     
  • Mae pob meddyg teulu yng Nghymru wedi cael cynnig spirofesurydd newydd, sy’n helpu i roi diagnosis o gyflyrau penodol ar yr ysgyfaint a’u monitro 

  • Mae mwy na 400 o weithwyr iechyd proffesiynol wedi dechrau hyfforddi fel ymarferwyr spirofesurydd achrededig, a’r nod yw y bydd gan bob practis meddyg teulu o leiaf un aelod o staff sydd wedi’i hyfforddi
  • Yn y De, diolch i wasanaeth arbenigol sydd wedi cael ei gyflwyno i helpu i reoli grŵp cymhleth o gyflyrau'r ysgyfaint sy’n cael eu galw yn Glefydau Interstitaidd yr Ysgyfaint, mae lleihad sylweddol wedi bod yn yr amser rhwng atgyfeirio unigolion a rhoi iddynt ddiagnosis. Mae tîm tebyg ar fin dechrau gweithio yn y Gogledd hefyd
  • Mae cefnogaeth a hyfforddiant gwell yn cael eu rhoi hefyd i gleifion sy’n rheoli eu asthma a’u clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) eu hunain
Dywedodd Vaughan Gething:

“Mae’r newidiadau hyn yn gwella ansawdd bywyd i lawer o bobl sy’n cael eu heffeithio gan glefydau anadlol, er ein bod ni’n gwybod bod mwy o waith i’w wneud. 

“Rydyn ni’n gweld cynnydd go iawn o ran gwella gofal i bobl sydd â chlefydau anadlol, a byddwn ni’n parhau i weithio gyda’r byrddau iechyd i gefnogi cleifion.”