Gallech gael cyllid gan eich awdurdod lleol i ddarparu gofal plant i blant 3 a 4 oed.
Yn 'Cynnig Gofal Plant Cymru' yn cynnig cyfuniad o ofal plant ac addysg gynnar i rieni ar gyfer eu plant 3 a 4 oed.
Gellir defnyddio'r cynnig gofal plant am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys 39 wythnos yn ystod y tymor, a 30 awr am 9 wythnos o wyliau'r ysgol.
Nid oes angen i chi ddarparu addysg gynnar, a elwir hefyd yn 'Ddarpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen' i gael cyllid. Gall rhieni ddewis mwy nag un darparwr i warchod eu plentyn.
Cymhwystra
Mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru fel darparwr gofal plant gyda rheoleiddiwr. Yng Nghymru, y rheoleiddiwr a'r arolygiaeth ar gyfer gofal plant yw Arolygiaeth Gofal Cymru, ac yn Lloegr Ofsted ydyw.
Faint o arian gewch chi
Gofal plant
Cewch £4.50 yr awr am bob plentyn sydd â hawl i gael elfen gofal plant y cynnig.
Addysg gynnar
Eich awdurdod lleol fydd yn penderfynu faint o arian a gewch chi.
Presenoldeb plant
Os nad yw plentyn yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch, byddwch yn dal i gael eich talu am yr oriau a archebwyd. Os yw plentyn yn parhau i fod yn absennol, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol.
Codi tâl am sesiynau
Os ydych yn codi tâl fesul diwrnod cyfan neu hanner diwrnod o ofal plant, bydd y cynnig gofal plant yn ariannu'r nifer o oriau sydd mewn sesiwn.
Er enghraifft, os ydych yn codi tâl diwrnod llawn ar blant sy'n bresennol o 8am tan 6pm, byddwch yn cael £4.50 am 10 awr. Bydd y rhiant wedi defnyddio 10 awr o'u hawl am ar wythnos. Nid oes gwahaniaeth a yw'r rhiant yn gollwng y plentyn yn hwyr neu'n ei gasglu yn gynnar.
Sut y cewch eich talu
Caiff taliadau eu rheoli gan awdurdodau lleol. Dylech gyflwyno'r oriau y mae pob plentyn wedi'i archebu i'r awdurdod lleol sy'n rheoli'r cynnig ar gyfer eich ardal.
Gwneud cais
Cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Taliadau am bethau ychwanegol
Cyfraddau atodol
Ni allwch godi tâl am gyfraddau atodol fesul awr os ydych fel arfer yn codi mwy na £4.50 yr awr.
Bwyd a gweithgareddau
Gallwch godi tâl am y canlynol:
- bwyd
- byrbrydau
- trafnidiaeth
- teithiau y tu allan i'ch gwasanaeth
Darllenwch ein canllawiau ynglŷn â faint y dylech ei godi.
Cysylltu
I gael cymorth a chefnogaeth, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.