Mae ymgynghorwyr mewn meddygaeth liniarol yn awr ar alw bedair awr ar hugain y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i blant, pobl ifanc ac oedolion.
Mae buddsoddiad o fwy na £1m yn y rhaglen Hosbis yn y Cartref wedi galluogi mwy o unigolion sy’n ddifrifol wael i gael eu rhyddhau o’r ysbyty neu’r hosbis yn sydyn a marw gartref os dyna yw eu dymuniad. Roedd 99% o’r cleifion a oedd yn dymuno marw gartref wedi gallu gwneud hynny mewn ardaloedd lle mae’r broses hon eisoes ar waith.
Mae gofal yn gwella mewn ysbytai hefyd, a mwy o ofal arbenigol ar gael bedair awr ar hugain y dydd. Mae prosesau a gweithdrefnau wedi cael eu rhoi ar waith ym mhob cwr o Gymru i gefnogi timau o nyrsys clinigol arbenigol i weithio saith diwrnod yr wythnos.
Mae ymgynghorwyr mewn meddygaeth liniarol yn awr ar alw bedair awr ar hugain y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i blant, pobl ifanc ac oedolion. Maent yn gweithio mewn timau rhanbarthol, ac maent yn gallu edrych ar gofnodion cleifion er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ynghylch gofal cleifion ag anghenion cymhleth.
Erbyn hyn, gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu am gleifion sy’n datblygu cyflwr angheuol yn sydyn ac yn annisgwyl gael ragor o hyfforddiant cyfathrebu ynghylch gofal diwedd oes. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod parafeddygon, a thimau gofal critigol a damweiniau ac achosion brys wedi cael eu paratoi’n well ar gyfer siarad â chleifion am eu cyflwr, eu dymuniadau a gwneud cynlluniau ar gyfer gofal diwedd oes.
Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
“Mae mwy o waith i’w wneud eto i atal achosion lle mae unigolion yn cael eu derbyn yn ddiangen i’r ysbyty ond rydyn ni wedi gweld gwelliannau go iawn mewn gwasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae yna enghreifftiau gwych o dimau byrddau iechyd yn gweithio’n agos gyda hosbisau gwirfoddol ym mhob cwr o Gymru i sicrhau bod mwy o bobl yn cael y gofal penodedig sydd eu hangen arnyn nhw ar ddiwedd eu hoes.”