Neidio i'r prif gynnwy

Dengys adroddiad newydd fod gofal diabetes ar gyfer plant a phobl ifanc yn gwella.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Datganiad Cynnydd  Blynyddol ar gyfer Diabetes yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer o blant a phobl ifanc sydd â diabetes math 1 ac sy’n llwyddo i gael lefel y glwcos yn y gwaed o fewn yr ystod darged wedi cynyddu o 17.8 % (yn 2014-15) i 27.2% (yn 2015-16).

Yn y cyfamser, mae nifer y rhai sydd â lefelau uchel o glwcos yn y gwaed wedi gostwng o 21.6% (yn 2014-15) i 18.6% (yn 2015-16).

Mae cyfradd y bobl ifanc sy’n cael profion sgrinio ar y traed, y llygaid a’r arennau fel rhan o’r prif brosesau hanfodol wedi gwella.

Hefyd, dengys yr adroddiad:

  • Gostyngiad yng nghyfradd y bobl sy’n marw o glefyd cardiofasgwlaidd yn llai, sy’n digwydd yn aml ymhlith pobl sydd â diabetes
  • Gwell gofal i gleifion sydd â diabetes yn yr ysbyty, gyda gostyngiad yn amser cyfartalog eu harhosiad
  • Gwell cyfleoedd i gleifion ddylanwadu ar wasanaethau diabetes 
  • Gwella gofal i fenywod beichiog sydd â diabetes
  • Llwyddiant y gwasanaeth sgrinio retinopathi diabetig
  • Mae’r prosiect ‘Think Glucose’ yn cefnogi gwelliant yn y gofal i gleifion tra bônt yn yr ysbyty
Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Cyflawni Diabetes. Wrth siarad cyn dadl a gynhelir yn ddiweddarach heddiw [dydd Iau 2 Mai] ar wasanaethau diabetes yng Nghymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod gofal diabetes pediatrig wedi gwneud camau breision mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r canlyniadau a welwyd dros y chwe blynedd diwethaf. Bydd effaith y gwelliant yn lefelau’r glwcos yn y gwaed ynghyd â rhai o’r gwelliannau mewn rhai o’r prosesau gofal hanfodol yn lleihau’r risg o gymhlethdodau yn y dyfodol. Mae hyn yn newyddion da i blant a phobl ifanc.

“Yn ogystal â’r gwelliannau mewn gofal diabetes pediatrig, rydym wedi gweld gwelliant mewn gofal ysbyty, gostyngiad yng nghyfradd y bobl sy’n marw oherwydd clefyd cardiofasgwlaidd, a gwell ymgysylltiad â chleifion.

“Un o’n prif nodau dros y blynyddoedd sydd i ddod yw parhau i gydweithio â’r cyhoedd mewn perthynas ag atal diabetes. Er nad oes ffactorau sy’n ymwneud â ffordd rhywun o fyw yn gysylltiedig â diabetes math 1, rhaid i ni i gyd leihau’r risg o ddatblygu diabetes math 2 drwy fod yn egnïol, bwyta deiet cytbwys a chynnal pwysau sy’n iach.”  

Dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru:

“Gallai diabetes gael cryn effaith ar lesiant corfforol a seicolegol unigolion a’u teuluoedd. Er hynny, gyda rheolaeth ofalus, dewisiadau iachus o ran eich ffordd o fyw a rheolaeth dda ar lefel y glwcos yn y gwaed, mae’r risg o gymhlethdodau yn lleihau’n sylweddol. 

“Yn ystod 2015-16, bu cynnydd parhaus o ran gofalu am gleifion sydd â diabetes yng Nghymru. Ar lefel Cymru gyfan, mae gwelliannau wedi digwydd o ran seilwaith, gan gynnwys creu nifer o swyddi arweinyddiaeth a strwythurau cyflenwi yn genedlaethol.

“Wedi dweud hyn, rydym yn dal i weithio er mwyn sicrhau bod safonau yn gyson uchel ar draws y system a bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Blaenoriaeth i ni yw sicrhau bod oedolion sydd â diabetes yn cael yr wyth archwiliad iechyd, dyna pam ein bod yn cydweithio â’r GIG i sicrhau bod yr archwiliadau yn cael eu cwblhau ac yn darparu mwy o gyfleoedd i ddysgu am ddiabetes er mwyn i bobl fod mewn gwell sefyllfa i reoli’r clefyd eu hunain.”