Tir Comin Glastir: canllaw i'r dyddiadur stocio
Sut i lenwi'r dyddiadur stocio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfarwyddiadau Desg ‘Sut i Lenwi’ ar gyfer Cymdeithasau Pori ar gyfer Opsiynau 1a (Stocio Safonol) ac 1b (Stocio Hyblyg)
Dyddiadur stocio ar gyfer blwyddyn galendr a blwyddyn cynllun 2023
Un o ofynion Cynllun Glastir −Tir Comin yw llenwi a chyflwyno dyddiadur stocio dyddiol ar gyfer 12 mis llawn y flwyddyn flaenorol (2023 yn yr achos hwn).
Drwy ddefnyddio'r templed a ddarperir, byddwch yn helpu swyddogion Llywodraeth Cymru i ddilysu'r dyddiadur yn gywir ac yn fwy effeithlon cyn.
Mae gofyn llenwi a chyflwyno'r dyddiadur hwn ar gyfer pob un o flynyddoedd y Contract Glastir − Tir Comin.
Rhaid cyflwyno'r dyddiadur hwn i Lywodraeth Cymru erbyn 14 Ionawr 2024.
Noder y bydd taliadau ar gyfer hawliadau Cynllun Glastir – Tir Comin 2023 yn cael eu gwneud erbyn 31/12/2023. Rhaid i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r dyddiadur stocio o 14/01/2024 barhau i gael ei fodloni gan bob Cymdeithas Bori. Bydd dyddiaduron stocio a gyflwynwyd ar ôl 31/12/2023 yn cael eu dilysu ar ôl eu derbyn a bydd unrhyw gosbau'n cael eu rhoi ar waith os ydynt yn dod i’r amlwg. Gall methu â chyflwyno dyddiadur stocio erbyn 14/01/2024 arwain at gosb.
Esboniad o'r tabiau
Cyfanswm (Cymdeithas Bori) − mae'r tab hwn yn rhoi cyfanswm yr holl anifeiliaid ac yn cyfrif yr Unedau Da Byw ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn galendr. Mae'r tab hefyd yn rhoi cyfanswm yr wybodaeth a nodwyd o dan y tabiau Porwr 1, Porwr 2 etc ac yn dangos y dyddiad perthnasol a'r math o anifail yn y tab.
Rhestr Porwyr – mae'r tab hwn yn dangos yr holl borwyr ar y Comin. Dylech roi'r holl wybodaeth y gofynnir amdani o dan y penawdau. Mae cwymplen 'Ewch i'r Tudalen Porwyr' ar gael ar frig y sgrin hefyd. Gallwch ddewis y gwymplen hon a mynd i tab porwr penodol.
Porwr 1, Porwr 2 etc – Dyma lle bydd pob porwr unigol yn cofnodi symudiadau stoc ar gyfer y flwyddyn gyfan. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu ac yna ei bwydo i mewn i'r tab Cyfanswm.
Sut i lenwi'r templed
Cyfanswm (Cymdeithas Bori)
Rhowch yr wybodaeth isod ar y tab 'Cyfanswm (Cymdeithas Bori)' ar frig y sgrin:
- Enw Masnachu eich Cymdeithas Bori
- Blwyddyn (dylai ddangos 2023)
Rhestr Porwyr
Llenwch yr holl fanylion y gofynnir amdanynt yn y penawdau o dan y tab hwn.
Porwr 1, 2, 3 etc.
Rhaid llenwi'r tabiau Porwr 1, 2, 3 etc er mwyn cyfrif cyfanswm yr Unedau Da Byw ar yr tir ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y flwyddyn galendr. Ar frig y sgrin, dylech roi enw'r Porwr; dylech hefyd gynnwys yr Enw Masnachu a'r CRN.
‘Dyddiad Stocio’ – o dan y golofn hon, dylech nodi'r dyddiad y newidiodd y lefelau stocio. Dylai'r cofnodion ddangos yr anifeiliaid a oedd ar y comin am hanner nos.
Er enghraifft, ar 01 Awst, mae 100 o anifeiliaid blwydd oed ar y comin yn y bore ac yna mae'r nifer yn cynyddu i 200 yn y prynhawn. Dylech gofnodi 200 ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Nodwch nifer yr anifeiliaid ym mhob colofn, gan ofalu eich bod yn defnyddio'r golofn gywir, oherwydd gallai peidio â gwneud hynny arwain at gosb am orbori/tanbori'r comin. Mae'n bosibl y bydd cosb hefyd os nad yw'r dyddiadur stocio'n cael ei gadw'n gywir.
Bydd y dyddiadur yn trosi nifer yr anifeiliaid yn Unedau Da Byw – nid oes angen i'r Porwr/Cymdeithas Bori drosi nifer yr anifeiliaid yn Unedau Da Byw.
Dylech sicrhau eich bod yn cofnodi'r holl fanylion yn gywir cyn cyflwyno'r templed i'w ddilysu gan Lywodraeth Cymru.