Mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall, wedi ymateb i ystadegau perfformiad diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd
Dywedodd Andrew Goodall:
“Mae ein ffigurau diweddaraf yn dangos mai’r mis diwethaf oedd y mis Ionawr prysuraf a gofnodwyd erioed yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Mae’r ffigurau ar gyfer pobl 85 oed a hŷn a dderbyniwyd i’r adrannau hyn yn dangos mai dyma’r cyfanswm ail uchaf mewn unrhyw fis sydd ar gofnod. Mae’r ffliw hefyd wedi effeithio ar gapasiti ar draws ein system, gan inni weld y cyfraddau uchaf ers chwe blynedd.
Yn ystod y cyfnod prysur hwn, mae staff ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi dal ati i ddarparu gofal brys a gofal wedi’i drefnu mewn modd proffesiynol a thosturiol. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad eithriadol a’u gwaith caled yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
Er gwaethaf y cynnydd yn ei lwyth gwaith yn ystod y mis prysuraf ond un sydd ar gofnod ganddo, llwyddodd gwasanaeth ambiwlans Cymru i gyrraedd y targed cenedlaethol ar gyfer ymateb i alwadau coch, fel y mae wedi gwneud bob mis ers cyflwyno’r model ymateb newydd.
Buom yn cydweithio’n agos â’r byrddau iechyd a’n partneriaid i ddatblygu cynlluniau ar gyfer tymor y gaeaf, gan fuddsoddi £60 miliwn o arian ychwanegol i ddarparu gofal brys ac i sicrhau bod modd i ofal oedd wedi’i drefnu fynd rhagddo. Er gwaethaf y pwysau cynyddol, cafwyd gostyngiad ddiwedd mis Rhagfyr yn nifer y bobl fu’n disgwyl am fwy na 36 wythnos i gael triniaeth, ac rydym yn disgwyl gweld amseroedd aros yn gostwng rhwng hyn a diwedd mis Mawrth. Cafodd mwy o gleifion canser eu trin o fewn yr amser targed rhwng Ionawr a Rhagfyr 2017 nag mewn unrhyw flwyddyn flaenorol.
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi ein system gofal iechyd, ac er gwaethaf y galw eithriadol roedd y ffigurau ar gyfer oedi cyn trosglwyddo gofal ar eu hisaf ar gyfer unrhyw fis Rhagfyr erioed heblaw dau. Y mis hwn, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £10 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, i gefnogi pobl yn eu tai a’u cymunedau ac i leddfu’r pwysau ar y GIG.
Byddwn yn parhau i ymateb i feysydd perfformiad lle mae angen gwella, ond er gwaethaf y galw eithriadol am wasanaethau, mae ein staff wedi ymateb yn gadarn a phroffesiynol i roi cymorth i gleifion y gaeaf hwn.”