Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi ymateb i ystadegau perfformiad diweddaraf y gwasanaeth iechyd ar gyfer mis Chwefror a mis Mawrth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd: 

"Er gwaethaf profi un o'r gaeafau prysuraf ar gofnod, mae'r gwasanaeth iechyd wedi llwyddo i ddarparu gofal amserol a phroffesiynol i gleifion yn y mwyafrif helaeth o achosion. 

"Dyma'r ail gyfnod prysuraf ar gofnod ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, a oedd yn cynnwys lefelau uchel iawn o'r ffliw a phobl hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Roedd y tywydd eithafol yn ystod dechrau mis Mawrth hefyd yn ei gwneud yn hynod anodd i'n gwasanaeth iechyd weithredu. Mae hyn wedi cael effaith amlwg ar amseroedd aros adrannau brys ledled Cymru. 

"Unwaith eto, hoffwn ddiolch i staff y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol am eu hymroddiad rhagorol wrth ddarparu gofal yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

"Rydyn ni wedi buddsoddi £20m yn ychwanegol dros gyfnod y gaeaf i helpu byrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ymdopi â'r pwysau ychwanegol. Er gwaetha'r pwysau parhaus ar ofal heb ei drefnu, roedd y byrddau iechyd wedi gallu gwneud cynnydd wrth ddarparu gofal wedi'i drefnu. Roedd yr amseroedd aros am driniaeth ym mis Chwefror yn well na'r mis blaenorol. Mae canran y bobl sy'n aros llai na 26 wythnos am driniaeth wedi gwella 1.7% dros y mis, ac mae nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos am driniaeth wedi gostwng 17%. 

"Mae nifer y bobl sy'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi penodol wedi gostwng 44% dros y mis gan gyrraedd y lefel isaf ers mis Awst 2011. Mae nifer y bobl sy'n aros dros 14 wythnos am wasanaeth Diagnosteg wedi gostwng tua thraean, ac mae wedi cyrraedd y lefel isaf ers mis Tachwedd 2010. 

"Yn ystod mis Chwefror, gwella wnaeth yr amseroedd aros am driniaeth ar gyfer canser ac i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.

"Mae ein buddsoddiadau parhaus mewn gwasanaethau cymdeithasol yn cael effaith amlwg, ac mae'r niferoedd a brofodd oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Mawrth yn parhau yn hanesyddol o isel, sef yr 8fed ffigur misol isaf ers 2004, er gwaetha'r holl bwysau ar y system. 

"Unwaith eto, fe wnaeth y Gwasanaeth Ambiwlans gyrraedd ei darged ar gyfer galwadau coch am y 30ain mis yn olynol ers cyflwyno'r model newydd er gwaethaf galw cynyddol parhaus a'r mis Mawrth prysuraf ar gofnod. Roedd nifer dyddiol y galwadau coch ar gyfartaledd ym mis Mawrth yn uwch na mis Chwefror 2018, ac am y pedwerydd mis yn olynol, mae'r cyfartaledd dyddiol wedi bod dros 70 o alwadau. 

"Rwy'n falch bod y gwasanaeth iechyd wedi parhau i ddarparu gofal brys a gofal iechyd wedi'i drefnu mewn modd proffesiynol yn ystod y cyfnod hynod brysur hwn. Mae gwaith cynllunio'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol wedi helpu i gyflawni hyn, ac rydym yn gweithio gyda nhw drwy'r flwyddyn i wella'r cynlluniau hyn ar gyfer y dyfodol. 

"Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod bod rhai cleifion wedi bod yn aros am gyfnod hirach nag sy'n dderbyniol. Rydyn ni wedi nodi'n glir ein disgwyliadau o ran perfformiad wrth fyrddau iechyd a byddwn yn gweithio gyda nhw i werthuso'r mesurau sydd wedi'u cymryd dros y gaeaf hwn."