Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi ymateb i ystadegau perfformiad diweddaraf y GIG.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Vaughan Gething: 

"Mae'r ffigurau hyn yn cadarnhau ein bod ni yn gweld y gaeaf prysuraf a gofnodwyd erioed. Ar ben lefelau uwch nag erioed o dderbyniadau brys i'r ysbyty, rydyn ni wedi gweld y lefelau uchaf ers blynyddoedd o'r ffliw a'r gyfran uchaf ers blynyddoedd o bobl hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty.

"Er gwaetha'r pwysau hwn, derbyniodd y mwyafrif llethol o'r cleifion ofal prydlon a phroffesiynol pan oedd ei angen. Hoffwn i ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol a'r gwirfoddolwyr am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb rhagorol wrth ddarparu gofal yn ystod y cyfnod digyfaddawd o heriol hwn. 

"Mae'r pwysau sy'n ein hwynebu bob gaeaf yn her i'r holl system iechyd a gofal ei ystyried ac ymateb iddo. Darparwyd £10 miliwn yn ychwanegol i Fyrddau Iechyd Lleol ym mis Ionawr mewn cydnabyddiaeth o'r pwysau eithriadol, a £10 miliwn arall ym mis Chwefror ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn helpu pobl i aros yn eu cartrefi neu ddychwelyd i'w cymunedau yn gynt. 

"Er gwaetha'r toriadau parhaus i'n cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rydyn ni'n buddsoddi mwy nag erioed yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru; gyda'r gwariant fesul person yn codi'n gynt yma yn 2016-17 nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi lefelau uwch nag erioed yng ngweithlu'r Gwasanaeth Iechyd. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cronfa gwerth £100 miliwn i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn barod at y dyfodol."

Ychwanegodd Mr Gething:  

"Fe gafodd y lefelau cynyddol o weithgarwch eu dwysau gan y gyfradd uchaf ers saith mlynedd o ymweliadau â'r Meddyg Teulu ar gyfer ffliw; tywydd oer eithriadol yn achosi cynnydd sydyn mewn clefydau anadlol; a chynnydd o 13% yng nghyfran y cleifion dros 75 oed a welwyd mewn Adrannau Argyfwng o gymharu â mis Chwefror llynedd.

"Er gwaetha'r pwysau, gwelwyd gwelliant yn y perfformiad yn erbyn y targed 26 wythnos, mae nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am ddiagnosis 31% yn is na'r adeg hon y llynedd ac 14 wythnos am therapi 68% yn is na llynedd, ac rydyn ni'n gobeithio gweld gwelliannau sylweddol eraill hyd at ddiwedd mis Mawrth. 

"Rwy'n croesawu'r ffaith i ni lwyddo i gyrraedd y targed o ran amseroedd ymateb ambiwlansys, a'r 5 munud 40 eiliad a gymerwyd ar gyfartaledd i gyrraedd at gleifion sy'n cael eu diffinio fel rhai lle mae bygythiad uniongyrchol i'w bywydau.  

"Roeddwn yn falch o nodi bod tipyn llai o bobl yn profi oedi wrth drosglwyddo gofal, gyda 51 yn llai o achosion o oedi na'r hyn a gofnodwyd ym mis Ionawr. Mae'r cyfanswm ar gyfer mis Chwefror gyda'r isaf erioed. Llwyddwyd i gyflawni hyn drwy waith cynllunio'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol. 

"Fodd bynnag, mae achosion wedi codi y gaeaf hwn pan oedd rhaid i gleifion aros am gyfnodau hwy na'r hyn sy'n dderbyniol. Rydyn ni wedi dweud yn glir wrth Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd beth yw ein disgwyliadau o ran ansawdd gofal a pherfformiad, ac fe fyddwn yn gweithio gyda nhw i werthuso'r gwelliannau a welwyd y gaeaf hwn."