Trosolwg o'r holl waith sy'n digwydd yn sefydliadau’r GIG i wella ansawdd y gofal yw Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2015.
Trosolwg o'r holl waith sy'n digwydd yn sefydliadau’r GIG i wella ansawdd y gofal yw Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2015.
Dywedodd Dr Goodall:
"Mae ein gwasanaeth iechyd yn trin pobl ar raddfa enfawr. Bob blwyddyn, mae 18 miliwn yn derbyn gofal sylfaenol, hanner miliwn o alwadau am ambiwlans a thri chwarter miliwn o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae’r adran frys yn gweld miliwn o bobl, caiff 78 miliwn o bresgripsiynau eu rhoi ac mae tair miliwn o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu cynnal.
“Rwy'n falch bod y corff uchel ei barch, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), wedi dod i'r casgliad yn ei adroddiad diweddar ar y DU, ein bod yn rhoi blaenoriaeth i ofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.
"Rydyn ni’n gweithio'n galed i sicrhau bod ein cleifion yn ddiogel. Un o'r meysydd yr ydym wedi bod yn canolbwyntio arno dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn gwella diogelwch cleifion yw sepsis. Mae'n argyfwng meddygol y mae angen ei drin ar fyrder ac sy'n gallu peryglu bywydau. O ganlyniad i offer sgrinio newydd a dulliau arloesol o ddarparu gofal yn syth, erbyn hyn mae 500 o bobl yn llai yn marw o’r cyflwr hwn yng Nghymru bob blwyddyn.
"Rydyn ni'n darparu gofal o'r radd flaenaf i nifer gynyddol o bobl. Mae 25% yn fwy na'r disgwyl o gleifion wedi cael triniaeth radiotherapi newydd IMRT yn Felindre. Mae hon yn driniaeth arloesol, manwl gywir sy'n lleihau'r risg o niweidio meinwe iach.
"Mae staff GIG Cymru yn gweithio i helpu pobl i fyw bywydau iachach, hirach, ac mae gweddill y DU yn dechrau sylwi ar ein dulliau arloesol. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr a'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi bod yn hyrwyddo'r ap Un Ddiod Un Clic, a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Alcohol Concern Cymru, sy'n helpu pobl i gadw golwg ar nifer yr unedau o alcohol y maen nhw'n eu hyfed.
“Mae'n bwysig cydnabod bod y GIG yn parhau i gynyddu a gwella disgwyliad oes sydd yn ei dro yn cynyddu'r galw am wasanaethau. Rydym yn gweithio ar hyd a lled y wlad i wella ansawdd – mae bron 20% o'n staff wedi'u hyfforddi mewn dulliau gwella ansawdd. "Er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu ein gwasanaethau o ganlyniad i'r galw cynyddol, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel a thosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar egwyddorion craidd y Gwasanaeth Iechyd."