Bydd canllawiau newydd yn helpu GIG Cymru i feithrin diwylliant lle mae 'Codi Llais' yn cael ei gefnogi a lle gwrandewir ar bob pryder.
Heddiw 20 Medi 2023, mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi cyhoeddi'r Fframwaith Codi Llais Heb Ofn ar gyfer GIG Cymru. Bydd y fframwaith hwn yn gwella'r gweithdrefnau presennol i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws Cymru. Bydd yn rhoi sicrwydd i staff y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif, ac yn cael gwrandawiad teg ac na fyddant yn arwain at ôl-effeithiau iddyn nhw yn bersonol.
Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur a chyflogwyr GIG Cymru, mae'n amlinellu cyfrifoldebau holl gyrff GIG Cymru, eu timau gweithredol a'u byrddau, ynghyd â chyfrifoldebau rheolwyr ac aelodau staff unigol i greu diwylliant lle mae 'Codi Llais' yn cael ei gefnogi mewn amgylchedd diogel a lle mae pawb yn gwybod sut i fynegi pryder ac yn gwybod beth yw'r broses a fydd yn dilyn.
Mae sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i ganiatáu i staff godi pryderon yn amddiffyn cleifion a staff yn well ac yn gwella profiadau pobl o ofal iechyd. Nod y fframwaith newydd yw sicrhau bod gan bob unigolyn lais, eu bod yn cael gwrandawiad a'u bod yn cael ymateb amserol a phriodol.
Yn dilyn digwyddiadau diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at holl Fyrddau Iechyd Cymru i ofyn iddynt nodi'r mecanweithiau sydd ganddynt ar waith i annog staff i siarad yn hyderus am unrhyw beth sy'n amharu ar ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:
Mae digwyddiadau diweddar wedi ein hatgoffa o ba mor hanfodol yw hi fod pawb sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus i siarad am unrhyw beth sy'n amharu ar ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Mae'n beth dewr i godi llais a rhannu pryderon, a gall eich gwneud yn agored i niwed. Mae'n rhaid i Reolwyr y GIG fod yn barod i wrando, delio â phryderon yn briodol a bod yn agored i her adeiladol.
Rwyf wedi ymrwymo i greu diwylliant lle mae codi llais yn cael ei groesawu a'i ystyried fel cyfle i wrando, dysgu a gwella. Bydd cyflwyno'r fframwaith yn helpu i gymell y newid hwn ac yn sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel, yn barchus ac yn gynhwysol i'r holl weithwyr.