Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi wedi llongyfarch cwmni o Gasnewydd, Tiny Rebel Games, ar lwyddiant eu gêm fideo ddiweddaraf

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Doctor Who Infinity yw'r gêm ddiweddaraf gan Tiny Rebel Games. Mae'r gêm newydd hon yn dilyn llwyddiant blaenorol y cwmni a'r gêm hynod lwyddiannus, Doctor Who Legacy, sydd wedi'i chwarae gan dros 2.5 miliwn o bobl ers ei lansio yn 2013.

Mae Doctor Who Infinity, sy'n cael ei rhyddhau yn y gwanwyn, yn blatfform newydd i adrodd stori yn rhyngweithiol ym mydysawd ehangach Doctor Who.  Mae'n dod â chriw o ysgrifenwyr ac arlunwyr adnabyddus llyfrau darluniadol Doctor Who at ei gilydd, yn ogystal â lleisiau actorion o'r gyfres deledu boblogaidd, gan gynnwys Michelle Gomez ac Ingrid Oliver. Mae'r gêm yn galluogi dilynwyr Doctor Who i chwarae trwy gyfres o storïau newydd, gwreiddiol yn cynnwys amrywiol Ddoctoriaid a phartneriaid y Doctor o'r gyfres wreiddiol yn ogystal â'r Doctor Who modern.  Caiff y gêm ei lansio ar y cychwyn ar gyfer cyfrifiaduron PC a Mac yn ddigidol ar Steam, ac yna'n ddiweddarach bydd ar gael ar amrywiol ddyfeisiadau symudol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Tiny Rebel Games i ddatblygu a marchnata'r gêm ddiweddaraf, gan ddarparu dros £300,000 o gyllid, yn ogystal â buddsoddiad ar y cyd gan Double Eleven Limited, gan fynd â'r gêm i'r Gynhadledd Datblygu Gemau yn San Francisco fel rhan o daith masnach Llywodraeth Cymru. Yn ystod y Gynhadledd, enillodd y gêm wobr gêm y sioe, gan UKIE - sef UK Interactive Entertainment.

BBC Studios sydd wedi rhoi'r drwydded i Tiny Rebel Games ar gyfer brand Doctor Who.

Dywedodd Ken Skates:

"Llongyfarchiadau mawr i Tiny Rebel Games am eu gwaith rhagorol ar Doctor Who Infinity ac am ennill y wobr bwysig Gêm y Sioe yn y Gynhadledd.

"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gydweithio'n agos â Tiny Rebel Games wrth helpu gyda datblygu, marchnata a dosbarthu'r gêm, ac roeddem wrth ein boddau i'w chynnwys fel rhan o'n taith fasnach ddiweddar i San Francisco.

"Mae'r wobr bwysig hon, llwyddiant Doctor Who Legacy a'r sylw positif y mae Doctor Who Infinity wedi'i gael ar y cyfryngau cymdeithasol a chan adolygwyr fel GameSpot, DigitalSpy, Tom’s Guide a ComicBook yn argoeli'n dda, ac rwy'n siŵr y bydd yn hwb i lwyddiant y Gêm pan gaiff ei lansio'n swyddogol fis nesaf."