Mae’r Maid of Sker, gêm ag iddi flas Cymreig a Chymraeg, wedi cael ei lawrlwytho miliwn o weithiau, yn sgil ennill gwobr TIGA y diwydiant gemau.
Cafodd Maid of Sker ei chynhyrchu gan Wales Interactive, cwmni o Ben-coed. Gêm arswyd am oroesi yw hi, wedi’i hysbrydoli gan chwedl y Ferch o’r Sgêr a’i lleoli mewn gwesty diarffordd. Yn ychwanegu at ei naws y mae fersiynau newydd o Calon Lân, Suo-Gân ac Ar hyd y Nos gan Tia Kaimaru a’i llais iasol. Enillodd y gêm y wobr Treftadaeth yn TIGA llynedd, ‘Oscars’ byd y gemau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Richard Pring, a gyd-sefydlodd y cwmni gyda’r Dr David Banner MBE:
“Cafodd Maid of Sker dderbyniad gwresog gan yr adolygwyr pan gafodd ei lansio haf diwethaf, ac mae hi bellach yn llwyddiant masnachol ysgubol, wedi’i lawrlwytho miliwn o weithiau. Mae’n llwyddiant cwbl Gymreig, gyda stori Gymreig gref, ac wedi’i chynhyrchu yn ein stiwdio ym Mhen-coed – bu rhai o’r tîm yn gweithio arni yn eu cartrefi dros y cyfnod clo hyd yn oed.
Tarddiad y teitl yw’r faled Y Ferch o’r Sgêr a’r nofel Saesneg gan R D Blackmore, awdur Lorna Doone, a oedd yn gyfarwydd â Sker House ger Porthcawl. Mae’r gêm wedi’i lleoli ym 1898, wedi’i hysbrydoli gan y stori iasoer am Elisabeth Williams, ac yn adrodd hanes ymerodraeth deuluol sy’n seiliedig ar artaith, caethwasiaeth, môr-ladron, a dirgelwch goruwchnaturiol sy’n mygu’r ddaear y saif y gwesty arni.
Llynedd, dywedodd y safle ffans Rely on Horror:
“Mae Maid of Sker yn amlwg yn un o gemau arswyd gorau’r flwyddyn hyd yma, ac yn dal ei thir hyd yn oed yn erbyn mawrion fel Resident Evil 3. 9/10
Ac er y pandemig, bu llynedd yn flwyddyn arbennig o brysur i dîm Wales Interactive. Lansion nhw dri theitl yn 2020, sef The Complex a Five Dates yn ogystal â Maid of Sker, wrth i’r diwydiant gemau weld galw aruthrol dros y cyfnodau clo. Maen nhw i gyd wedi cael eu canmol yn fawr gan y beirniaid ac wedi bod yn llwyddiant masnachol, gyda gemau’r cwmni’n cael eu lawrlwytho pedair miliwn o weithiau a’u portffolio o 20 o deitlau wedi’u gweld rhagor na 50 miliwn o weithiau trwy’r byd dros gyfnod o wyth mlynedd.
Gan brofi mor grefftus ac amryddawn yw’r cwmni, ffilm thriller sci-fi ryngweithiol yw The Complex lle mae penderfyniadau’n arwain at un o wyth diweddglo cyffrous. Enillodd ddwy wobr, y naill am Effeithiau Arbennig a’r llall am y Sain a’r Effeithiau Gweledol Gorau yng Ngwobrau Gŵyl Ffilmiau Prydain. Comedi rhamantus rhyngweithiol yw Five Dates am fyd anwadal caru ar-lein, gyda Mandip Gill (Doctor Who) a Georgia Hirst (Vikings) yn cymryd rhan, gyda llais Sinéad Harnett.
Mae Wales Interactive wedi elwa ar gymorth gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, trwy’r Gronfa Datblygu Digidol a thaith masnach i San Francisco ar gyfer y Gynhadledd i Ddatblygwyr Gemau. Derbyniodd Maid of Sker lawer o gymorth trwy gronfa datblygu gemau fideo Ewrop Greadigol a chawsant gymorth gyda’r cais trwy Ddesg DU Cymru Ewrop Greadigol, rhan o Gymru Greadigol.
Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol:
“Mae Wales Interactive yn enghraifft wych o gwmni masnachol lwyddiannus o Gymru sydd â’r talent a’r uchelgais i fod yn un o gwmnïau gemau gorau’r byd. Mae’r Maid of Sker wedi mynd â Chymru a’r Gymraeg at gynulleidfa fyd-eang newydd trwy gyfrwng gemau fideo, cymuned sydd wedi tyfu’n aruthrol yn ystod y pandemig.